2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru ar 3 Ebrill 2019.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru? OAQ53734
Diolch yn fawr. Cyhoeddais fy mwriad i gynhyrchu strategaeth newydd i gyfleu ein gweledigaeth ryngwladol ar gyfer Cymru ym mis Ionawr. Rydym yn dal i ddrafftio'r gwaith hwn, ac rwy'n disgwyl cyflwyno drafft i'r Cabinet ym mis Mai, gyda'r ddogfen derfynol yn barod i'w chyhoeddi cyn yr haf.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Wel, os felly, rwy'n falch iawn fy mod wedi'ch dal yn drafftio'r strategaeth. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth i'w groesawu. Mae pob un ohonom yn ymwybodol o drychineb Brexit a'r effaith y mae'n ei chael ar statws y Deyrnas Unedig ledled y byd. Mae'n bwysig, felly, fod Llywodraeth Cymru yn adnewyddu ei gwaith i hyrwyddo Cymru fel lle i wneud busnes a man lle gallwn greu cysylltiadau busnes newydd gyda gwahanol wledydd. Gwyddom hefyd fod buddsoddiad sylweddol ar waith ym Mlaenau'r Cymoedd a rhaglen ar gyfer y Cymoedd sy'n ceisio hyrwyddo'r Cymoedd fel lle i fuddsoddi a lle i wneud busnes ynddo. A allwch chi, Weinidog, sicrhau bod y Cymoedd a Blaenau'r Cymoedd yn ganolog i'ch gwaith o ran cysylltiadau rhyngwladol? Bydd hyrwyddo Blaenau'r Cymoedd a'r Cymoedd yn gyffredinol fel mannau lle gallwn greu busnesau, creu gweithgarwch busnes newydd, gobeithio, yn rhan ganolog o weledigaeth ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer strategaeth gysylltiadau rhyngwladol.
Diolch, ac rydych yn llygad eich lle, mewn gwirionedd, fod y ffaith nad oes gennym unrhyw syniad beth fydd yn digwydd o ran ein perthynas gydag Ewrop yn ei gwneud yn anodd iawn drafftio strategaeth ryngwladol, gan y byddai gwahaniaeth sylfaenol yn dibynnu ar ein sefyllfa yn y pen draw. Os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn enwedig os byddwn yn gadael heb gytundeb, mae angen i ni weithio'n galed iawn i ailadeiladu'r cysylltiadau hynny gyda'n cymheiriaid cyfandirol lle mae gennym werthoedd tebyg ac mae 60 y cant o'n masnach a'n nwyddau yn mynd iddynt hwy. Wrth gwrs, byddai'n rhaid i ni atgyfnerthu hynny. Os na fyddwn yn cyrraedd y sefyllfa honno, a thrwy ryw fath o wyrth yn rhan o'r farchnad sengl yn y pen draw, byddwn yn addasu ein strategaeth o ganlyniad i hynny. Felly, ar hyn o bryd, mae'n anodd gwybod sut yn union i ddatblygu'r strategaeth.
Ond un peth y gallaf ei ddweud wrthych yw bod holl ddwli Brexit yn ei gwneud yn llawer anoddach i ni sicrhau mewnfuddsoddiad i Gymru. Pan fydd pobl yn dweud bod ganddynt ddiddordeb mewn buddsoddi, y cwestiwn a ofynnant yw, 'A gaf fi allforio i'r farchnad honno o 500 miliwn o bobl ar y cyfandir cyfagos?' A'r ateb ar hyn o bryd yw, 'Nid ydym yn siŵr.' Nawr, nid yw honno'n sail ar gyfer buddsoddi. Felly, wrth gwrs, rydym yn bryderus iawn ynglŷn â hynny.
Fe fyddwch yn gwybod bod dros 100 o fuddsoddiadau unigol wedi'u gwneud dros y blynyddoedd yn rhanbarth Blaenau'r Cymoedd, lle rydym wedi diogelu mwy na 16,000 o swyddi dros y blynyddoedd, ond credaf mai'r hyn sy'n hanfodol i'r hyn y mae angen i ni ei wneud—gan fod angen ichi ofyn yn y gymdeithas fyd-eang hon sydd ohoni pam fod pobl yn mynd i ble—credaf mai un o'r pethau y mae angen inni eu gwneud yw sicrhau ein bod yn uwchsgilio pobl yn y Cymoedd fel ein bod yn cynnig gweithlu medrus a fydd yn denu busnesau i'r ardaloedd hynny. Felly, credaf fod hynny'n ddarn sylfaenol o'r jig-so hwn.