Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 30 Ebrill 2019.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Heddiw, cyhoeddais yr adroddiad gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd, yn dilyn eu hadolygiad nhw o wasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf gynt. Daw adroddiad arall gyda hwn, sy'n cynnwys adroddiadau gan y menywod a'r teuluoedd sydd wedi defnyddio'r gwasanaethau hyn. Bydd yr Aelodau wedi cael cyfle erbyn hyn i ystyried yr adroddiadau, a'r datganiad ysgrifenedig gennyf a gyhoeddwyd fore heddiw.
Hoffwn ddechrau drwy ymddiheuro unwaith eto i'r holl fenywod a'r teuluoedd a gafodd eu heffeithio gan y methiannau a'r gofal o ansawdd gwael a ddisgrifiwyd yn adroddiad y colegau brenhinol. Nid oes unrhyw amheuaeth bod y gwasanaeth a roddwyd i lawer o fenywod a'u teuluoedd lawer yn is na'r safon y byddwn i neu unrhyw un arall yn ei disgwyl gan ein gwasanaeth iechyd gwladol. Fe hoffwn i, er hynny, ddiolch i'r menywod a'u teuluoedd a rannodd eu profiadau i lywio'r adolygiad. Ni allaf ddechrau deall yn iawn yr effaith a fu ar y rhai sydd wedi cael profiad o ymarfer anniogel neu esgeulus. Fel y rhan fwyaf o rieni ledled Cymru, roedd profiad ein teulu ni o wasanaethau mamolaeth yn un cadarnhaol—yn un y mae gan bob rhiant hawl i'w ddisgwyl. Nid oes lle i'r methiannau a ddisgrifir yn yr adroddiad yn ein GIG ni. Rwy'n benderfynol o sicrhau y bydd yr adroddiad hwn yn gatalydd i welliant parhaol ar unwaith.
Comisiynais yr adolygiad annibynnol gan y ddau goleg brenhinol ym mis Hydref y llynedd, ar ôl i bryderon yn ymwneud â than-gofnodi digwyddiadau difrifol gael eu dwyn i sylw'r Llywodraeth. Mae'r adolygwyr wedi siarad â theuluoedd ac aelodau staff, ac wedi ystyried yr wybodaeth a roddwyd iddyn nhw gan y bwrdd iechyd wrth ddod i'w casgliadau. Daeth yr adroddiadau terfynol gerbron fy swyddogion i ar 16 Ebrill.
Mae'r adroddiad yn disgrifio nifer o bryderon difrifol a cheir galwad eglur ynddo am weithredu. Mae'n tynnu sylw at fethiannau o ran llywodraethu, cywirdeb data, adrodd am ddigwyddiadau difrifol, arweinyddiaeth a diwylliant. Mae'r adolygiad yn nodi'n glir bod hyn wedi cael effaith ar ganlyniadau beichiogrwydd. Mae'r adroddiadau gan fenywod a'u teuluoedd yn bwrw golwg gofidus iawn ar y modd y mae'r methiannau hyn wedi effeithio ar eu profiadau nhw o feichiogrwydd a rhoi genedigaeth. Mae'r adroddiad yn cydnabod hefyd y pwysau eithafol sydd wedi bod ar rai aelodau o'n staff wrth iddyn nhw weithio. Ceir hefyd bryderon a chwestiynau pwysig o ran effeithiolrwydd arweinyddiaeth a llywodraethu'r bwrdd yn fwy eang.
Yn fy natganiad y bore yma, amlinellais y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, a byddaf yn manteisio ar y cyfle hwn nawr i gadarnhau'r mesurau hynny i Aelodau'r Cynulliad. Yn rhan o'r ymateb hwn, rwyf wedi gosod gwasanaethau mamolaeth ym mwrdd iechyd Prifysgol Cwm Taf gynt mewn mesurau arbennig.
Roedd yn dorcalonnus gennyf i ddarllen nad oedd menywod na theuluoedd yn teimlo eu bod wedi cael eu cymryd o ddifrif wrth fynegi eu pryderon a'u gofidiau. Er y cafwyd adborth yn yr adroddiad a oedd yn sôn am arfer da gan unigolion, roedd y mwyafrif llethol o'r cyfraniadau yn sôn am brofiadau trallodus a gofal gwael. Mae fy swyddogion i wedi cwrdd fore heddiw â rhai o'r menywod a'u teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw i drafod yr adroddiad, a cheisio parhad eu hymgysylltiad nhw ar gyfer gwella'r gwasanaeth. Mae'n hanfodol y parheir i glywed eu lleisiau nhw, ac unwaith eto hoffwn i ddiolch iddyn nhw am y dewrder a'r cydnerthedd y maen nhw wedi ei ddangos wrth ddweud eu stori.