Part of the debate – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 30 Ebrill 2019.
Diolch i'r Gweinidog Brexit am gopi ymlaen llaw o'i ddatganiad, er bod yn rhaid imi ddweud, unwaith eto, nad oedd yn ddim ond ailbobiad o ddatganiadau blaenorol y mae wedi eu gwneud—nid oedd dim byd newydd o gwbl yn y datganiad hwnnw yn ychwanegol at y pethau a ddywedodd o'r blaen.
Rwy'n credu ei bod hi braidd yn rhyfedd fod y Gweinidog Brexit a Llywodraeth Cymru yn arddel safbwynt sy'n beirniadu Prif Weinidog y DU am geisio can pen y mwdwl ar faterion drwy geisio cytundeb ar gyfer ei chytundeb ymadael pan rydych chi mewn sefyllfa, a'ch plaid mewn sefyllfa yn San Steffan, i gefnogi'r cytundeb ymadael a rhoi terfyn ar yr ansicrwydd fel y gallwn ni fynd ati i drafod y berthynas â'r UE yn y dyfodol.
Felly, a ydych chi'n derbyn fod y Blaid Lafur yn San Steffan yn rhwystr rhag rhoi terfyn ar yr ansicrwydd hwn, oherwydd y gallu sydd ganddi i gefnogi cytundeb ymadael y Prif Weinidog? Rydych chi wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o afradu biliynau o bunnau yn llythrennol ar baratoi ar gyfer 'dim cytundeb'. Onid dyna'r peth cyfrifol i'w wneud—i baratoi ar gyfer pob posibilrwydd? Gallech feirniadu eich Llywodraeth eich hun yn hawdd am wneud paratoadau tebyg, ac eto, wrth gwrs, ni fyddech chi'n meiddio, oherwydd y gwir amdani yw bod yn rhaid ichi baratoi ar gyfer y digwyddiadau hyn oherwydd nid yw hi yn ein dwylo ni—nid yw hi yn nwylo un ochr, wrth drafod a negodi, i benderfynu beth allai'r canlyniad fod mewn gwirionedd.
Nawr, fe wyddoch chi'n iawn fod yr UE wedi'i gwneud hi'n gwbl glir mai'r cytundeb ymadael yw'r unig gytundeb posib. Rydych chi'n dweud wrth Brif Weinidog a Llywodraeth y Deyrnas Unedig am fynd ymaith a chyfaddawdu ac eto nid wyf wedi clywed unrhyw gyfaddawd gennych. Nid wyf wedi clywed unrhyw gyfaddawd gan Lywodraeth Cymru ar ei safbwynt, a nodwyd ganddi yn sgil canlyniad refferendwm yr UE. Wyddoch chi, dim cyfaddawdu o gwbl—rydych chi'n dal i ganu'r un hen dôn gron ag yr oeddech chi'n ei chanu bron i dair blynedd yn ôl pan gafwyd canlyniad y refferendwm mewn gwirionedd. Nawr, fe wyddoch chi nad oes mwyafrif i'ch cynigion yn Nhŷ'r Cyffredin chwaith, a dweud y gwir. Maen nhw hefyd wedi cael eu gwrthod, y cynigion y mae eich plaid wedi'u cyflwyno. Felly, rhowch ddiwedd ar feirniadu'r Prif Weinidog. Dechreuwch gydweithio a cheisio rhoi diwedd ar yr ansicrwydd hwn. A'r un ffordd y gallwn ni i gyd wneud hynny—yr un ffordd y gallwn ni roi terfyn ar yr ansicrwydd hwn yw cefnogi'r cytundeb ymadael hwnnw.
Nawr, rwyf eisiau gofyn ichi, o ran y feirniadaeth hefyd o'r anfodlonrwydd yn y Blaid Geidwadol—wrth gwrs, mae rhaniad ym mhob plaid, gan gynnwys eich un chi. Mae hyd yn oed rhaniad ychydig seddau o'ch blaen ar y rhes flaen honno. Mae gennych chi rywun sy'n arddel barn wahanol i farn cyd-Aelodau eraill yn y Llywodraeth. Nid wyf yn eich clywed yn beirniadu eich ochr chi eich hun am y rhaniadau hynny. Rydym ni wedi gweld rhaniadau hyd yn oed yn eich llenyddiaeth ar gyfer etholiadau'r UE, pe bai'n rhaid i ni, yn anffodus, eu cael, yn ystod yr wythnosau diwethaf dros y toriad. Felly, rwy'n credu bod bwrw'r bai a cheisio tynnu sylw at rai o'r anawsterau o ran sicrhau cytundeb o fewn pleidiau—y dylech chi gael golwg yn y drych ar adegau, Gweinidog, a dweud y gwir, i weld yr anghysonderau hynny yn eich plaid eich hun. Rydych chi'n dweud bod gennych chi lawer o ffydd ynghylch yr etholiadau Ewropeaidd. Rwy'n credu bod llawer o hynny'n gwbl gyfeiliornus, gan ein bod, wrth gwrs, wedi gweld y problemau, fel yr wyf i newydd dynnu sylw atyn nhw, yn barod.
Nawr, rydych chi wedi tynnu sylw at nifer o wahanol ddewisiadau—pethau y credwch chi fod angen eu gwneud. Rydych chi o'r farn y byddai'n ddefnyddiol paratoi ar gyfer refferendwm posib er nad oedd hi'n glir yn eich araith yn y gynhadledd yn ddiweddar pa un a oeddech chi'n teimlo y dylem ni gael un ar ôl inni ymadael â'r UE, cyn inni ymadael â'r UE, neu beth fyddai eich safbwynt yn bennaf ar y cwestiynau y gellid eu gofyn yn y refferendwm hwnnw. A ydych chi'n derbyn y byddai cynnal refferendwm arall cyn gweithredu canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin 2016 yn sarhad ar ddemocratiaeth, y byddai'n sarhad ar y prosesau democrataidd y mae'r wlad hon wedi eu dilyn bob amser ac y byddai'n sarhad ar y cyfansoddiad? Oherwydd, wrth gwrs, rydym ni bob amser, fel gwlad, wedi gweithredu canlyniadau refferenda ni waeth a yw'r sefydliad gwleidyddol bob amser wedi bod yn fodlon ar ganlyniad y refferenda hynny. Ac yn gwbl briodol hefyd. Felly, a ydych chi'n credu ei bod hi'n ddoeth peidio â gweithredu canlyniad y refferendwm hwnnw pan roedd hi'n amlwg iawn bod Cymru, ac yn enwedig eich etholaeth chi, wedi pleidleisio i adael yr UE?