Cyllid y Loteri Genedlaethol

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:02, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Wrth i ni ddathlu pen-blwydd y Loteri Genedlaethol yn bump ar hugain mlwydd oed, rwy'n falch o allu dweud wrthych fod chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi dros 50,000 o brosiectau ledled Cymru, gydag oddeutu £1.75 biliwn o fuddsoddiad. Fel rhan o fy rôl fel Gweinidog, rwy'n goruchwylio gwariant y Loteri Genedlaethol, ac felly rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Loteri Genedlaethol ynghylch y cyfeiriad teithio a chyfeiriad y gwariant.