Yr Amgylchedd Naturiol yng Nghymoedd y De

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 30 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 1:32, 30 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Prynhawn da, Gweinidog. Canfu arolwg diweddar bod Cymru wedi cael ei heffeithio'n arbennig gan ledaeniad ffwng marwol o'r enw clefyd (Chalara) coed ynn. O ganlyniad, bydd yn rhaid torri miliynau o goed i lawr sydd wedi eu heintio ger adeiladau, ffyrdd a rheilffyrdd, gan gael effaith sylweddol iawn ar y dirwedd ac ar ein bywyd gwyllt. Prif Weinidog, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, ochr yn ochr â Cyfoeth Naturiol Cymru, i gynyddu'r gyfradd plannu coed yn y Cymoedd, ac mewn mannau eraill, i ddiogelu a gwarchod y rhan hanfodol hon o'n hamgylchedd naturiol yng Nghymru?