Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:34, 3 Ebrill 2019

Dwi wedi eich clywed chi'n sôn am Brexit o'r blaen fel rheswm dros beidio ag ailgychwyn y rhaglen o gyflwyno safonau ar gyfer cyrff newydd. Os rhywbeth, mae bygythiad Brexit yn ei gwneud hi'n fwy o flaenoriaeth i warchod ein hawliau iaith ni.

Mi wnaethoch chi gyhoeddi eich cynllun gweithredu strategaeth miliwn ar gyfer 2019-20 ychydig ddyddiau yn ôl. Ac roedd hyn yn gyfle i chi gadarnhau eich cynlluniau a'r gweithredu y gallwn ni edrych ymlaen atyn nhw dros y flwyddyn i ddod rŵan bod bygythiad Bil y Gymraeg wedi diflannu. Ond, yn anffodus—a dŷch chi wedi ailadrodd hynny eto heddiw—does yna ddim goleuni ar amserlen bendant ar gyfer mwy o safonau. Heb os, mae beth dŷn ni wedi ei brofi heddiw yn dangos ein bod ni eu hangen nhw.

Mi wna i ofyn i chi eto: fedrwch chi roi syniad pryd y gall gweithwyr Cymru a'r cyhoedd gael sicrwydd am eu hawliau o ran y Gymraeg ac a wnewch chi ymrwymo felly i gyhoeddi amserlen ar gyfer gosod safonau ar gyfer cymdeithasau tai ynghyd â'r holl sectorau sy'n weddill yn ystod tymor yr haf, a hynny ar ôl inni ddychwelyd ar ôl y toriad?