– Senedd Cymru am 4:13 pm ar 3 Ebrill 2019.
Eitem 6 ar yr agenda yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar blant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol. Galwaf ar Bethan Sayed i wneud y cynnig. Bethan.
Cynnig NDM7021 Bethan Sayed
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnig i gael bil i ddiwygio a gwella cefnogaeth ar gyfer plant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) cyflwyno'r Model Barnahus o gymorth i ddioddefwyr gyda phwyslais therapiwtig;
b) gweithio gyda'r heddlu i ddefnyddio'r Model Barnahus o gynnal ymchwiliad i bob achos o gam-drin plant yn rhywiol; ac
c) yn cyflwyno newidiadau statudol i wella llety brys a llety dros dro i blant sydd wedi'u cam-drin, sy'n methu â dychwelyd i'w cartref neu sy'n ddigartref.
Roeddwn yn awyddus i gyflwyno'r ddadl hon heddiw oherwydd fy mod i ac eraill yma wedi bod â diddordeb yn y ddadl hon ar fodelau darparu gwasanaethau cymorth yn y maes hwn.
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o'r ddeiseb, sy'n dal dan ystyriaeth gan y Pwyllgor Deisebau, mewn perthynas â'r model Barnahus a chynyddu'r ddarpariaeth ddiogelwch a chymorth i blant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol. Cyflwynwyd y ddeiseb gan un o fy etholwyr yn ardal Gorllewin De Cymru, Mayameen Meftahi, sydd wedi bod yn dadlau'n gryf dros ddiwygio'r gwasanaethau a geir ar gyfer plant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol. Mae hyn yn dangos cryfder y system ddeisebau. Cyfarfûm â hi yn y digwyddiad i gyflwyno'r ddeiseb ac fe wnaeth argraff fawr arnaf pan ddywedodd ei stori bersonol wrthyf ynglŷn â'r profiad dirdynnol roedd hi wedi byw drwyddo yn ei phlentyndod.
Mae hwn yn fater emosiynol iawn ac mae'n rhywbeth y bydd pawb yma, rwy'n siŵr, yn cael ei gyffwrdd ganddo, ynghyd â phobl ledled y wlad. Pwynt cyflwyno'r ddadl hon yw fy ymgais i gynnig rhai o'r syniadau hynny i lawr y Senedd fel y gallwn weld pa gonsensws a geir ac i ymhelaethu ar ddichonoldeb y syniadau hyn. Rwy'n siŵr y byddant yn cael ystyriaeth ddifrifol gan y Llywodraeth.
Rwy'n cydnabod bod rhai o'r syniadau y byddwn yn eu trafod yn gysyniadau cymharol newydd yn y DU, ond credaf eu bod yn rhan o chwyldro hanfodol posibl yn y ffordd yr ydym yn trin plant a sut y gallwn gynorthwyo plant, y bydd llawer ohonynt mewn lle truenus o anobaith a thrawma.
Mae fy nghynnig yn canolbwyntio ar dri phwynt sylfaenol: sut y gallwn weithio gyda'r heddlu i gynhyrchu canlyniadau gwell fel rhan o'r model Barnahus; sut y gallwn sicrhau cynnydd yn y ddarpariaeth a sicrhau'r lefelau lluosog o gymorth ac asesiad mewn un man; a sut y gallwn gynnig lloches i blant mewn angen.
Lansiwyd model Barnahus yng Ngwlad yr Iâ yn 1998 fel ymateb uniongyrchol i rai o'r un problemau a welwn mewn llawer o wledydd eraill, gan gynnwys ein gwlad ni: cyfraddau euogfarnau is nag y dylent fod; plant nad ydynt yn teimlo'n ddigon diogel neu heb eu cefnogi ddigon i roi gwybod; plant yn poeni am y canlyniadau pe baent yn rhoi gwybod; plant mewn trawma dwfn, heb y math o amgylchedd cefnogol sy'n gwbl angenrheidiol i helpu rhywun sy'n agored i niwed ac mewn lle tywyll iawn i ddweud beth sy'n digwydd. Mae model Barnahus, neu 'tŷ plentyn', fel y mae'n cyfieithu'n uniongyrchol, wedi bod yn llwyddiant. Maent yn wasanaethau dan arweiniad therapiwtig, gyda gweithwyr proffesiynol hyfforddedig yn arwain amgylchedd diogel wedi'i gynllunio i fod yn ystyriol o blant. Ac mae'r Barnahus yn gweithredu fel ystafelloedd mewn un lle ar gyfer gwasanaethau. Mae'r rhain yn cynnwys y cyfweliad fforensig, archwiliad meddygol a therapi plant a theuluoedd. Gellir rhoi tystiolaeth tyst yn erbyn y sawl sy'n cam-drin heb fod angen i ddioddefwr roi tystiolaeth sawl gwaith mewn nifer o leoliadau.
Yn aml, ni fydd gan lawer o blant sy'n cael eu cam-drin ddarlun arbennig o dda o'r gwasanaethau statudol ac mewn rhai achosion, nid ydynt wedi cael y profiadau uniongyrchol gorau ychwaith. Bydd llawer o blant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol wedi cael eu cam-drin mewn ffyrdd eraill hefyd. Bydd llawer o blant wedi bod mewn trafferthion gydag awdurdodau hefyd o bosibl am resymau amrywiol, yn aml yn gysylltiedig â'r cam-drin y maent wedi'i ddioddef, ac ni fydd ganddynt hyder i siarad yn rhwydd â'r heddlu neu'r awdurdodau.
Pan fydd plentyn yn rhoi gwybod beth sydd wedi digwydd, yn amlach na heb, o dan y system bresennol, ni fydd erlyniad yn llwyddiannus. Ceir achosion rheolaidd o fethu cydymffurfio â gofynion tystio, ac yn aml mae hyn yn cydblethu â methiant plant i fodloni disgwyliadau cyffredin ar gyfer tystion. Oherwydd straen a thrawma'r lleoliadau y mae disgwyl i blentyn sydd wedi cael eu cam-drin roi tystiolaeth ynddynt neu am eu bod yn rhoi'r gorau i'r broses ar ryw adeg wedi iddi gychwyn, am lu o resymau, nid yw hyn yn syndod.
Hefyd rhoddir lles plentyn mewn perygl, gan fod effaith cyfweliadau lluosog yn ail-greu trawma ar draws gwahanol awdurdodau yn arfer gwael, ac eto mae'n arfer sy'n cael ei dderbyn. Dyna un rheswm pam y mae'r amser y mae'n ei gymryd i gyflwyno cyhuddiad mewn achosion asiantaeth cynnal plant gryn dipyn yn hwy nag ar gyfer oedolion. Mae proses gyfweld dan arweiniad seicolegydd clinigol mewn un ystafell, lle gall llysoedd wrando a gofyn cwestiynau'n fyw, yn fodel gwell, ac fe'i cefnogir gan awdurdodau ledled y wlad hon, sy'n annog treialu'r model hwn, gan gynnwys y cyn Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd. Felly, mae gweithio gyda'r heddlu ar hyn yn hanfodol, ac mae o fewn ein cymhwysedd. Mae Comisiynydd Plant Lloegr, er enghraifft, eisoes wedi ymuno gyda gwasanaethau heddlu yn Lloegr i dreialu'r model, ac wedi annog pob ardal heddlu i sefydlu'r model erbyn 2016. Credaf nad oes fawr o reswm pam na ddylai neu na allai Cymru wneud yr un peth. Wrth gwrs byddai hyn yn galw am fuddsoddiad posibl, ac nid wyf yn awgrymu y dylid cael gwared yn llwyr ar y model presennol o ganolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol o blaid rhywbeth newydd sbon. Nid dyna rwy'n ei ddweud yma heddiw. Gellid adeiladu ar waith presennol y canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol mewn partneriaeth â byrddau diogelu rhanbarthol lle maent yn gweithio'n dda ar hyn o bryd, neu gellid sefydlu'r Barnahus mewn rhai ardaloedd o'r wlad lle mae'r ddarpariaeth yn brin iawn ar hyn o bryd. Ac mae hynny'n rhywbeth y mae cyrff trydydd sector wedi'i ddwyn i fy sylw o ganlyniad i ddewis y cynnig deddfwriaethol hwn.
Rhaid inni wneud yn well yma yng Nghymru. Rwy'n sylweddoli nad yw plismona wedi'i ddatganoli'n uniongyrchol, ond mae'r system hon o asesu, cefnogi a chyfweliadau i gyd o dan un to eisoes ar gael mewn canolfannau peilot yn Llundain, a gellir gweithio gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu ar yr agenda hon. Yn wir, mae'r comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer gogledd Cymru eisoes wedi mynegi ei barodrwydd i gefnogi model tebyg yma yng Nghymru.
Mae hwn yn fodel sydd wedi bod yn llwyddiannus. Cafodd ei ddefnyddio ar draws y gwledydd Llychlynnaidd, lle gwelwyd gwelliannau sylweddol. Dyblodd cyfraddau euogfarnau yng Ngwlad yr Iâ, a gwelwyd gostyngiad dramatig yn yr amser a gymerir i gwblhau asesiadau ac ymchwiliadau. Mabwysiadwyd y model hwn mewn rhannau o'r UDA a Chanada fel canolfannau eiriolaeth plant o'r 1980au, ac mae ymgyrch ledled Ewrop i weld hyn yn cael ei gyflwyno. Felly, yn bersonol nid wyf yn derbyn y farn fod hwn yn syniad sy'n galw am lefel sylweddol o waith archwilio, neu gael addasiadau, er mwyn dod o hyd i fodel addas ar gyfer Cymru. Weithiau mae'n briodol dilyn arferion gorau yn rhyngwladol ac i wneud hynny ar unwaith. Mae'n ddrwg gennyf ddyfynnu comisiynydd Lloegr eto, ond, ac rwy'n dyfynnu:
Mae profiadau yn Sweden, Norwy a Denmarc yn dangos y gellir addasu a gweithredu'r model o fewn fframwaith cyfreithiol gwlad arall, heb beryglu'r egwyddorion craidd sy'n sicrhau canlyniadau mor drawiadol.
Felly, ni fyddai angen inni beryglu unrhyw beth a wnawn ar hyn o bryd.
Roeddwn yn awyddus iawn wrth gyflwyno'r cynnig hwn iddo gynnwys trafodaeth ynghylch tai diogel a llety mewn llochesau. Os yw plentyn yn mynd i orsaf yr heddlu neu'n gwneud honiad wrth athro ynglŷn â rhiant, gwarcheidwad neu aelod o'r teulu sy'n cam-drin yn rhywiol, credaf ei bod hi'n iawn fod lle diogel a llety ar gael i'r plentyn allu mynd iddo i gael cefnogaeth wrth aros i'r broses statudol ddod yn weithredol neu i aros am yr opsiynau gofal maeth priodol. Ar hyn o bryd, mae gan awdurdodau lleol bŵer i gyhoeddi gorchmynion gofal brys ac i blant fynd i ofal maeth, ond nid wyf yn credu y dylai hyn fod yn unig opsiwn.
Er bod rhwydweithiau rhagorol o ofalwyr maeth ar draws y wlad yn gwneud gwaith rhagorol yn y maes hwn, ceir prinder gofalwyr maeth hefyd. Yn 2018 nodwyd bod Cymru yn wynebu diffyg o fwy na 500; ledled y DU, amcangyfrifodd y rhwydwaith maethu fod angen 8,000 i lenwi'r bylchau yn y ddarpariaeth.
Pan gaiff plentyn ei leoli mewn sefyllfa gofal maeth brys, ni cheir sicrwydd ychwaith y bydd gan y teulu brofiad penodol o ymdrin â phlant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol, er fy mod yn sylweddoli y byddent yn gobeithio gallu ymdrin â hynny yn y ffordd fwyaf priodol. Yn aml, byddai'r plentyn yn cael ei osod mewn sefyllfa dros dro, cyn symud ymlaen at ofalwr maeth gyda mwy o brofiad, gobeithio, gyda'r cefndir penodol hwnnw mewn cof. Ond ni fyddai'r gofal a'r cymorth arbenigol ar gael ar unwaith o reidrwydd.
Mae Cymorth i Fenywod wedi cefnogi'r galwadau am dai diogel ar gyfer plant oherwydd ceir loteri cod post i blant mewn llawer o achosion, ac oherwydd bod y cymorth arbenigol a'r amgylchedd sydd ar gael i fenyw sy'n mynd i loches menywod yn eithriadol o bwysig. Dylai fod yr un amgylchedd cefnogol ac arbenigol ar gael i blentyn sy'n agored i niwed, hyd yn oed os mai opsiwn ar gyfer y tymor byr yn unig ydyw.
Fel y dywedais yn gynharach, cyflwynwyd y ddeiseb yn galw am dai plant yng Nghymru gan etholwr i mi yn Abertawe, Mayameen Meftahi, a gafodd ei cham-drin ac a redodd i ffwrdd o'i chartref ond cafodd ei dychwelyd i aelwyd a oedd yn ei cham-drin—dyna rywbeth nad yw hi byth eisiau ei weld yn digwydd i unrhyw un arall. Mae wedi galw am dai diogel ar gyfer plant oherwydd bod realiti pwysau'r trawma ar y plentyn sy'n wynebu ac yn rhoi gwybod am brofiadau mor ofnadwy â hyn yn wirioneddol enfawr—ni allwn fychanu'r profiad y bydd y plentyn hwnnw'n gorfod mynd drwyddo. A gânt eu credu? A fydd rhywun yn gwrando arnynt? A fyddant yn wynebu'r posibilrwydd o orfod dychwelyd adref? A fydd rhywun yn y teulu yn eu hargyhoeddi i dynnu'r honiad penodol hwnnw yn ôl? Rydym wedi ei weld yn digwydd. Rydym wedi'i weld yn y newyddion—rydym wedi gweld y straeon hyn ac nid ydym am eu gweld eto.
Mae opsiwn llochesau, lle gall plentyn gael cymorth i ymdrin â'r materion a'r penderfyniadau hyn, yn opsiwn gwerth ei archwilio. Gadewch inni beidio ag anghofio bod penderfyniadau mawr a phroses fawr iawn yn cael eu gorfodi ar ysgwyddau plant agored iawn i niwed. Rwy'n barod i wrando ar y Llywodraeth ac Aelodau eraill ar ymarferoldeb sefydlu opsiynau fel hyn, ac i ba raddau y gallai olygu cydweithio ar draws asiantaethau statudol a phartneriaid trydydd sector priodol. Caf fy nghalonogi gan eiriau comisiynydd plant Cymru y byddai'n croesawu ymgysylltiad ar y ffordd orau o fynd ati i sefydlu gofod diogel neu loches, a sut y gallai hynny weithio. Gwn fod gwaith ar y gweill ar hyn o bryd ar y model arbennig hwn yn Llundain—prosiect Lighthouse yw ei enw. Ond er bod yr adolygiad hwnnw ar y gweill, nid yw hynny yn ein hatal ni rhag ei fabwysiadu yma—mae wedi bod yn gweithio'n llwyddiannus yno hyd yma.
I orffen, buaswn yn annog y Llywodraeth yn gryf i gefnogi'r cynnig hwn heddiw fel rhan o gyfres ehangach o ffyrdd i ddiwygio'r system er gwell. Rydym yn gwybod bod hwn yn faes sensitif iawn, ond fe wyddom hefyd mai'r rhai sydd wedi cael eu cam-drin sydd yn y sefyllfa orau weithiau i ddweud wrthym beth ddylai ddigwydd, ac yn yr achos hwn, credaf fod hynny'n iawn.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi atgoffa'r Aelodau'n garedig mai dadl 30 munud y hon? Mae'n mynd i fod yn ddiddorol gweld sut y bydd Bethan yn mynd tuag at yn ôl nawr i ymateb i'r ddadl, ond fe fyddaf yn drugarog. Hoffwn atgoffa'r Aelodau mai tri munud yn unig sydd ganddynt, ac mae gan y Gweinidog chwe munud i siarad? Gadewch i ni weld sut y gwnawn ni. Janet Finch-Saunders.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r cynnig hwn ar gyfer dadl ac am ein hatgoffa ni i gyd o'r angen i weithio tuag at amddiffyn a diogelu ein plant a'n pobl ifanc sydd wedi cael eu cam-drin a'u hecsbloetio'n rhywiol yn y modd mwyaf erchyll. Rwy'n bryderus iawn ynglŷn â'r ystadegau ar gam-drin rhywiol ar hyn o bryd, a'r niwed seicolegol difrifol a hirdymor y gall hyn ei achosi i ddioddefwyr. Cyflawnwyd oddeutu 54,000 o droseddau rhywiol yn erbyn plant o dan 18 oed yn y cyfnod rhwng Hydref 2015 a 2016.
Gall cam-drin rhywiol ddigwydd mewn nifer o ffyrdd, o drais rhywiol, gweithgaredd rhywiol, ymosodiadau rhywiol, masnachu mewn pobl, camfanteisio ar ymddiriedaeth, voyeuriaeth a ffurfiau eraill ar gam-drin ystrywgar a cham-drin nad yw'n gydsyniol. O gofio'r trallod seicolegol, y poen a'r dioddefaint anochel y mae cam-drin rhywiol yn ei achosi, rwy'n cytuno y dylai Cymru—ar ôl darllen mwy amdano—edrych ar fabwysiadu model Barnahus o Wlad yr Iâ.
Fel yr eglurodd adolygiad GIG Lloegr o'r llwybr yn dilyn ymosodiadau rhywiol ar gyfer plant a phobl ifanc yn 2005, mae'r model Barnahus yn integreiddio'n llawn y gofal a'r driniaeth seicolegol sydd eu hangen ar y dioddefwyr hyn yn gynnar wrth iddynt wella, a phan fyddant yn rhoi gwybod am y drosedd. Yn hanfodol, mae'r model hwn yn pwysleisio y dylid cynnwys ymarferwyr iechyd meddwl profiadol sydd wedi cymhwyso'n llawn. Bydd yr holl gyrff a fyddai'n ymwneud yn agos ag achos o gam-drin plentyn yn rhywiol wedi'u hintegreiddio’n llawn.
Yn wir, dau o'r rhwystrau mwyaf y mae angen eu goresgyn wrth fynd i'r afael yn briodol â cham-drin rhywiol yw adeiladu ymddiriedaeth a hyder mewn pobl ifanc er mwyn iddynt roi gwybod, ac i leihau a lliniaru'r teimladau o ofn a beio'r hunan sy'n aml wedi gwreiddio mewn achosion o gam-drin rhywiol. Mae'r allwedd i'r cyntaf, wrth gwrs, yn ymwneud â'r heddlu a'u perthynas â chymunedau a'r cyhoedd. Efallai bod angen pwysleisio'r agwedd hon ar waith yr heddlu yn well, gyda hyfforddiant gwell ar gyfer yr heddlu, ac edrych hefyd i weld sut y maent yn rhyngweithio pan ddaw adroddiadau i mewn.
I grynhoi, hoffwn fynegi fy nghymeradwyaeth i'r cynnig hwn er mwyn amddiffyn rhai o'n plant mwyaf agored i niwed. Mae angen newidiadau cynhwysfawr, ac yn fy marn i mae hynny'n cynnwys gweithio tuag at yr egwyddor a grybwyllodd Bethan Sayed AC, y model Barnahus, fel yng Ngwlad yr Iâ, Norwy, yr Ynys Las a Denmarc. Yn ogystal ag atal ail-drawmateiddio a pharhau i gynnig gwasanaethau ymyrraeth therapiwtig, dylem ymdrechu hefyd i oresgyn y ffactorau emosiynol sy'n achosi cyfraddau erlyn mor wael. Diolch a da iawn, Bethan.
Da iawn. Caroline Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Bethan am gyflwyno'r ddeddfwriaeth arfaethedig hon, ac rwyf am ddweud ar y dechrau fy mod yn ei chefnogi'n llwyr yn hyn o beth. Fel Bethan, cyfarfûm â Mayameen pan ddaeth i'r Senedd i gyflwyno ei deiseb yn galw am ddarparu tai plant yng Nghymru ar gyfer plant sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol. Treuliais amser gyda Mayameen pan adroddodd ei stori erchyll wrth un neu ddau ohonom am y modd y cafodd ei cham-drin gan ei thad. Roedd ei dewrder a chryfder ei hysbryd yn eglur iawn. Gallaf ddweud yn bendant ei bod yn un o'r bobl fwyaf ysbrydoledig y cefais y pleser o gyfarfod â hwy.
Nid oedd Mayameen eisiau i blant eraill ddioddef o'r un diffyg cefnogaeth sylfaenol ag y mae hi wedi'i ddioddef. A dywedodd na ddylid mynd â phlentyn sy'n dioddef unrhyw fath o gam-drin yn ôl i'r un amgylchedd wedi iddynt wneud y gŵyn honno ac wedi iddi ddod yn hysbys i wasanaethau penodol.
Drwy fabwysiadu'r model Barnahus, nid yw'n ymwneud o reidrwydd â chreu tai diogel lluosog, ond â chydnabod ein bod yn methu darparu unrhyw ddarpariaeth sylfaenol ar gyfer plant sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol. Mae'r model wedi bod mor llwyddiannus ledled y byd ac mewn rhannau eraill o'r DU fel ei fod wedi'i fabwysiadu'n eang fel y model a ffafrir gan arbenigwyr ym maes amddiffyn plant. Mae Cymru angen mabwysiadu'r model hwn i sicrhau y bydd gan blant sy'n cael eu cam-drin rywle i ddianc iddo. Heb Barnahus, cânt eu dychwelyd adref, yn ôl i freichiau'r sawl a fu'n eu cam-drin, fel y gwnaethant i Mayameen.
Mae Mayameen wedi codi llais fel nad oes eraill yn dioddef fel y gwnaeth hi pan oedd yn blentyn. Mae'n ddyletswydd arnom i wrando arni hi ac ar blant dirifedi eraill sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol. Mae cyfathrebu a gwaith tîm rhwng asiantaethau fel y gwasanaethau cymdeithasol a'r heddlu yn hollbwysig yn yr achosion hyn. Mae'r cynnig hwn yn ateb y galwadau hynny ac anogaf yr Aelodau i'w gefnogi ac i basio'r ddeddfwriaeth hon cyn gynted ag y gallwn. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Bethan Sayed am gyflwyno'r ddadl hon yma heddiw. Gwn ein bod i gyd yn cytuno bod plant sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol yn haeddu'r dull gorau posibl o weithredu, dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Mae cael eu cam-drin yn rhywiol yn effeithio'n andwyol iawn ar les plant, fel y mae'r Aelodau wedi dweud yma heddiw, a gwyddom y gall hyn yn aml effeithio arnynt drwy gydol eu bywydau. Weithiau, ni fyddant yn datgelu'r cam-drin tan yn llawer diweddarach mewn bywyd oherwydd y trawma a achosodd. Dyna pam fod yn rhaid i wasanaethau weithredu mewn ffordd sy'n cefnogi lles emosiynol plant ac yn eu helpu i wella o drawma cam-drin.
Bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi cynllun gweithredu cenedlaethol ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol yn yr haf. Bydd y cynllun yn nodi camau gweithredu clir ar gyfer Llywodraeth Cymru ac ar gyfer partneriaid byrddau diogelu. Bydd hyn yn cynnwys gweithredu trawslywodraethol er mwyn cryfhau cymorth i blant sydd wedi'u cam-drin rhywiol. Rydym eisoes wedi cyhoeddi fframwaith cyflawni trawslywodraethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a chyda'i gilydd mae'r polisïau hyn yn nodi ein huchelgeisiau ar gyfer cryfhau cymorth i blant sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol ac i oedolion sydd wedi goroesi cam-drin rhywiol.
Mae'r GIG ar hyn o bryd yn arwain gwaith, mewn partneriaeth â'r heddlu, partneriaid diogelu a'r trydydd sector oll yn gweithio gyda'i gilydd, i ddatblygu model cynaliadwy o wasanaethau ymosodiadau rhywiol ar gyfer plant ac oedolion yng Nghymru. Rydym yn ymwybodol bod gweithredu'r model Barnahus yng Ngwlad yr Iâ wedi sicrhau canlyniadau cadarnhaol, ar gyfer arferion sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac o ran cynnydd mewn cyhuddiadau ac euogfarnau. Mae wedi llwyddo i wneud hynny. A gwyddom am gynllun peilot y tŷ plant yn Llundain, lle mae prosesau cyfiawnder troseddol a chymorth therapiwtig ar gyfer plant gyda'i gilydd ar un safle. Bydd yn bwysig deall yn well sut y bydd y model yn gweithio yng nghyd-destun system gyfiawnder y DU, a byddwn yn ystyried y gwerthusiad o'r cynllun peilot hwn ar ôl iddo ddod i ben. Wrth ddatblygu gwasanaethau cymorth therapiwtig i blant sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol, byddwn hefyd yn ystyried y dystiolaeth ynghylch effeithiolrwydd dulliau eraill sy'n canolbwyntio ar y plentyn.
Nid ydym yn cytuno bod angen deddfwriaeth i sicrhau'r newidiadau hyn yn y maes gwaith hwn, a bydd y Llywodraeth yn ymatal ar y cynnig hwn. Bydd plant sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol yn destun camau diogelu. Bydd hyn yn cynnwys ystyriaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol o ble y dylai plentyn fyw er mwyn eu cadw'n ddiogel. Mae gan grŵp cynghori'r Gweinidog ar wella canlyniadau i blant raglen waith sy'n cynnwys cryfhau ymhellach ein dull o sicrhau lleoliadau priodol a diogel ar gyfer plant sy'n mynd i dderbyn gofal. Ni fyddem am hyrwyddo unrhyw sefyllfa lle mae disgwyl i blant sydd wedi'u cam-drin fynd yn uniongyrchol i unrhyw lety argyfwng a byddem yn pryderu am y risg y gallai cyflawnwyr ganfod lleoliad llety o'r fath a thargedu plant ar gyfer eu cam-drin. Rydym hefyd yn darparu cyllid i Childline, sy'n cynnig ffordd ddiogel i blant sy'n cael eu cam-drin ddod i gysylltiad â chwnselydd a all roi gwybod i'r gwasanaethau cymdeithasol am y cam-drin.
Caiff ein gwaith datblygu polisi a'n cyngor ymarfer yn y maes hwn ei lywio'n uniongyrchol gan dystiolaeth oddi wrth oroeswyr sy'n blant ac yn oedolion, ac ystyriwn mai hwy yw'r arbenigwyr ar eu profiadau eu hunain. Mae Gweinidogion Cymru yn ymrwymedig i hyrwyddo'r hawl i fod yn ddiogel ar gyfer plant yng Nghymru, ac yn teimlo bod llawer o'r pwyntiau a wnaed yn y ddadl hon heddiw yn hanfodol bwysig.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf am ganiatáu i Bethan ymateb i'r ddadl.
Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn yn sylweddoli bod yr amser wedi mynd.
Na, nid oeddwn yn meddwl eich bod. Nid oeddwn yn meddwl eich bod.
Ni fyddaf yn hir iawn. Roeddwn am ddiolch i Janet Finch-Saunders, fel arfer, am ei chefnogaeth i'r syniad hwn ac i eraill a gyflwynais yn y gorffennol, ac i Caroline Jones hefyd—roeddech chi gyda mi pan gyfarfûm â'n hetholwr a gwn i hynny effeithio arnom, ac y bydd yn ffurfio sail i waith yn y dyfodol, rwy'n siŵr. O ran yr ymateb oddi wrth y Llywodraeth—yn amlwg rwy'n siomedig eich bod chi wedi penderfynu peidio â'i gefnogi heddiw, er bod yr ymatal yn rhywbeth a gymeraf. Enillion bychain, wyddoch chi.
Hoffwn bwysleisio'r ffaith bod llochesau yn bodoli ar gyfer oedolion, ar gyfer menywod, a chânt eu cadw'n gyfrinach oddi wrth bobl. Ymwelais â hwy ar sail gyfrinachol iawn, ac oes, efallai bod yna achosion lle gall rhai sy'n cam-drin ddarganfod y cyfeiriad, ond hoffwn feddwl, pe baem yn sefydlu'r math hwn o gyfleuster yng Nghymru—rydym wedi gweld o enghreifftiau rhyngwladol eu bod yn ddiogel, eu bod yno ar gyfer y plentyn ym mhob ffordd, ystyr a ffurf, a gallem ei wneud mewn modd diogel a chefnogol yma yng Nghymru.
Dywedwch eich bod yn aros am y gwerthusiad o brosiect Lighthouse yn Llundain, felly rwy'n mynd i apelio arnoch, os yw'r gwerthusiad yn gadarnhaol o'r prosiect Lighthouse yn Llundain, a wnewch chi ailystyried eich penderfyniad i ymatal, ac y byddwch, fel rhan o'r cynllun gweithredu, yn agored i ystyried hyn fel cyfres o syniadau ar gyfer y cynllun gweithredu hwnnw, oherwydd credaf yn ddiffuant fod hon yn un elfen ychwanegol i gefnogi plant a allai fod yno fel opsiwn, yn hytrach na cheisio tanseilio popeth arall sydd yno—nid dyna rwy'n ei ddweud. Felly, os gwelwch yn dda cadwch eich meddwl yn agored, edrychwch ar y gwerthusiad a chynhwyswch Aelodau'r Cynulliad wrth lunio'r cynllun gweithredu hwnnw. Mae hynny'n rhywbeth y byddai pawb ohonom yn hoffi gweithio arno gyda chi. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Y cynnig yw nodi'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] O'r gorau. Felly, fe bleidleisiwn ar yr eitem hon yn ystod y cyfnod pleidleisio.