Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 3 Ebrill 2019.
Wel, rwy'n gobeithio y gellir ei gyflawni. Yn amlwg, mae'n fater o amserlen, ond unwaith eto, byddaf yn sicrhau, yn fy nhrafodaethau gyda Criced Cymru sydd i ddod y tymor hwn, y byddaf yn gofyn iddynt am arwydd cliriach ynglŷn â gweithredu targed o'r fath. O'm rhan i, mae cynyddu diddordeb mewn chwaraeon bob amser yn bwysig. Mae gennym ein prif chwaraeon, nad ydynt bellach wedi'u cyfyngu i'r tymhorau traddodiadol o ran pêl-droed, rygbi a phêl-rwyd, sy'n gamp gynyddol bwysig, ac edrychaf ymlaen yn fawr iawn yr wythnos hon at y digwyddiad pêl-droed menywod rhyngwladol, pan fyddaf yn cefnogi tîm menywod Cymru yn Rodney Parade yng Nghasnewydd, sef eu lleoliad traddodiadol bellach. Ond rwyf am wneud yn siŵr, pan fyddaf yn cael y trafodaethau hyn, y byddaf yn sicrhau y bydd rôl criced, ac yn wir, rôl chwaraeon haf eraill o bosibl, yn faterion y byddaf yn eu trafod, a thrwy Chwaraeon Cymru, wrth gwrs.