Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad — Adroddiad 01-19 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 4:06, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Prin fod diwrnod yn mynd heibio yn y lle hwn pan na chaiff Aelodau UKIP eu bychanu neu eu tramgwyddo gan rai o'r sylwadau y mae Aelodau eraill o'r tŷ hwn—[Torri ar draws.] Mewn cymdeithas rydd, credaf y dylai aelodau cynulliad democrataidd fod yn barod i oddef beirniadaeth ac yn wir, i gael eu bychanu a'u tramgwyddo o bryd i'w gilydd. Mae hynny'n rhan annatod o'r peth, a Joyce Watson—