Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 3 Ebrill 2019.
Mae Amgueddfa Cymru yn agor ei drysau am ddim yn ei saith safle ledled Cymru. Mae'n arwain y sector drwy estyn allan ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol yn gymdeithasol ar draws Cymru, ac rwy'n gwbl ymwybodol, ar ôl cael fy addysgu gan yr Athro Gwyn Alf Williams, fod popeth o werth yn y chwyldro diwydiannol a gwleidyddiaeth radicalaidd yng Nghymru wedi dechrau ym Merthyr Tudful. [Chwerthin.]