Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 30 Ebrill 2019.
Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn yna? Mae yn llygad ei le i dynnu sylw at yr adroddiadau diweddar am yr effaith y mae clefyd (Chalara) coed ynn eisoes yn ei chael yng Nghymru ac y gallai barhau i'w chael yn y dyfodol. Mae'n enghraifft o'r ffordd nad yw bygythiadau i rywogaethau yn cymryd sylw o unrhyw rwystrau daearyddol. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain ar ran Llywodraeth Cymru yn ein hymateb i'r clefyd (Chalara) coed ynn. Mae rhan o'r ymateb hwnnw'n ymwneud â phlannu mwy o goed yn y dyfodol, i fwrw ymlaen â'n cynllun ar gyfer coedwig genedlaethol yma yng Nghymru, ac i wneud popeth o fewn ein gallu i ymdrin â manylion penodol clefyd (Chalara) coed ynn, ond i hyrwyddo manteision ailgoedwigo ledled Cymru wrth wneud hynny.