Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:32, 3 Ebrill 2019

Dydy'r swydd ddisgrifiad ddim yn sôn am ddysgu Cymraeg; dydy o ddim yn sôn ei bod hi'n ddymunol, dim ond 'dirnadaeth'—sut bynnag dŷch chi'n mynd i fod yn edrych ar hynny. Y gwir amdani ydy bod gennych chi bwerau i osod safonau ar gymdeithasau tai. Ac yn 2015, yn dilyn y ffrae wreiddiol, fe wnaeth Comisiynydd y Gymraeg edrych mewn i'r holl sefyllfa, a dod i'r casgliad—a dwi'n dyfynnu allan o'r adroddiad wnaethpwyd ar y pryd—bod yr

'achos hwn wedi arddangos yn glir nad yw'r drefn bresennol o ofyn i ddarparwyr tai cymdeithasol weithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg gwirfoddol yn ddigonol'.

Ac roedd hi'n glir bryd hynny, nôl yn 2015, bod angen i'r Llywodraeth gyflwyno safonau ar gyfer cymdeithasau tai—bedair blynedd yn ôl. Mae'r oedi yma yn golygu ein bod ni yn yr union yr un sefyllfa eto. Mae'r gwaith o wneud y rheoliadau drafft wedi cael ei gyflwyno i chi ar gyfer cymdeithasau tai. Mae o'n eistedd ar eich desg chi. Wnewch chi ddweud wrthym ni heddiw, felly, pryd fydd yna safonau ar gyfer cymdeithasau tai?