Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 3 Ebrill 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Bethan Sayed am gyflwyno'r ddadl hon yma heddiw. Gwn ein bod i gyd yn cytuno bod plant sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol yn haeddu'r dull gorau posibl o weithredu, dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Mae cael eu cam-drin yn rhywiol yn effeithio'n andwyol iawn ar les plant, fel y mae'r Aelodau wedi dweud yma heddiw, a gwyddom y gall hyn yn aml effeithio arnynt drwy gydol eu bywydau. Weithiau, ni fyddant yn datgelu'r cam-drin tan yn llawer diweddarach mewn bywyd oherwydd y trawma a achosodd. Dyna pam fod yn rhaid i wasanaethau weithredu mewn ffordd sy'n cefnogi lles emosiynol plant ac yn eu helpu i wella o drawma cam-drin.
Bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi cynllun gweithredu cenedlaethol ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol yn yr haf. Bydd y cynllun yn nodi camau gweithredu clir ar gyfer Llywodraeth Cymru ac ar gyfer partneriaid byrddau diogelu. Bydd hyn yn cynnwys gweithredu trawslywodraethol er mwyn cryfhau cymorth i blant sydd wedi'u cam-drin rhywiol. Rydym eisoes wedi cyhoeddi fframwaith cyflawni trawslywodraethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a chyda'i gilydd mae'r polisïau hyn yn nodi ein huchelgeisiau ar gyfer cryfhau cymorth i blant sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol ac i oedolion sydd wedi goroesi cam-drin rhywiol.
Mae'r GIG ar hyn o bryd yn arwain gwaith, mewn partneriaeth â'r heddlu, partneriaid diogelu a'r trydydd sector oll yn gweithio gyda'i gilydd, i ddatblygu model cynaliadwy o wasanaethau ymosodiadau rhywiol ar gyfer plant ac oedolion yng Nghymru. Rydym yn ymwybodol bod gweithredu'r model Barnahus yng Ngwlad yr Iâ wedi sicrhau canlyniadau cadarnhaol, ar gyfer arferion sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac o ran cynnydd mewn cyhuddiadau ac euogfarnau. Mae wedi llwyddo i wneud hynny. A gwyddom am gynllun peilot y tŷ plant yn Llundain, lle mae prosesau cyfiawnder troseddol a chymorth therapiwtig ar gyfer plant gyda'i gilydd ar un safle. Bydd yn bwysig deall yn well sut y bydd y model yn gweithio yng nghyd-destun system gyfiawnder y DU, a byddwn yn ystyried y gwerthusiad o'r cynllun peilot hwn ar ôl iddo ddod i ben. Wrth ddatblygu gwasanaethau cymorth therapiwtig i blant sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol, byddwn hefyd yn ystyried y dystiolaeth ynghylch effeithiolrwydd dulliau eraill sy'n canolbwyntio ar y plentyn.
Nid ydym yn cytuno bod angen deddfwriaeth i sicrhau'r newidiadau hyn yn y maes gwaith hwn, a bydd y Llywodraeth yn ymatal ar y cynnig hwn. Bydd plant sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol yn destun camau diogelu. Bydd hyn yn cynnwys ystyriaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol o ble y dylai plentyn fyw er mwyn eu cadw'n ddiogel. Mae gan grŵp cynghori'r Gweinidog ar wella canlyniadau i blant raglen waith sy'n cynnwys cryfhau ymhellach ein dull o sicrhau lleoliadau priodol a diogel ar gyfer plant sy'n mynd i dderbyn gofal. Ni fyddem am hyrwyddo unrhyw sefyllfa lle mae disgwyl i blant sydd wedi'u cam-drin fynd yn uniongyrchol i unrhyw lety argyfwng a byddem yn pryderu am y risg y gallai cyflawnwyr ganfod lleoliad llety o'r fath a thargedu plant ar gyfer eu cam-drin. Rydym hefyd yn darparu cyllid i Childline, sy'n cynnig ffordd ddiogel i blant sy'n cael eu cam-drin ddod i gysylltiad â chwnselydd a all roi gwybod i'r gwasanaethau cymdeithasol am y cam-drin.
Caiff ein gwaith datblygu polisi a'n cyngor ymarfer yn y maes hwn ei lywio'n uniongyrchol gan dystiolaeth oddi wrth oroeswyr sy'n blant ac yn oedolion, ac ystyriwn mai hwy yw'r arbenigwyr ar eu profiadau eu hunain. Mae Gweinidogion Cymru yn ymrwymedig i hyrwyddo'r hawl i fod yn ddiogel ar gyfer plant yng Nghymru, ac yn teimlo bod llawer o'r pwyntiau a wnaed yn y ddadl hon heddiw yn hanfodol bwysig.