Cronfeydd Pensiwn

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:20, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, cyfrifoldeb y bwrdd pensiynau yw hyn, nid y bwrdd taliadau, ac rydym yn ethol cynrychiolwyr o'n plith, Aelodau Cynulliad presennol a chyn-Aelodau Cynulliad, i gynrychioli ac i fod yn aelodau o'r bwrdd pensiynau a phenderfyniad annibynnol y bwrdd pensiynau felly yw edrych ar ei strategaeth fuddsoddi. Nid wyf yn siŵr a oes unrhyw Aelodau sy'n bresennol yn y Siambr ar hyn o bryd yn aelodau o'r bwrdd pensiynau, ond mae'r wybodaeth honno ar gael i chi os ydych yn bwriadu ysgrifennu at y bwrdd pensiynau yn uniongyrchol.