Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 3 Ebrill 2019.
Iawn. Diolch yn fawr iawn am eich ymrwymiad, Weinidog, ac rwy'n siŵr y byddai cyfarfod â bwrdd criced Lloegr yn syniad da, ac edrychaf ymlaen at ganlyniad cadarnhaol yn sgil hynny.
Nodaf fod Llywodraeth Cymru, yn 2018-19, wedi dyrannu £600,000 i Criced Cymru i gefnogi criced cymunedol a chriced pherfformiad uchel ledled Cymru. Wrth gwrs, mae poblogrwydd criced wedi tyfu ymhlith pobl o bob oed dros y blynyddoedd diwethaf, ond yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Gwelaf o gofnodion bwrdd Criced Cymru fod nifer o aelodau'r bwrdd wedi bod yn gweithio gyda chlwb criced Morgannwg i ddatblygu gwahanol fentrau, gyda'r ffocws ar gynyddu nifer y bobl sy'n ymwneud â chriced o'r ffigur presennol o 20,000 i 40,000, sy'n darged uchelgeisiol. A allwch ddweud ychydig mwy wrthym am yr hyn y mae Criced Cymru yn ei wneud i helpu i ddatblygu'r gamp ar lawr gwlad, ac a ydych yn credu y gellir cyflawni'r targed hwn o ddyblu nifer y bobl sy'n ymwneud â chriced?