Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 3 Ebrill 2019.
Diolch. Credaf fod y gwaith y mae PONT wedi'i wneud dros y blynyddoedd yn wirioneddol anhygoel, ac mae cymaint o bobl wedi bod yn rhan o'r gwaith hwnnw o'r gwaelod i fyny. Rwy'n ymwybodol o'r gwaith a'r awgrymiadau a wnaed o ran y cyswllt hwnnw a'r posibilrwydd o weld faint yn rhagor y gallwn hybu'r cysylltiadau iechyd yn enwedig. Rwyf wedi cael cyfarfod gyda'r dirprwy Weinidog iechyd heddiw i weld a oes unrhyw fodd o hybu hyn ymhellach. Felly, mae angen i ni feddwl a nodi unrhyw bosibiliadau sydd i'w cael. Mewn egwyddor, buaswn wrth fy modd yn gweld hynny'n datblygu ychydig ymhellach. Wrth gwrs, mae cyfyngiadau ariannol difrifol arnom ar hyn o bryd, ond os oes posibilrwydd, yn enwedig o fewn y sector iechyd, hoffwn weld sut y gallwn archwilio hynny ymhellach.