Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 3 Ebrill 2019.
Wel, nid yn gymaint ei fod yn hir, ond heb fy sbectol mae'n anodd. Ie, ym mharagraff 6.1 yn ei adroddiad, dywed Mr Bain ei fod yn cydnabod bod:
dyfarnu ar gwynion o'r natur hon yn fater y gall personau yn gyfreithlon wneud penderfyniadau gwahanol yn eu cylch.
Yna aiff ymlaen i ddweud:
Gwn fod y Comisiynydd Safonau, wrth gwrs, heb y fantais o'r holl ffeithiau sydd ger fy mron yn awr, wedi penderfynu nad oedd cwyn Mrs Watson— sef yr un wreiddiol— ynghylch cyhoeddi'r fideo yn dderbyniadwy.
Felly, mae hynny'n ein harwain at: beth oedd wedi newid rhwng y gŵyn wreiddiol a'r cwynion newydd? Wel, wrth gwrs ar yr adeg y penderfynodd Mr Bain ymchwilio i'r mater, nid oedd unrhyw beth wedi newid, oherwydd ni fu unrhyw ymchwiliad pellach. O ganlyniad i'w ymchwiliad, penderfynodd—felly, fe benderfynodd yn ôl-weithredol—fod yna wybodaeth newydd a'i galluogai i ystyried y gŵyn yr oedd eisoes wedi penderfynu ei hystyried.
Roedd hyn yn ymwneud ag ymadrodd a ddefnyddiodd Gareth Bennett sef—nid wyf yn gwybod a yw'r Aelodau'n gwybod beth oedd y fideo, sef yn y bôn wyneb Joyce Watson wedi'i roi ar gorff barforwyn. Rwy'n esbonio hyn er budd y bobl ar y tu allan nad ydynt o bosibl yn deall beth y mae'r achos hwn yn ymwneud ag ef.