Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 30 Ebrill 2019.
Diolch. O ran eich pryder cyntaf, credaf mai'r cyfle gorau ichi godi hynny gyda'r Gweinidog Addysg fyddai yn ystod y ddadl y prynhawn yma ar gefnogaeth i ddysgwyr difreintiedig ac agored i niwed. Ac, o ran yr ardoll prentisiaethau, roedd gennych nifer o gwestiynau manwl a byddaf yn sicrhau eich bod yn cael ymateb.