– Senedd Cymru am 6:15 pm ar 3 Ebrill 2019.
Galwaf y ddadl fer yn enw Caroline Jones.
Diolch, Lywydd. Ochr yn ochr â materion yn ymwneud â'r GIG, mae'r rhan fwyaf o fy mag post yn cynnwys materion yn ymwneud â thai cymdeithasol. Mae problemau cyson gyda chymdeithasau tai wedi fy arwain i holi pwy sy'n elwa o dai cymdeithasol. Yn fy mhrofiad i, yn sicr nid yw'r tenant yn elwa. Pan oedd tai cymdeithasol yn cael eu darparu gan gynghorau lleol, nid elw oedd yn eu gyrru, ac ar y cyfan, roeddent yn ymateb i anghenion eu tenantiaid.
Pan gafodd tai cyngor eu trosglwyddo ar raddfa eang ar ddechrau'r degawd hwn gan arwain at greu cymdeithasau tai, roedd i fod yn ddechrau cyfnod newydd ar dai cymdeithasol. Byddai'r stoc dai'n cael ei diweddaru a'i chynnal, ac elw gweithredu'n cael ei ailfuddsoddi i greu stoc dai newydd, gan roi diwedd ar y rhestrau aros o bump i 10 mlynedd am dai cymdeithasol. Yn anffodus, ni wireddwyd y weledigaeth fawr hon. Gwelodd rhai rhannau o Gymru gynnydd bychan yn y stoc dai, tra bod eraill wedi gweld y stoc dai'n lleihau. Dylem fod wedi bod yn adeiladu rhwng 3,000 a 4,000 o unedau tai cymdeithasol newydd bob blwyddyn. Dros y 10 mlynedd diwethaf, dim ond 6,000 o unedau tai cymdeithasol newydd a adeiladwyd.
Nid yw ansawdd tai cymdeithasol wedi gwella'n sylweddol ychwaith. Mae llai na 64 y cant o dai cymdeithasol yn cydymffurfio'n llawn â safon ansawdd tai Cymru. Mae bron 10 y cant yn methu cydymffurfio: 21,000 o deuluoedd sy'n gorfod byw mewn tai y bernir eu bod yn anaddas. Gyda hyn oll mewn golwg, nid yw'n syndod fy mod yn cael llu o gwynion am landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn fy rhanbarth. A'r tramgwyddwr gwaethaf rwyf am ei enwi yw Tai Tarian.
Crëwyd Tai Tarian, Cartrefi Castell-nedd Port Talbot yn ffurfiol, yn dilyn trosglwyddo 9,200 o dai cyngor gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn 2011. Mae Tai Tarian ar hyn o bryd yn rheoli 8,978 eiddo. Y llynedd, cyhoeddasant eu bod yn datblygu 37 o gartrefi newydd, gyda 10 ohonynt yn cael eu hadeiladu ar safle tai gwarchod sy'n cynnwys 20 eiddo. Nid yw 14 y cant o'u heiddo'n cydymffurfio'n llawn â safon ansawdd tai Cymru. Mae etholwyr wedi cysylltu â mi yn cwyno ynglŷn â faint o amser y mae'n ei gymryd i gael gwaith atgyweirio wedi'i wneud. Dywedwyd wrth un etholwr y byddai'n rhaid iddynt aros am dair blynedd am waith atgyweirio. Ac mae etholwyr wedi cysylltu â mi yn cwyno am renti cynyddol. Mae etholwyr wedi cysylltu â mi yn cwyno ynglŷn â'r codiadau didostur yn y ffioedd cynnal a chadw.
Yn Hogan House, yn Aberafan, mae un neu ddau o'r fflatiau mewn dwylo preifat. Mae Tai Tarian yn mynnu dros £6,000 gan bob un o'r trigolion am waith ailwampio ar Hogan House. Sut ar y ddaear y mae rhywun sy'n byw ar bensiwn pitw'r wladwriaeth i fod i ddod o hyd i filoedd o bunnoedd nad ydynt wedi cyllidebu ar ei gyfer? Er mwyn popeth, fflat bach yw hwn, a brynwyd gan rywun a aberthodd wyliau blynyddol a llawer o foethau eraill y bydd rhai ohonom yn eu cymryd yn ganiataol er mwyn bod yn berchen ar eu cartref eu hunain. Dywedir wrthynt yn awr os nad ydynt yn hoffi hynny, gallant naill ai adael neu werthu eu fflat i Tai Tarian. Ac mae'r sinig ynof yn meddwl tybed ai dyna yw'r nod: bwlio perchnogion preifat i adael.
Mae etholwyr wedi cysylltu â mi yn cwyno am fethiant i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a chlywais gan ddau o'r trigolion fod rhywun wedi ymosod arnynt, ar wahân. Yn hytrach na symud y tenant problemus, gofynnodd y gymdeithas dai os hoffai'r dioddefwyr symud.
Mae etholwyr wedi cysylltu â mi yn cwyno am gyflwr eu heiddo yn sgil gwelliannau honedig. Cysylltodd un etholwr â mi i gwyno bod cael gwared ar y balconïau oddi ar y bloc o fflatiau wedi gadael eu heiddo mewn cyflwr peryglus. Ac roedd preswylwyr wedi cwyno wrth Tai Tarian, yn gofyn am osod rhwystrau diogelwch i atal rhywun rhag syrthio i'w marwolaeth. A ddwywaith, anwybyddodd Tai Tarian y ceisiadau hyn.
Drosodd a throsodd, mae tenantiaid wedi dweud wrthyf fod Tai Tarian wedi bod yn rhwystrol, yn annymunol ac yn aml iawn yn gwbl sarhaus. Rwyf wedi bod yn gofyn i arweinwyr Tai Tarian ers y llynedd am gopïau o'u cofnodion hyfforddi ar gyfer staff rheng flaen er mwyn canfod pa hyfforddiant y maent yn ei gael mewn perthynas â thrin tenantiaid ag urddas a pharch—rhywbeth yr ydym yn cydymffurfio ag ef yn y Siambr hon. Hyd yma, ni chefais unrhyw fath o ymateb.
Mewn cyferbyniad, cododd problem gyda Coastal Housing a gafodd ei thrin yn hollol wahanol gan y sefydliad hwnnw. Roedd un o fy etholwyr wedi cwyno am y diffyg mynediad i'r anabl a achoswyd gan ddiffyg gwaith cynnal a chadw—roedd mieri wedi tyfu'n wyllt a phalmentydd rhy uchel yn cyfyngu ar fynediad i gadeiriau olwyn. Wrth gerdded trwodd, gwelais gannoedd o hen gynwysyddion petrol, olew a hylif gwrth-rewi. Pan gyflwynais dystiolaeth ffotograffig i Coastal Housing, cafodd y problemau eu datrys yn gyflym. Fodd bynnag, ni ddylai fod wedi cymryd ymyrraeth gan wleidydd i denantiaid gael eu problemau wedi'u datrys, ond o leiaf fe wnaeth Coastal Housing weithredu, yn wahanol i Tai Tarian.
Tra oedd hyn yn digwydd, gwnaeth Tai Tarian elw o £5.8 miliwn. Wrth gwrs, nid ydynt yn ei alw'n elw; 'gwarged gweithredu' ydyw. Ond mae hynny ar ôl ichi ystyried cyflog y cyfarwyddwyr: mae'r prif weithredwr yn ennill mwy na'r Prif Weinidog a'r uwch gyfarwyddwyr yn ennill mwy na dwywaith cyflog meddyg teulu.
Felly, gofynnaf i chi pwy sy'n elwa o dai cymdeithasol. Y tenantiaid sydd i fod i elwa, y rhai sydd mewn angen dybryd am dai, a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi. Yn lle hynny, y cyfan y mae fy etholwyr yn ei weld yw tai cymdeithasol yn cael eu defnyddio i wneud ychydig o bobl yn gyfoethog ar draul pawb arall.
Mae gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sy'n gweithredu fel sefydliadau dielw botensial i helpu i leihau tlodi drwy sicrhau cyflenwad parod o dai o ansawdd uchel sy'n effeithlon o ran eu defnydd o ynni ac sydd felly'n gwarantu rhenti rhatach a biliau tanwydd is. Mae llawer o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gwneud hyn a chymaint mwy, ond nid yw'r cyfan yn cael eu gweithredu cystal ac nid yw pob cymdeithas dai yn trin eu tenantiaid gyda'r urddas a'r parch y maent yn eu haeddu, ac nid oes digon ohonynt yn rhoi anghenion y tenantiaid hyn yn gyntaf.
Rhaid i hyn newid. Rydym yn wynebu argyfwng tai anferthol dros y degawdau nesaf, ac ni allwn fforddio gweld cymdeithasau tai yn gwneud cyn lleied. Rhaid i Lywodraeth Cymru osod set o ofynion ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i sicrhau eu bod yn gwella'r stoc dai bresennol ac yn adeiladu'r 3,000 i 4,000 o gartrefi newydd sydd eu hangen bob blwyddyn, heb gamfanteisio ar denantiaid presennol.
Mae'n hen bryd sicrhau mai tenantiaid yn unig sy'n cael budd o dai cymdeithasol. Gofynnaf i Tai Tarian, os gwelwch yn dda, i edrych ar y ffordd y maent yn trin y tenantiaid hyn. Yr isafswm cyflog a thâl sylfaenol ac ati y mae'r tenantiaid hyn yn ei gael, ac maent yn haeddu urddas a pharch, ac nid ydynt yn eu cael, ac mae cynifer ohonynt wedi cysylltu â mi fel na all fod yn un neu ddau achos yn unig. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl? Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i edrych ar bwysigrwydd tai cymdeithasol a'i fanteision yma yn y Siambr heddiw. Nid yn aml y byddaf yn anghytuno ag Aelod sy'n cyflwyno dadl fer, ond cefais fy hun yn anghytuno'n chwyrn iawn â llawer o'r hyn a ddywedodd Caroline Jones. Rwy'n siŵr fod ganddi'r llwyth achosion unigol y mae'n sôn amdano, ac mae ffyrdd o ymdrin â hynny, ond rwy'n anghytuno'n gryf â'r sylwadau cyffredinol a wnaeth am y casgliadau y daw iddynt o'i llwyth achosion yn y sector.
I ateb y cwestiwn yn nheitl y ddadl, rwy'n credu'n gryf fod y gymdeithas gyfan yn elwa ar dai cymdeithasol. Rydym i gyd yn elwa ar system dai cymdeithasol fywiog, lwyddiannus lle mae gan gymaint o deuluoedd â phosibl fynediad at gartref diogel, cynnes a lle mae cymunedau wedi'u hintegreiddio. Rydym i gyd yn elwa ar gael cartrefi a fyddai fel arall y tu hwnt i gyrraedd rhai o'r teuluoedd mwyaf agored i niwed, pobl hŷn a phobl anabl.
Soniodd Caroline Jones am ychydig o ystadegau ar ddechrau ei chyfraniad, ac roeddwn am fynd ar eu trywydd. Yn gyntaf oll, ni wnaeth y trefniadau trosglwyddo stoc arwain at greu cymdeithasau tai—mae llawer o gymdeithasau tai wedi bodoli ers llawer mwy o amser na hynny. Fe wnaeth arwain, wrth gwrs, at greu rhai cymdeithasau tai, sef y rhai a dderbyniodd y trosglwyddiad stoc.
O ran safon ansawdd tai Cymru, mae 91 y cant yn cydymffurfio â honno hyd yma, ac nid ydym ar ddiwedd y rhaglen eto. Mae'n bwysig cofio na fyddem yn disgwyl 100 y cant o gydymffurfiaeth cyn diwedd y rhaglen ar gyfer hynny. Ac mewn gwirionedd, mae lefel cydymffurfiaeth y sector cymdeithasau tai bron yn 100 y cant. Felly, roeddwn am gywiro ychydig o'r ystadegau yno, a rhai o'r disgwyliadau o hynny.
Yn amlwg, ceir ardaloedd lle gallem gael mwy o gartrefi o'n buddsoddiad mewn tai, a dyna pam y comisiynwyd yr adolygiad o gyflenwyr tai fforddiadwy gennym y llynedd, a bydd yr argymhellion ar ei gyfer yn cael eu cyflwyno ym mis Ebrill. Ac mae yna resymau eraill sy'n gysylltiedig â pham nad ydym wedi gallu adeiladu tai cyngor neu dai cymdeithasol fforddiadwy cyn gyflymed ag y byddem wedi hoffi gwneud, rhesymau a ailadroddwyd yn y Siambr hon eisoes, ond fe soniaf amdanynt eto, sef y trefniadau'n ymwneud â'r ffordd y rheolwyd y cyfrifon refeniw tai. Mae cael gwared ar y cap wedi golygu ein bod wedi gallu anfon trefniadau gwahanol at bob un o'r awdurdodau tai lleol sydd â chyfrifon refeniw tai, ac i gael trafodaeth gyda'r cynghorau nad oes ganddynt gyfrifon refeniw tai ynglŷn â'r ffordd orau o symud ymlaen ar fater tai cymdeithasol. Felly, credaf fod y darlun yn llawer mwy cynnil nag y gallai cyfraniad Caroline Jones fod wedi eich arwain i gredu.
Hoffwn sôn ychydig mwy ynglŷn â pham y credwn y dylai tai cymdeithasol fod yn brif flaenoriaeth, a pham y mae'n brif flaenoriaeth i ni. Mae'n darparu cartrefi o ansawdd yn ogystal â'r cymorth sydd ei angen i sicrhau bod pobl yn gallu cynnal eu tenantiaethau a ffynnu. Mae'n effeithio'n gadarnhaol ar iechyd, iechyd meddwl ac addysg, a dyna pam fod Cymru bob amser wedi cefnogi tai cymdeithasol, ers i'r Cynulliad ddod i fodolaeth.
Rydym yn cydnabod bod tai cymdeithasol yn galw am lefel uwch o gymhorthdal gan y Llywodraeth, ac rydym yn gyfforddus ynglŷn â hyn. Rydym yn cefnogi'r rhai y gall ein buddsoddiad gael yr effaith fwyaf arnynt. Gall y buddsoddiad hwnnw leihau'r gost i'r trethdalwr mewn meysydd eraill o bosibl. Felly, rydym wedi codi'r safonau ym maes tai cymdeithasol. Mae safon ansawdd tai Cymru yn sicrhau, er enghraifft, safon inswleiddio categori D, ac yn yr iteriad nesaf o safon ansawdd tai Cymru, byddwn yn edrych ar ei godi i gategori A. Felly, nid oedd modd trawsnewid y stoc dros nos o lle'r oedd i gategori A, ond byddwn yn cael yr ail ran o hynny pan fyddwn yn trafod codi'r safon honno.
Mae'r gwaith adeiladu newydd ar dai a adeiladwyd gan gymdeithasau tai lleol, sef yr unig bobl a oedd yn gallu eu hadeiladu tan y newid rwyf newydd ei grybwyll, Ddirprwy Lywydd, wedi sicrhau bod pob cartref newydd yn cyrraedd y safon erbyn 2020, a bydd yr holl stoc bresennol yn ei chyrraedd erbyn 2036. Mae'n ddrwg gennyf, mae fy llygaid y drwg. Mae'n dweud 2036. Roeddwn yn meddwl ei fod yn dweud 2038.
Felly, rwyf am roi stop ar yr awgrym roedd Caroline Jones i'w gweld yn ei wneud, fod tai cymdeithasol rywsut yn is na'r safon, ac ati, oherwydd yn bendant nid yw hynny'n wir. Yn ystod yr amser cymharol fyr y bûm yn Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, rwyf wedi gweld drosof fy hun pa mor bwysig yw tai diogel o ansawdd da i iechyd a lles y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Cefnogir ein hagenda integreiddio gan £105 miliwn o'r gronfa gofal integredig, gyda'r nod o wella gwasanaethau cyhoeddus drwy wneud gweithio cydweithredol yn ofyniad penodol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd, tra'n caniatáu lle ar gyfer arloesi. Er bod y gronfa yn dechrau cefnogi atebion ar sail llety ar gyfer gofal cymdeithasol ochr yn ochr â rhaglenni cyfalaf iechyd a thai, rydym yn ei chefnogi i symud tuag at ddatblygu rhaglen strategol fwy graddadwy o fuddsoddiad cyfalaf gyda thai'n ganolog iddi. Rwyf am weld y dull ar sail llety wedi'i wreiddio yn y modelau gofal a ddatblygwn ar gyfer pobl a grwpiau sy'n agored i niwed. Roeddwn yn cytuno â Caroline Jones fod angen llety arbenigol ar grwpiau agored i niwed, a dyna'n union y mae ein cronfa gofal integredig yn anelu tuag ato.
Fe fydd pawb ohonoch yn ymwybodol ein bod, fel Llywodraeth, wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Cartrefi rhent cymdeithasol fydd y rhan fwyaf o'r targed hwnnw, er fy mod yn cydnabod bod angen cartrefi ychwanegol ledled Cymru. Rydym wedi buddsoddi'n drwm mewn tai cymdeithasol ac mewn tai yn fwy cyffredinol yn ystod y tymor hwn, ond nid yw ein hadnoddau'n ddiderfyn. Rhaid inni feddwl yn greadigol ynglŷn â sut y gallwn gyflawni mwy o'n buddsoddiad ac mae hyn yn rhywbeth rwyf wedi herio fy swyddogion i'w wneud. Mae'r her yn ganolog hefyd i'r adolygiad annibynnol o gyflenwyr tai fforddiadwy a gomisiynwyd gennym, ac a fydd yn cyflwyno'i adroddiad ddiwedd mis Ebrill.
Un maes lle rwy'n argyhoeddedig y gallwn weld cynnydd yn nifer y tai cymdeithasol a ddarperir yw drwy weld awdurdodau lleol yn adeiladu eto, ac yn hynny o beth rwy'n cytuno â Caroline Jones. Credaf fod angen i awdurdodau tai lleol ddechrau adeiladu cartrefi cymdeithasol unwaith eto. Gan fod y cap benthyca a osodwyd gan Lywodraeth y DU wedi cael ei ddiddymu yng Nghymru, gall awdurdodau ddechrau adeiladu unwaith eto, ac fe fyddant yn gwneud hynny. Cefais sgyrsiau da iawn ledled Cymru gydag awdurdodau lleol sy'n awyddus ac yn barod i wneud hynny. Gallant gael mynediad at gyllid cost isel hirdymor iawn drwy'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, a byddaf yn eu hannog i'w ddefnyddio er mwyn hybu prosiectau adeiladu tai cyngor uchelgeisiol ledled Cymru.
Rwyf hefyd yn cydnabod bod yna agweddau ar y modd y defnyddiwn ein stoc tai cymdeithasol nad ydynt yn berffaith ym mhob cwr o Gymru. Rwyf wedi bod yn glir mai fy uchelgais yw inni adeiladu digon o dai cymdeithasol safonol fel bod pawb sydd am eu cael yn gallu eu cael. Tan hynny, rhaid inni wneud y gorau a allwn i sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau posibl o'n tai cymdeithasol i ddiwallu anghenion y rheini sydd eu hangen fwyaf.
Nid yw troi teuluoedd allan o dai cymdeithasol, yn enwedig mewn awdurdodau lleol sy'n landlordiaid tai cymdeithasol, yn gwneud unrhyw synnwyr. Pan fydd teulu wedi'i wneud yn ddigartref, maent yn debygol o gael eu symud i lety llai diogel neu lety dros dro hyd yn oed, ac yn y sefyllfa waethaf gallai hyn olygu gwesty gwely a brecwast. Mae gan yr awdurdodau ddyletswydd i gefnogi teuluoedd er mwyn atal digartrefedd neu ei liniaru lle na ellir ei atal. Mae atal go iawn yn golygu cynorthwyo teuluoedd i lwyddo i gynnal eu tenantiaethau ac aros yn eu cymunedau. Dyna y dylem fod yn ceisio ei gyflawni, a dyma'r pwynt y byddaf yn ei bwysleisio i awdurdodau lleol. Dyma sgwrs y byddaf yn ei chael gyda chymdeithasau tai hefyd.
Felly, soniodd Caroline Jones am un neu ddau o bethau penodol yn ei llwyth achosion y buaswn yn hapus iawn pe bai'n eu hanfon ataf, oherwydd hoffwn edrych yn fanylach ar y manylion penodol. Ond yn gyffredinol, nid ystyried troi rhywun allan am ymddygiad gwrthgymdeithasol yw'r ffordd ymlaen. Y ffordd ymlaen yw mynd i'r afael â'r ymddygiad gwrthgymdeithasol a'i gadw dan reolaeth a chaniatáu i'r teulu barhau gyda'u tenantiaeth. Felly, i fod yn glir, credaf nad ydym ar yr un dudalen yn llwyr ar rai o'r pethau hynny.
Yn y cyfnod ansicr hwn, gyda Brexit heb ei ddatrys, rydym yn parhau'n ymrwymedig i sicrhau bod tai cymdeithasol yn parhau i fod yn flaenoriaeth yng Nghymru. Gwn o ddadl ddiweddar fod llawer ohonom ar draws y llawr yn rhannu'r un dyheadau ar gyfer tai cymdeithasol ac rwy'n barod i weithio gyda'r Aelodau ar yr agenda hon.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, tai cymdeithasol o ansawdd da yw'r sylfaen ar gyfer teuluoedd a chymunedau cryf, y sylfaen ar gyfer iechyd da, a'r sylfaen ar gyfer addysg dda. Bydd y Llywodraeth hon yn parhau i gefnogi'r ased hanfodol hwn sydd o fudd i bob un ohonom. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.