Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 3 Ebrill 2019.
Diolch. Credaf fod hynny'n syniad gwych, a gobeithiaf ei fod yn un y bydd y Dirprwy Lywydd yn ei rannu—y neges honno y byddai'n wych dathlu'r cysylltiadau Cymru-Affrica wrth ddathlu 20 mlynedd ers datganoli.
Buaswn wrth fy modd yn croesawu Martha fel dinesydd Cymru. Rydym yn falch iawn o'i chael. Pe bai pawb yn gwneud y math o gyfraniad y mae hi wedi'i wneud i'w chymuned, byddem yn llawer gwell ein byd fel cenedl. Rydym yn wirioneddol falch o'i chael, ac mae unrhyw un sy'n gallu pasio'r profion dinasyddiaeth hynny yn haeddu bod yn aelod o'n gwlad. Maent yn eithaf anodd. Felly, croeso iddi, i fod yn Zimbabwead Cymreig. Rydym yn falch iawn o'i chael.
Credaf ei bod hefyd yn hanfodol gofyn i bobl Cymru ddangos eu bod yn un â'r bobl yn ne Affrica sydd wedi'u heffeithio gan seiclon Idai. Mae wedi cael effaith enfawr a niweidiol ar yr economi, ar fywydau, ar y cymunedau yno, ac os oes modd i unrhyw un gyfrannu, mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddem yn eu hannog i'w wneud.