Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 3 Ebrill 2019.
A gaf i, felly, ofyn—? Yn amlwg, dyw e ddim yn benderfyniad mae’r Comisiwn yn ei wneud, ond dwi’n siŵr bod gan y Comisiwn farn ar y mater yma, neu byddwn i’n licio meddwl bod gan y Comisiwn farn ar y mater yma. A fyddai’r Comisiwn yn barod i gydlynu llythyr gan holl Aelodau’r Cynulliad, wedi'i gyd-arwyddo, at y bwrdd pensiynau, yn gofyn iddyn nhw i edrych ar hyn ac i edrych ar y mater ar frys?