6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Plant sydd wedi cael eu Cam-drin yn Rhywiol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 4:24, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r cynnig hwn ar gyfer dadl ac am ein hatgoffa ni i gyd o'r angen i weithio tuag at amddiffyn a diogelu ein plant a'n pobl ifanc sydd wedi cael eu cam-drin a'u hecsbloetio'n rhywiol yn y modd mwyaf erchyll. Rwy'n bryderus iawn ynglŷn â'r ystadegau ar gam-drin rhywiol ar hyn o bryd, a'r niwed seicolegol difrifol a hirdymor y gall hyn ei achosi i ddioddefwyr. Cyflawnwyd oddeutu 54,000 o droseddau rhywiol yn erbyn plant o dan 18 oed yn y cyfnod rhwng Hydref 2015 a 2016.

Gall cam-drin rhywiol ddigwydd mewn nifer o ffyrdd, o drais rhywiol, gweithgaredd rhywiol, ymosodiadau rhywiol, masnachu mewn pobl, camfanteisio ar ymddiriedaeth, voyeuriaeth a ffurfiau eraill ar gam-drin ystrywgar a cham-drin nad yw'n gydsyniol. O gofio'r trallod seicolegol, y poen a'r dioddefaint anochel y mae cam-drin rhywiol yn ei achosi, rwy'n cytuno y dylai Cymru—ar ôl darllen mwy amdano—edrych ar fabwysiadu model Barnahus o Wlad yr Iâ.

Fel yr eglurodd adolygiad GIG Lloegr o'r llwybr yn dilyn ymosodiadau rhywiol ar gyfer plant a phobl ifanc yn 2005, mae'r model Barnahus yn integreiddio'n llawn y gofal a'r driniaeth seicolegol sydd eu hangen ar y dioddefwyr hyn yn gynnar wrth iddynt wella, a phan fyddant yn rhoi gwybod am y drosedd. Yn hanfodol, mae'r model hwn yn pwysleisio y dylid cynnwys ymarferwyr iechyd meddwl profiadol sydd wedi cymhwyso'n llawn. Bydd yr holl gyrff a fyddai'n ymwneud yn agos ag achos o gam-drin plentyn yn rhywiol wedi'u hintegreiddio’n llawn.

Yn wir, dau o'r rhwystrau mwyaf y mae angen eu goresgyn wrth fynd i'r afael yn briodol â cham-drin rhywiol yw adeiladu ymddiriedaeth a hyder mewn pobl ifanc er mwyn iddynt roi gwybod, ac i leihau a lliniaru'r teimladau o ofn a beio'r hunan sy'n aml wedi gwreiddio mewn achosion o gam-drin rhywiol. Mae'r allwedd i'r cyntaf, wrth gwrs, yn ymwneud â'r heddlu a'u perthynas â chymunedau a'r cyhoedd. Efallai bod angen pwysleisio'r agwedd hon ar waith yr heddlu yn well, gyda hyfforddiant gwell ar gyfer yr heddlu, ac edrych hefyd i weld sut y maent yn rhyngweithio pan ddaw adroddiadau i mewn. 

I grynhoi, hoffwn fynegi fy nghymeradwyaeth i'r cynnig hwn er mwyn amddiffyn rhai o'n plant mwyaf agored i niwed. Mae angen newidiadau cynhwysfawr, ac yn fy marn i mae hynny'n cynnwys gweithio tuag at yr egwyddor a grybwyllodd Bethan Sayed AC, y model Barnahus, fel yng Ngwlad yr Iâ, Norwy, yr Ynys Las a Denmarc. Yn ogystal ag atal ail-drawmateiddio a pharhau i gynnig gwasanaethau ymyrraeth therapiwtig, dylem ymdrechu hefyd i oresgyn y ffactorau emosiynol sy'n achosi cyfraddau erlyn mor wael. Diolch a da iawn, Bethan.