Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 3 Ebrill 2019.
Wel, dwi'n meddwl bod hwn yn bwnc sensitif tu hwnt, a dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn ofalus ein bod ni ddim yn cau'r cyfle off i ni alluogi mwy o bobl i gael y cyfle i ddysgu Cymraeg. A dwi'n meddwl, os oes yna ymrwymiad i bobl ddysgu Cymraeg pan maen nhw'n dod mewn i swydd, mi ddylen ni fod yn annog hynny hefyd. Felly, dwi yn meddwl bod rhaid i ni gymryd y cyfle i sicrhau ein bod ni ddim yn disgrimineiddio gormod yn erbyn pobl sydd ambell waith, efallai, gyda'r sgiliau cywir o ran datblygu tai ac ati, ond efallai ddim gyda'r sgiliau ieithyddol rŷch chi yn ystyried sydd mor hanfodol.