Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 3 Ebrill 2019.
Diwygio lles—gadewch inni gael y ddadl honno ar ddiwrnod arall. Ond rwy'n poeni mwy am fy etholwyr na allant gael gafael ar driniaeth a chymorth pan fyddant ei angen, Leanne.
At hynny, gan droi at ddarparu gofal iechyd, hoffwn dynnu sylw penodol at y ddarpariaeth anghyfartal ac anghyson o ofal argyfwng a gwasanaethau y tu allan i oriau. Ymgorfforir yr anghysondeb rhanbarthol hwn gan Abertawe, sy'n cynnig cyswllt ffôn mewn argyfwng 24/7, o gymharu â Phen-y-bont a Chastell-nedd Port Talbot, sydd ond yn cynnig y gwasanaeth hwn o 9 a.m. tan 9 p.m. Ac fe fyddaf yn onest, nid oes gennyf unrhyw ddarpariaeth yn Aberconwy y gwn amdani, neu y gŵyr fy etholwyr amdani, ar ôl 5 o'r gloch. Pan fydd pobl yn teimlo ar eu gwaethaf—gall fod am 2 o'r gloch yn y bore, gall fod am 4 o'r gloch yn y prynhawn, gall fod am 7.15 gyda'r nos, ac nid oes gennym y gwasanaethau hynny ar waith. Mae angen system gymorth 24/7 365 diwrnod rywsut neu'i gilydd yng Nghymru.
Mae'r sefyllfa o ran cymorth mewn argyfwng hyd yn oed yn fwy brawychus ar gyfer plant a phobl ifanc. Yng Nghwm Taf a Chaerdydd a'r Fro, mae timau argyfwng CAMHS ar gael rhwng 10 a.m. a 10 p.m. saith diwrnod yr wythnos, ac eto ym Mhowys nid oes unrhyw wasanaethau ar gael ar benwythnosau neu ar ôl 5 p.m.. Rwy'n gofyn i'r Gweinidog: 'Beth sy'n cyfiawnhau amrywio o'r fath?' Yn sicr, dylai mynediad cyfartal at wasanaethau fod yn elfen endemig sy'n rhedeg drwy unrhyw wasanaeth a ddarperir ganddo fel Gweinidog iechyd.
Yn wir, o ran rheoli, dylai'r Siambr fod yn ymwybodol hefyd o'r problemau llety i bobl ifanc sy'n wynebu risg uchel. Ymhelaethodd fy nghyd-Aelod Mohammad Asghar yn dda ar y problemau a amlygir yn y diffyg gallu i recriwtio pobl yn yr uned yn Abergele, sy'n gweld pobl—ac mae hefyd yn gweld awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn gwario cannoedd o filoedd o bunnoedd er bod gennym ddarpariaeth hollol briodol o offer ac adeiladau yn Abergele, ond nid oes gennym staff hyfforddedig, cymwysedig.
Yn Aberconwy, mae canslo apwyntiadau iechyd meddwl ar fyr rybudd oherwydd prinder seiciatryddion ymgynghorol a gweithwyr arbenigol eraill wedi niweidio cleifion yn Nant y Glyn a Roslin. A phan fydd gennych broblem iechyd meddwl, mae cael eich apwyntiad wedi'i ganslo'n sydyn yn rhywbeth sy'n eich gwanychu'n eithafol iawn. Pan sonnir am hynny fel mater o bryder, ychydig iawn o sylw a gaiff.
Nawr, rwy'n edrych ymlaen at gynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' sydd ar y gweill ar gyfer 2019-22, ond peidiwch â gadael i hwn fod yn gynllun cyflawni arall gyda thargedau uchelgeisiol a llawer o eiriau gyda fawr ddim gweithredu. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog: os gwelwch yn dda, canolbwyntiwch ar anghenion y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl ledled Cymru, a gadewch inni fod yn arloeswyr ac yn hyrwyddwyr ar eu rhan, oherwydd maent yn rhan ganolog iawn o'n cymdeithas.