10. Dadl Fer: Pwy sy'n elwa ar dai cymdeithasol?

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 6:15, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ochr yn ochr â materion yn ymwneud â'r GIG, mae'r rhan fwyaf o fy mag post yn cynnwys materion yn ymwneud â thai cymdeithasol. Mae problemau cyson gyda chymdeithasau tai wedi fy arwain i holi pwy sy'n elwa o dai cymdeithasol. Yn fy mhrofiad i, yn sicr nid yw'r tenant yn elwa. Pan oedd tai cymdeithasol yn cael eu darparu gan gynghorau lleol, nid elw oedd yn eu gyrru, ac ar y cyfan, roeddent yn ymateb i anghenion eu tenantiaid.

Pan gafodd tai cyngor eu trosglwyddo ar raddfa eang ar ddechrau'r degawd hwn gan arwain at greu cymdeithasau tai, roedd i fod yn ddechrau cyfnod newydd ar dai cymdeithasol. Byddai'r stoc dai'n cael ei diweddaru a'i chynnal, ac elw gweithredu'n cael ei ailfuddsoddi i greu stoc dai newydd, gan roi diwedd ar y rhestrau aros o bump i 10 mlynedd am dai cymdeithasol. Yn anffodus, ni wireddwyd y weledigaeth fawr hon. Gwelodd rhai rhannau o Gymru gynnydd bychan yn y stoc dai, tra bod eraill wedi gweld y stoc dai'n lleihau. Dylem fod wedi bod yn adeiladu rhwng 3,000 a 4,000 o unedau tai cymdeithasol newydd bob blwyddyn. Dros y 10 mlynedd diwethaf, dim ond 6,000 o unedau tai cymdeithasol newydd a adeiladwyd.

Nid yw ansawdd tai cymdeithasol wedi gwella'n sylweddol ychwaith. Mae llai na 64 y cant o dai cymdeithasol yn cydymffurfio'n llawn â safon ansawdd tai Cymru. Mae bron 10 y cant yn methu cydymffurfio: 21,000 o deuluoedd sy'n gorfod byw mewn tai y bernir eu bod yn anaddas. Gyda hyn oll mewn golwg, nid yw'n syndod fy mod yn cael llu o gwynion am landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn fy rhanbarth. A'r tramgwyddwr gwaethaf rwyf am ei enwi yw Tai Tarian.

Crëwyd Tai Tarian, Cartrefi Castell-nedd Port Talbot yn ffurfiol, yn dilyn trosglwyddo 9,200 o dai cyngor gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn 2011. Mae Tai Tarian ar hyn o bryd yn rheoli 8,978 eiddo. Y llynedd, cyhoeddasant eu bod yn datblygu 37 o gartrefi newydd, gyda 10 ohonynt yn cael eu hadeiladu ar safle tai gwarchod sy'n cynnwys 20 eiddo. Nid yw 14 y cant o'u heiddo'n cydymffurfio'n llawn â safon ansawdd tai Cymru. Mae etholwyr wedi cysylltu â mi yn cwyno ynglŷn â faint o amser y mae'n ei gymryd i gael gwaith atgyweirio wedi'i wneud. Dywedwyd wrth un etholwr y byddai'n rhaid iddynt aros am dair blynedd am waith atgyweirio. Ac mae etholwyr wedi cysylltu â mi yn cwyno am renti cynyddol. Mae etholwyr wedi cysylltu â mi yn cwyno ynglŷn â'r codiadau didostur yn y ffioedd cynnal a chadw.

Yn Hogan House, yn Aberafan, mae un neu ddau o'r fflatiau mewn dwylo preifat. Mae Tai Tarian yn mynnu dros £6,000 gan bob un o'r trigolion am waith ailwampio ar Hogan House. Sut ar y ddaear y mae rhywun sy'n byw ar bensiwn pitw'r wladwriaeth i fod i ddod o hyd i filoedd o bunnoedd nad ydynt wedi cyllidebu ar ei gyfer? Er mwyn popeth, fflat bach yw hwn, a brynwyd gan rywun a aberthodd wyliau blynyddol a llawer o foethau eraill y bydd rhai ohonom yn eu cymryd yn ganiataol er mwyn bod yn berchen ar eu cartref eu hunain. Dywedir wrthynt yn awr os nad ydynt yn hoffi hynny, gallant naill ai adael neu werthu eu fflat i Tai Tarian. Ac mae'r sinig ynof yn meddwl tybed ai dyna yw'r nod: bwlio perchnogion preifat i adael.

Mae etholwyr wedi cysylltu â mi yn cwyno am fethiant i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a chlywais gan ddau o'r trigolion fod rhywun wedi ymosod arnynt, ar wahân. Yn hytrach na symud y tenant problemus, gofynnodd y gymdeithas dai os hoffai'r dioddefwyr symud.

Mae etholwyr wedi cysylltu â mi yn cwyno am gyflwr eu heiddo yn sgil gwelliannau honedig. Cysylltodd un etholwr â mi i gwyno bod cael gwared ar y balconïau oddi ar y bloc o fflatiau wedi gadael eu heiddo mewn cyflwr peryglus. Ac roedd preswylwyr wedi cwyno wrth Tai Tarian, yn gofyn am osod rhwystrau diogelwch i atal rhywun rhag syrthio i'w marwolaeth. A ddwywaith, anwybyddodd Tai Tarian y ceisiadau hyn.

Drosodd a throsodd, mae tenantiaid wedi dweud wrthyf fod Tai Tarian wedi bod yn rhwystrol, yn annymunol ac yn aml iawn yn gwbl sarhaus. Rwyf wedi bod yn gofyn i arweinwyr Tai Tarian ers y llynedd am gopïau o'u cofnodion hyfforddi ar gyfer staff rheng flaen er mwyn canfod pa hyfforddiant y maent yn ei gael mewn perthynas â thrin tenantiaid ag urddas a pharch—rhywbeth yr ydym yn cydymffurfio ag ef yn y Siambr hon. Hyd yma, ni chefais unrhyw fath o ymateb.

Mewn cyferbyniad, cododd problem gyda Coastal Housing a gafodd ei thrin yn hollol wahanol gan y sefydliad hwnnw. Roedd un o fy etholwyr wedi cwyno am y diffyg mynediad i'r anabl a achoswyd gan ddiffyg gwaith cynnal a chadw—roedd mieri wedi tyfu'n wyllt a phalmentydd rhy uchel yn cyfyngu ar fynediad i gadeiriau olwyn. Wrth gerdded trwodd, gwelais gannoedd o hen gynwysyddion petrol, olew a hylif gwrth-rewi. Pan gyflwynais dystiolaeth ffotograffig i Coastal Housing, cafodd y problemau eu datrys yn gyflym. Fodd bynnag, ni ddylai fod wedi cymryd ymyrraeth gan wleidydd i denantiaid gael eu problemau wedi'u datrys, ond o leiaf fe wnaeth Coastal Housing weithredu, yn wahanol i Tai Tarian.

Tra oedd hyn yn digwydd, gwnaeth Tai Tarian elw o £5.8 miliwn. Wrth gwrs, nid ydynt yn ei alw'n elw; 'gwarged gweithredu' ydyw. Ond mae hynny ar ôl ichi ystyried cyflog y cyfarwyddwyr: mae'r prif weithredwr yn ennill mwy na'r Prif Weinidog a'r uwch gyfarwyddwyr yn ennill mwy na dwywaith cyflog meddyg teulu.

Felly, gofynnaf i chi pwy sy'n elwa o dai cymdeithasol. Y tenantiaid sydd i fod i elwa, y rhai sydd mewn angen dybryd am dai, a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi. Yn lle hynny, y cyfan y mae fy etholwyr yn ei weld yw tai cymdeithasol yn cael eu defnyddio i wneud ychydig o bobl yn gyfoethog ar draul pawb arall.

Mae gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sy'n gweithredu fel sefydliadau dielw botensial i helpu i leihau tlodi drwy sicrhau cyflenwad parod o dai o ansawdd uchel sy'n effeithlon o ran eu defnydd o ynni ac sydd felly'n gwarantu rhenti rhatach a biliau tanwydd is. Mae llawer o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gwneud hyn a chymaint mwy, ond nid yw'r cyfan yn cael eu gweithredu cystal ac nid yw pob cymdeithas dai yn trin eu tenantiaid gyda'r urddas a'r parch y maent yn eu haeddu, ac nid oes digon ohonynt yn rhoi anghenion y tenantiaid hyn yn gyntaf.

Rhaid i hyn newid. Rydym yn wynebu argyfwng tai anferthol dros y degawdau nesaf, ac ni allwn fforddio gweld cymdeithasau tai yn gwneud cyn lleied. Rhaid i Lywodraeth Cymru osod set o ofynion ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i sicrhau eu bod yn gwella'r stoc dai bresennol ac yn adeiladu'r 3,000 i 4,000 o gartrefi newydd sydd eu hangen bob blwyddyn, heb gamfanteisio ar denantiaid presennol.

Mae'n hen bryd sicrhau mai tenantiaid yn unig sy'n cael budd o dai cymdeithasol. Gofynnaf i Tai Tarian, os gwelwch yn dda, i edrych ar y ffordd y maent yn trin y tenantiaid hyn. Yr isafswm cyflog a thâl sylfaenol ac ati y mae'r tenantiaid hyn yn ei gael, ac maent yn haeddu urddas a pharch, ac nid ydynt yn eu cael, ac mae cynifer ohonynt wedi cysylltu â mi fel na all fod yn un neu ddau achos yn unig. Diolch.