Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 3 Ebrill 2019.
Wel, dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn i beidio â chymysgu'r ddau beth. Dwi yn meddwl y byddwn ni'n symud ymlaen â chynlluniau iaith—neu safonau iaith—ar gyfer cymdeithasau tai. Allaf fi ddim rhoi amserlen glir i chi, achos ein bod ni yng nghanol Brexit, ac yn anffodus mae hwnna yn sugno darpariaeth ddeddfwriaethol y Llywodraeth, felly ychydig iawn sydd ar ôl o ran symud pethau ymlaen yn ddeddfwriaethol mewn adrannau eraill. Ond mae'n rhaid i ni fod yn ofalus ein bod ni ddim yn cymysgu rhwng rhoi safonau ar gynllunio ieithyddol y tu fewn i gymdeithasau tai a mynnu bod pob un y tu fewn i'r mudiad wedyn yn siarad Cymraeg. Mae hwnna yn gam mawr iawn i'w wneud.