Cyllid y Loteri Genedlaethol

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 3:03, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Roedd adroddiad diweddar o Dŷ'r Arglwyddi, yr ydych yn digwydd bod yn Aelod ohono, yn rhybuddio am y perygl posibl y gallai Brexit arwain at ganoli mwy o gyllid y celfyddydau yn Llundain. Mynegwyd pryderon ynghylch tegwch lleoliad arian y loteri, a bod rhai rhannau o Lundain wedi derbyn 10 gwaith yn fwy o arian y pen o'r boblogaeth nag yng Nghymru. Yn Llundain, maent yn cael 10 gwaith yn fwy y pen nag yng Nghymru. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Camelot ynglŷn â lleihau'r anghydbwysedd cyllidol hwn yng ngoleuni canfyddiadau adroddiad Tŷ’r Arglwyddi?