Rhaglen Cymru o Blaid Affrica

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:55, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, rwy'n falch iawn eich bod yn sôn am PONT a'r gwaith a wnaed gan bobl yn fy etholaeth, yn enwedig pobl fel Dr Geoff Lloyd, sydd wedi gwneud cymaint o waith ar iechyd mewn mannau fel Uganda. A tybed a ydych yn ymwybodol o'r cynnig sy'n datblygu gan y rhai sy'n ymwneud â rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru o Blaid Affrica, sy'n awgrymu y gallai Cymru fabwysiadu 3 miliwn o bobl yn Affrica Is-Sahara a darparu gwasanaeth iechyd cyffredinol iddynt drwy'r rhwydwaith sy'n bodoli eisoes. Nawr, mae hwn yn gynnig cyffrous iawn, nid yn unig o ran defnyddio'r rhwydwaith a'r adnoddau ac ati sy'n bodoli eisoes, ond byddai'n ymestyn holl gwmpas y rhaglen ac yn deyrnged wirioneddol i ben-blwydd rhaglen Cymru o Blaid Affrica.