– Senedd Cymru am 3:46 pm ar 30 Ebrill 2019.
Eitem 4 yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am Wasanaethau Mamolaeth Cwm Taf, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Heddiw, cyhoeddais yr adroddiad gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd, yn dilyn eu hadolygiad nhw o wasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf gynt. Daw adroddiad arall gyda hwn, sy'n cynnwys adroddiadau gan y menywod a'r teuluoedd sydd wedi defnyddio'r gwasanaethau hyn. Bydd yr Aelodau wedi cael cyfle erbyn hyn i ystyried yr adroddiadau, a'r datganiad ysgrifenedig gennyf a gyhoeddwyd fore heddiw.
Hoffwn ddechrau drwy ymddiheuro unwaith eto i'r holl fenywod a'r teuluoedd a gafodd eu heffeithio gan y methiannau a'r gofal o ansawdd gwael a ddisgrifiwyd yn adroddiad y colegau brenhinol. Nid oes unrhyw amheuaeth bod y gwasanaeth a roddwyd i lawer o fenywod a'u teuluoedd lawer yn is na'r safon y byddwn i neu unrhyw un arall yn ei disgwyl gan ein gwasanaeth iechyd gwladol. Fe hoffwn i, er hynny, ddiolch i'r menywod a'u teuluoedd a rannodd eu profiadau i lywio'r adolygiad. Ni allaf ddechrau deall yn iawn yr effaith a fu ar y rhai sydd wedi cael profiad o ymarfer anniogel neu esgeulus. Fel y rhan fwyaf o rieni ledled Cymru, roedd profiad ein teulu ni o wasanaethau mamolaeth yn un cadarnhaol—yn un y mae gan bob rhiant hawl i'w ddisgwyl. Nid oes lle i'r methiannau a ddisgrifir yn yr adroddiad yn ein GIG ni. Rwy'n benderfynol o sicrhau y bydd yr adroddiad hwn yn gatalydd i welliant parhaol ar unwaith.
Comisiynais yr adolygiad annibynnol gan y ddau goleg brenhinol ym mis Hydref y llynedd, ar ôl i bryderon yn ymwneud â than-gofnodi digwyddiadau difrifol gael eu dwyn i sylw'r Llywodraeth. Mae'r adolygwyr wedi siarad â theuluoedd ac aelodau staff, ac wedi ystyried yr wybodaeth a roddwyd iddyn nhw gan y bwrdd iechyd wrth ddod i'w casgliadau. Daeth yr adroddiadau terfynol gerbron fy swyddogion i ar 16 Ebrill.
Mae'r adroddiad yn disgrifio nifer o bryderon difrifol a cheir galwad eglur ynddo am weithredu. Mae'n tynnu sylw at fethiannau o ran llywodraethu, cywirdeb data, adrodd am ddigwyddiadau difrifol, arweinyddiaeth a diwylliant. Mae'r adolygiad yn nodi'n glir bod hyn wedi cael effaith ar ganlyniadau beichiogrwydd. Mae'r adroddiadau gan fenywod a'u teuluoedd yn bwrw golwg gofidus iawn ar y modd y mae'r methiannau hyn wedi effeithio ar eu profiadau nhw o feichiogrwydd a rhoi genedigaeth. Mae'r adroddiad yn cydnabod hefyd y pwysau eithafol sydd wedi bod ar rai aelodau o'n staff wrth iddyn nhw weithio. Ceir hefyd bryderon a chwestiynau pwysig o ran effeithiolrwydd arweinyddiaeth a llywodraethu'r bwrdd yn fwy eang.
Yn fy natganiad y bore yma, amlinellais y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, a byddaf yn manteisio ar y cyfle hwn nawr i gadarnhau'r mesurau hynny i Aelodau'r Cynulliad. Yn rhan o'r ymateb hwn, rwyf wedi gosod gwasanaethau mamolaeth ym mwrdd iechyd Prifysgol Cwm Taf gynt mewn mesurau arbennig.
Roedd yn dorcalonnus gennyf i ddarllen nad oedd menywod na theuluoedd yn teimlo eu bod wedi cael eu cymryd o ddifrif wrth fynegi eu pryderon a'u gofidiau. Er y cafwyd adborth yn yr adroddiad a oedd yn sôn am arfer da gan unigolion, roedd y mwyafrif llethol o'r cyfraniadau yn sôn am brofiadau trallodus a gofal gwael. Mae fy swyddogion i wedi cwrdd fore heddiw â rhai o'r menywod a'u teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw i drafod yr adroddiad, a cheisio parhad eu hymgysylltiad nhw ar gyfer gwella'r gwasanaeth. Mae'n hanfodol y parheir i glywed eu lleisiau nhw, ac unwaith eto hoffwn i ddiolch iddyn nhw am y dewrder a'r cydnerthedd y maen nhw wedi ei ddangos wrth ddweud eu stori.
Mae'r adroddiad yn gwneud nifer mawr o argymhellion, wedi eu grwpio ar draws 10 o brif feysydd yn y cylch gorchwyl a osodais i. Rwy'n derbyn argymhellion yr adroddiad yn llawn ac rwy'n ddiolchgar i'r adolygwyr am eu gwaith. Mae'n rhaid inni ganolbwyntio nawr ar weithredu eu hargymhellion nhw. I gyflawni'r cynnydd hwn, rwy'n cymryd camau ar draws tri phrif faes: gwasanaethau mamolaeth yn ardal Cwm Taf gynt; llywodraethu yn fwy eang yng Nghwm Taf Morgannwg; ac yn olaf, ceisio sicrwydd ynghylch y ddarpariaeth ledled Cymru.
Yn gyntaf, rwy'n bwriadu sefydlu panel annibynnol i oruchwylio mamolaeth. Cyfrifoldeb y panel hwn fydd ceisio sicrwydd pendant gan y bwrdd iechyd fod argymhellion yr adroddiad yn cael eu gweithredu yn ôl y cyfarwyddyd y cytunwyd arno. Bydd y Panel yn sefydlu adolygiad clinigol annibynnol, amlddisgyblaethol o'r 43 achos o feichiogrwydd a ystyriwyd yn yr adroddiad. Cafodd y rhain eu nodi mewn ymarfer i fwrw golwg yn ôl hyd at fis Ionawr 2016. Bydd y Panel yn sicrhau hefyd y cynhelir ymarfer i fwrw golwg yn ôl hyd at 2010, yn unol ag argymhelliad adolygiad y colegau brenhinol. Rwy'n awyddus i roi sicrwydd y bydd menywod sy'n teimlo eu bod wedi cael canlyniad andwyol yn gallu cael adolygiad o'r gofal a gawsant.
Bydd gan y panel annibynnol swyddogaeth hefyd o ran cynghori'r bwrdd iechyd ar sut i ailgysylltu â'r cyhoedd yn effeithiol wrth wella gwasanaethau mamolaeth yn ardal Cwm Taf gynt mewn ffordd sydd, yn gyffredinol, yn adfer yr ymddiriedaeth a'r hyder yn y gwasanaeth. Mae Mick Giannasi, cyn Gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, sydd hefyd yn gyn Gomisiynydd Cyngor Ynys Môn a chyn-brif gwnstabl Heddlu Gwent, wedi cytuno i gadeirio'r panel. Bydd ef yn cael ei gefnogi gan Cath Broderick, awdur yr adroddiad ar fenywod a theuluoedd, a fydd yn parhau i ymgysylltu â menywod a'u teuluoedd. A bydd uwch swyddogion bydwreigiaeth ac obstetreg sydd, wrth gwrs, yn annibynnol ar Gwm Taf yn ymuno â nhw ar y panel.
Yn ail, rwy'n rhoi trefniadau ar waith i wella effeithiolrwydd arweinyddiaeth a llywodraethu'r byrddau yn y sefydliad. Rwyf wedi gofyn i David Jenkins, cyn gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, i gefnogi cadeirydd Cwm Taf Morgannwg i roi sicrwydd ynghylch gweithrediad yr argymhellion. A bydd Mr Jenkins yn rhoi gwybod imi hefyd am unrhyw gamau pellach a allai fod yn angenrheidiol i wella trefniadau llywodraethu'r bwrdd. Bydd Uned Gyflawni GIG Cymru yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith ar gyfer adrodd, rheoli ac adolygu digwyddiadau a phryderon sy'n ymwneud â diogelwch cleifion. Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi cadarnhau ei bod yn bwriadu cynnal adolygiad o lywodraethu a fydd yn gyson ag unrhyw waith arolygu pellach y bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn ymgymryd ag ef.
Ac yn olaf, rwy'n ceisio sicrwydd ar unwaith ledled Cymru ynglŷn â'r ddarpariaeth o ofal mamolaeth. Rwyf wedi gofyn i bob bwrdd iechyd ystyried yr adroddiadau a sut y gallai'r canfyddiadau fod yn berthnasol i'w gwasanaethau nhw eu hunain. Rwy'n disgwyl i bob bwrdd iechyd roi sicrwydd imi o fewn y pythefnos nesaf. Bydd y prif swyddog nyrsio a'r prif swyddog meddygol yn gweithio gyda byrddau iechyd i sicrhau bod yr hyn a gaiff ei ddysgu yn sgil yr adroddiadau hyn yn cyfrannu at gamau gweithredu i Gymru yn y weledigaeth bum mlynedd newydd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth.
Cafwyd datblygiadau sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar draws gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru—rhai sylweddol a chadarnhaol. Er enghraifft, mae OBS Cymru yn brosiect i wella ansawdd ledled y wlad sy'n ceisio lleihau gwaedu niweidiol wedi genedigaeth, ac mae wedi ennill gwobrau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'r rhan fwyaf o fenywod yng Nghymru yn cael gwasanaethau o ansawdd uchel ac yn cael profiad cadarnhaol yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth. Er hynny, mae'n ddealladwy y bydd llawer o famau beichiog a'u teuluoedd yn cael ysgytwad ac yn bryderus yn sgil yr adroddiadau a gyhoeddir heddiw.
Fel y dywedais i, roedd yr adroddiadau yn eithriadol o anodd eu darllen, ac fe fyddan nhw felly i bob un ohonom ni sy'n rhoi o'n hamser i edrych ar yr adroddiadau. Wrth wraidd hyn mae'r mamau a'r babanod, eu profiadau nhw yn ystod beichiogrwydd, wrth roi genedigaeth, a'r lefel o ddiogelwch y mae gan bob teulu yr hawl i'w disgwyl. Mae'r camau a gyhoeddais heddiw yn gam nesaf hanfodol i sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth effeithiol o safon uchel ar gael i bob mam a theulu yng Nghymru.
Rwy'n dymuno gweld beichiogrwydd a genedigaeth a'r gofal mamolaeth a ddarperir yn brofiad cadarnhaol y gall menywod a'u teuluoedd edrych yn ôl arno a'i drysori.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, ac yn wir am y briffiadau a roddwyd i Aelodau'r Cynulliad a'u staff heddiw? Mae'r adroddiadau hyn yn cyflwyno darlun difrifol iawn o'u darllen. Maen nhw'n amlygu diffygion difrifol iawn wrth wraidd y sefydliad sef bwrdd iechyd Cwm Taf ar y pryd, a wnaeth gam â'r rhai oedd dan ei ofal. Mae'r materion ynglŷn â'r staff, yr arweinyddiaeth a'r llywodraethu wedi dod â chanlyniadau trasig, a dweud y gwir, i famau, babanod a'u teuluoedd a'u hanwyliaid, ac mae'n rhaid i'r rhai a oedd yn gyfrifol am yr hyn a aeth o'i le gael eu dwyn i gyfrif am hynny.
Mae'r diwylliant yn y sefydliadau hyn yn cael ei bennu gan arweinyddion y sefydliadau. Mae hynny'n cynnwys aelodau'r bwrdd ac yn wir uwch reolwyr yn y bwrdd iechyd hwnnw. Rwyf i o'r farn fod peth o'r wybodaeth sydd wedi dod i'r amlwg yn dilyn cyhoeddi'r adroddiadau hyn—ac rwy'n croesawu'r ffaith eu bod nhw wedi cael eu cyhoeddi'n llawn yn y byd cyhoeddus—yn frawychus iawn. Mae'n arbennig o frawychus a chythruddol i sylweddoli na chafodd rhywfaint o dystiolaeth am broblemau ei thraddodi i Lywodraeth Cymru ynghynt, a'i rhannu â Llywodraeth Cymru, yn enwedig y fydwraig ymgynghorol a gynhaliodd adolygiad o rai o'r materion mewn cysylltiad ag adrodd am ddigwyddiadau difrifol a marw-enedigaethau, a oedd yn amlwg yn annigonol iawn. Credaf ei fod yn bwrw amheuaeth ar onestrwydd yr uwch reolwyr hynny a fyddai wedi gweld yr adroddiad hwnnw ac wedi methu â'i ddangos i Lywodraeth Cymru ac, yn wir, i'ch uwch swyddogion chi.
Felly, fy nghwestiwn cyntaf i yw hwn: pa gamau a gymerir i ddwyn yr unigolion hynny i gyfrif am fethu â datgelu'r materion difrifol iawn a nodwyd yn yr adroddiad hwnnw, a gwblhawyd ac a roddwyd i'r bwrdd iechyd yn ôl ym mis Medi? Rwy'n bryderus iawn hefyd fod yr adroddiad yn awgrymu na chafodd prosesau llywodraethu sylfaenol eu bodloni. Dywed na chafodd y gofrestr risg ei diweddaru ers 2014 hyd yn oed—2014. Mae'n 2019 bellach, er mwyn popeth. Mae'r rhain yn bethau y dylai'r bwrdd fod yn canolbwyntio arnyn nhw'n naturiol o ran adolygu'r cofrestrau risg hynny o bryd i'w gilydd. Felly, pa atebolrwydd fydd gan yr aelodau annibynnol hynny o'r bwrdd, y byddwch chi'n eu penodi, Gweinidog, i chi am eu diffyg canolbwyntio ar rai o'r prosesau sylfaenol hyn a ddylai fod ar waith ar unrhyw fwrdd o ran llywodraethu?
Rwy'n sylwi hefyd bod yr adroddiad yn mynd rhagddo i nodi llinell amser o adroddiadau blaenorol—dim llai na naw adroddiad yn codi pryderon yn ystod y cyfnod rhwng 2012 a mis Medi 2018, a phob un yn darparu cyfleoedd i ymyrryd a chyfle i dynnu'r gorchudd a dadlennu rhai o'r problemau a oedd yn glir yn dechrau dod i'r amlwg yn y gwasanaethau mamolaeth hynny. Ac eto i gyd, dro ar ôl tro, mae'n ymddangos na weithredwyd yr argymhellion, nad oedd canlyniadau'r adroddiadau hynny wedi eu rhannu'n llawn â'r bobl yr oedd angen eu rhannu â nhw, ac nad oedd y pethau a ddylai fod wedi cael eu gweithredu, a oedd yn codi ohonynt, wedi cael eu gweithredu.
Mae'n codi cwestiynau eto am waith uwch reolwyr y sefydliad hwnnw, swyddogion gweithredol y sefydliad hwnnw, am fethu â rhannu'r wybodaeth honno'n fwy eang. Fe hoffwn i atgoffa pawb yn y Siambr hon mai canlyniadau'r camau hynny yw bod babanod wedi marw. Dyna'r gwirionedd. Mae babanod wedi marw. Mae mamau, tadau, teuluoedd wedi colli eu cenhedlaeth nesaf o ganlyniad i'r hyn sydd wedi digwydd yng Nghwm Taf.
Tybed hefyd a allech chi ddweud wrthym beth sy'n mynd i gael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r gweithlu. Nid yn unig y mae'r rhain yn amlwg yn y bwrdd iechyd hwn yn yr adroddiad hwn, ond hefyd yn fwy eang ledled Cymru, o ran gweithlu'r bydwragedd ac yn wir o ran y gweithwyr obstetreg a'r clinigwyr sy'n cefnogi'r gwasanaethau bydwreigiaeth hynny. Fe fyddwch yn ymwybodol fod fy mhlaid i wedi crybwyll, ar sawl achlysur, bryderon ynghylch y ffaith y bydd tua thraean o'r gweithlu bydwreigiaeth yn gymwys i ymddeol erbyn 2023. Ond ar y gyfradd bresennol, ni fyddwn ni'n gallu llenwi'r bylchau sydd eisoes yn y gweithlu bydwreigiaeth, ac sydd bellach yn ehangu, o ran y swyddi yr ydych chi'n eu hariannu ar hyn o bryd ar gyfer hyfforddiant. Felly, mae angen inni sicrhau, a dweud y gwir, bod cynnydd aruthrol yn y capasiti er mwyn gwneud yn siŵr nad yw'r gweithlu sydd dan ormod o bwysau nawr yn cael ei orymestyn eto yn y dyfodol.
Mae'n arswydus, a dweud y gwir, i ystyried y cafwyd adegau pan ddylai meddygon fod wedi bod ar gael, ond nad oedden nhw ar gael. Roedden nhw ar alwad, ond ni fydden nhw'n ymateb am dri chwarter awr. Nawr, mewn argyfwng, mae pob munud yn bwysig. Nid yw pedwar deg a phump o funudau yn dderbyniol mewn argyfwng, ac eto dyna'r oedden yn darllen amdano. Roeddem yn darllen am ddiffyg hyfforddiant gorfodol. Roedd cyn lleied â chwarter y staff wedi cymryd rhan mewn unrhyw gyrsiau hyfforddi. Nid yw hynny'n ddigon da, ac mae angen inni sicrhau bod digon o bobl yn y wardiau hyn sy'n gallu darparu'r gofal o safon uchel y gwn ein bod ni i gyd yn dymuno ei weld.
Rwy'n bryderus hefyd fod llais y cleifion, o ran y pryderon a godwyd ganddynt, wedi cael ei anwybyddu'n rhy aml o lawer. Ac roedd hi'n ddirdynnol—yn gwbl frawychus—i ddarllen yr adroddiadau gan y cleifion a datganiadau am y diffyg urddas, y diffyg parch, a'r ffordd ffwrdd-a-hi y cafodd unigolion eu hysbysu am farwolaethau eu babanod. Mae'n gwbl frawychus. A sut yn y byd y gall rhai gweithwyr honedig broffesiynol fod yn y fath sefyllfa fel y gallant drin pobl mewn modd mor anhrugarog ag y cafodd rhai o'r bobl hynny'n amlwg eu trin gan bobl yn ein gwasanaeth iechyd ni yng Nghymru.
Ceir awgrym yn yr adroddiad hefyd ynglŷn â swyddogaeth bwysig y cynghorau iechyd cymuned o ran gallu helpu i reoli'r broses gwyno ac efallai gynorthwyo byrddau iechyd i ddysgu gwersi o'r cwynion. Tybed a allwch ddweud wrthym ni heddiw a ydych chi'n gweld mwy o swyddogaeth i gynghorau iechyd cymuned wrth symud ymlaen i gefnogi byrddau iechyd, o ran gwrando ar lais cleifion a gweithredu newid pan mae gwersi sydd angen eu dysgu.
Ac yn olaf, a wnewch chi ddweud wrthym hefyd, Gweinidog: mae rhai o'r pethau a ddarllenais yn yr adroddiad yn awgrymu i mi fod angen llawer o atgyfeiradau i'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac i'r Cyngor Meddygol Cyffredinol ynglŷn â diffyg cymhwysedd rhai gweithwyr proffesiynol. A fydd Llywodraeth Cymru neu a fydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn gwneud yr atgyfeiriadau hynny ac, yn wir, pe bai angen, a fydd yr heddlu'n cael ei hysbysu ac yn cael eu gofyn i ymgymryd ag adolygiad, yn enwedig o ystyried ei bod yn amlwg fod cofnodion meddygol wedi mynd ar goll a'u bod yn anghywir ar brydiau hefyd? Diolch.
Diolch am y gyfres o gwestiynau y byddaf i'n ceisio mynd drwyddyn nhw nawr. Byddaf yn ceisio ymdrin â'r materion hynny sy'n fwy eang ac yna rai o'r pwyntiau penodol yr ydych chi wedi eu gwneud.
Y mater o ran y rheoleiddwyr: fel arfer, byddech yn disgwyl i atgyfeiriadau gael eu gwneud gan y cyflogwr, ac rwy'n credu mewn gwirionedd y bydd hynny'n dod yn ôl at beth o'r gwaith y bydd y panel goruchwylio annibynnol yn ei wneud i nodi'r hyn oedd wedi digwydd yn y 43 achos, a golwg ehangach yn ôl i weld a oes angen atgyfeiriadau. Ond rydym wedi sicrhau bod yr adroddiadau wedi cael eu rhannu'n uniongyrchol â'r ddau reoleiddiwr, sef y GMC a'r NMC, a dylid gwneud atgyfeiriadau fel y bydd yn briodol. Nid fy lle i yw penderfynu a ddylid gwneud atgyfeiriadau unigol, ond rwy'n ceisio sicrhau y bydd gennym lefel o ddealltwriaeth er mwyn gwybod a ddylai hynny ddigwydd.
O ran cynghorau iechyd cymuned, mae gennym gynigion mewn gwirionedd i wneud llais y dinesydd yn fwy hyglyw ledled y byd iechyd a gofal cymdeithasol ac i ddiwygio'r ffordd y mae'r rhain yn gweithio, a'r swyddogaeth ehangach honno ar draws ein system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n fwy integredig byth. Credaf fod y cynigion newydd hynny y tu allan i gwmpas yr adroddiad hwn. Ond oherwydd cyfansoddiad y cynghorau iechyd cymuned ar hyn o bryd, wrth gwrs mae ganddyn nhw swyddogaeth i gefnogi pobl i wneud eu cwynion, ac yn yr wybodaeth a gyhoeddwyd gennym heddiw, rydym wedi egluro bod cynghorau iechyd cymuned ar gael i gefnogi teuluoedd i wneud hynny.
Gan ddod at eich pwynt ehangach am niferoedd staff, mae dau wahanol bwynt, i'w gwneud yma, yn fy marn i. Un ohonyn nhw yw ei bod yn amlwg, o ran niferoedd bydwragedd, nad oedd digon o fydwragedd o fewn y gwasanaeth, a cheir her ynglŷn â pha bryd wnaeth y bwrdd iechyd ei hun gydnabod nad oedd yn cydymffurfio â Birthrate Plus, a hwnnw, wrth gwrs, yw'r offeryn a ddefnyddir i wybod beth yw'r nifer cywir o fydwragedd ar gyfer darparu'r gwasanaeth.
Yn gyffredinol, yng Nghymru rydym wedi canfod bod ein byrddau iechyd wedi cydymffurfio â Birthrate Plus. Yr her ynglŷn â gweithlu'r dyfodol sydd wedi dod i'r amlwg yw'r angen i wneud rhywbeth i sicrhau ein bod ni'n recriwtio ac yn hyfforddi digon o fydwragedd i'r dyfodol. Rhan o'r siom a gefais i yw bod y bwrdd iechyd wedi datgan yn gymharol hwyr nad oedd yn cydymffurfio â Birthrate Plus. Wrth gwrs, daeth hynny i'r amlwg eto yn yr adroddiad oherwydd profiad y staff yn gweithio heb ddigon o weithwyr, ac roedd y cleifion a'r teuluoedd eu hunain yn cydnabod hynny.
Felly, mae gwaith i'w wneud ar unwaith sy'n ymwneud â recriwtio ond, yn ogystal â hynny, â'r ffordd y mae'r byrddau iechyd yn gweithio gyda'i gilydd, nid yn unig yng Nghwm Taf Morgannwg ond o'u cwmpas nhw, er mwyn ceisio sicrhau bod digon o staff yn yr unedau wrth inni geisio recriwtio a hyfforddi ar gyfer y dyfodol. Ond rwyf eisoes wedi cydnabod yr angen i hyfforddi mwy o fydwragedd ar gyfer y dyfodol. Ddwy flynedd yn ôl, penderfynais gynyddu nifer y lleoliadau i hyfforddi bydwragedd 43 y cant. Felly, rydym yn cymryd camau i sicrhau ein bod yn hyfforddi llawer iawn mwy o fydwragedd i'r dyfodol.
Ar y pwynt ynglŷn â meddygon, nid y niferoedd sy'n ganolog mewn gwirionedd—yr ymarfer a'r ymddygiad sy'n ganolog. Mae'r adroddiad yn nodi'n gwbl glir fod nifer digonol o feddygon yn y rhan hon o'r gwasanaeth—yr her yw'r ffordd y maen nhw wedi bod yn ymddwyn, ac mae hynny, mewn gwirionedd, mewn llawer ffordd yn fwy anodd i ymdrin ag ef. Os oes gennych y nifer cywir o staff yn ymddwyn yn y ffordd anghywir, yna mae hynny o hyd yn heriol, ac mae'r adroddiad hwn yn nodi bod hynny'n rhan o'r hyn a ddigwyddodd.
O ran eich pwynt ynglŷn ag ymddygiad ein staff, mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei ddisgwyl ohonynt ac nid ydym yn dymuno gweld staff o fewn y gwasanaeth iechyd yn ymddwyn yn ansensitif, yn amhroffesiynol ac yn dangos diffyg urddas tuag at y bobl sy'n aml yn fregus iawn pan fyddan nhw'n rhyngweithio â'r gwasanaeth iechyd mewn unrhyw ffordd. Ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys pobl sydd ar fin rhoi genedigaeth neu bobl sy'n gwybod y gallai eu canlyniadau fod yn wael yn sgil eu beichiogrwydd. Roedd hynny'n rhan o'r hyn a oedd yn arbennig o anodd i mi ei ddarllen yn yr adroddiad. Cymerodd sawl diwrnod imi ddarllen yr adroddiad gan fod hynny'n wirioneddol boenus i mi.
O ran eich pwynt arall am yr adroddiad mewnol a gomisiynwyd gan y bwrdd iechyd, a ddarparwyd ym mis Medi 2018, mae'n amlwg nad yw'n dderbyniol na chafodd sylw priodol ei roi i'r adroddiad hwnnw drwy fecanwaith adrodd y bwrdd, ac na chafodd ei roi i bwyllgor ansawdd a diogelwch y bwrdd ac na chafodd ei roi i'r bwrdd, ac na chymerwyd camau bryd hynny. Mae cadeirydd y bwrdd iechyd a'r prif weithredwr ill dau wedi cydnabod, wrth gyhoeddi'r adroddiad hwn heddiw, fod y bwrdd iechyd wedi cyfeiliorni'n llwyr yn hynny o beth.
Mae'n bwysig cydnabod yr hyn a wnaeth y bwrdd iechyd yn anghywir er mwyn gwneud cynnydd yn y dyfodol. Mae yna gwestiwn i'r bwrdd y mae'r cadeirydd yn ymdrin ag ef, gydag adolygiad dan arweiniad aelod annibynnol o'r bwrdd, i ddeall yr hyn a ddigwyddodd ar y pryd, pam na ddaeth gerbron y bwrdd, a'r hyn a all fod yn wers wrth edrych yn ôl ond hefyd yr hyn y mae'n ei olygu wrth fynd ymlaen. Ceir cwestiynau ehangach yn y fan honno ynglŷn ag arweinyddiaeth a llywodraethu, nid yn unig i gael sylw yn yr un enghraifft unigol honno—dyna pam y bydd y gwaith y mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn ei wneud yn bwysig, a chefnogaeth ehangach yr hyn y bydd David Jenkins yn ei wneud hefyd.
Mae'n amlwg fod methiannau wedi bod yn y system o fewn y bwrdd iechyd—mae hynny wedi cael ei gydnabod nid yn unig yn yr adroddiad ond yn y sesiynau briffio a'r datganiadau sydd wedi bod eisoes heddiw. Ond mater syml o ddidol nifer o bobl mewn rhes i gael eu diarddel o'r sefydliad yw'r ateb.
Fel y clywsoch chi'r Prif Weinidog yn ei nodi, mae'r adroddiad yn nodi heriau a methiannau mewn nifer o wahanol feysydd o fewn y gwasanaeth, o'r cyswllt uniongyrchol ag unigolion hyd at bobl a oedd â chyfrifoldeb dros arwain a rheoli, hyd at gyfeiriad clinigol y gwasanaeth, yr holl ffordd drwodd i'r cyngor, yr wybodaeth a'r her a ddarparwyd gan aelodau annibynnol ar lefel weithredol a lefel y bwrdd. Dyna pam yr wyf i'n credu ei bod yn hynod bwysig bod goruchwyliaeth annibynnol ar y gwaith sydd ei angen i weithredu argymhellion yr adolygiad hwn, ac y daw'r annibyniaeth honno nid yn unig o ystyried y 43 digwyddiad difrifol wrth edrych yn ôl i 2010, ond y bydd hynny wedyn yn rhoi sail dystiolaeth briodol ar gyfer atebolrwydd a sut y byddwn yn symud ymlaen.
Mae rhywbeth anodd iawn yma, oherwydd mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod diwylliant o gosbi o fewn y gweithle, lle'r oedd pobl yn ofnus ac yn bryderus am godi pryderon. Mae hynny'n gwbl amhriodol ac nid yw'n dderbyniol. Er mwyn cyrraedd y pwynt lle mae pobl yn fwy hyderus o ran pryd y gallen nhw ac y dylen nhw godi pryderon, mae gwir angen inni fod yn agored ynghylch pobl yn cydnabod nawr beth aeth o'i le, yn hytrach na phobl yn ceisio anwybyddu hynny gan eu bod yn pryderu am eu swyddi. Yn wir, os na chawn y diwylliant mwy agored hwnnw, rydym yn fwy tebygol o beryglu'r ansawdd a'r diogelwch y mae gan bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny yr hawl i'w disgwyl. Felly, mae'n ofynnol cael newid sylfaenol yn y diwylliant, a dyna pam mae'r annibyniaeth honno o ran datblygu'r argymhellion hynny mor bwysig. Ond fe fyddaf i, wrth gwrs, yn adrodd yn ôl i'r Aelodau pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael am y gwaith hwnnw a'r ymarfer sicrwydd uniongyrchol yr wyf wedi gofyn amdano.
Mae'n amlwg fy mod yn ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiadau, am gyhoeddi'r adroddiad ac am y cyfarfod briffio nad oeddwn i'n gallu bod yn bresennol ynddo'n bersonol ond rwyf i wedi gallu siarad â chydweithwyr a oedd yn bresennol ac rydym yn ddiolchgar i'r Gweinidog amdano.
Mae'r Gweinidog, wrth gwrs, yn gywir wrth ddweud mai gwaith anodd iawn yw darllen yr adroddiad hwn. Ni chefais i ond diwrnod i'w ddarllen ac mae'n dorcalonnus iawn. Wrth ddarllen tudalennau 30 i 32, sy'n sôn am brofiad y cleifion—sut y cawsant eu diystyru, pa mor ofidus yr oeddent, sut y cafodd y menywod a'r teuluoedd hyn eu sarhau ar yr adeg pan oedden nhw fwyaf agored i niwed. Mae unrhyw un ohonom sydd wedi bod trwy'r profiad o feichiogrwydd a genedigaeth yn gwybod, pa mor hyderus bynnag a pha mor falch yr ydych chi o fod yn feichiog a pha mor ddiogel bynnag yw'r sefyllfa ar eich aelwyd, y byddwch yn teimlo'n fregus tu hwnt yn y cyfnod hwnnw yn eich bywyd. Ac fel y mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud, y peth lleiaf y gall menywod a'u teuluoedd ei ddisgwyl yw cael teimlo mor ddiogel â phosibl, cael eu trin gyda chydymdeimlad ac urddasol ac, yn arbennig pan fo newyddion trist ofnadwy i'w roi, y gwneir hynny'n sensitif â chydymdeimlad.
Mae hefyd yn glir, ac rwy'n credu y dylem ni bwysleisio hyn, fod yr adroddiad yn nodi'n eglur iawn y ceir gweithwyr ardderchog yn y gwasanaeth hwnnw—pobl ardderchog ar y rheng flaen sy'n gweithio'n anhygoel o ddyfal i ddarparu'r gwasanaeth gorau y gallan nhw ei roi mewn amgylchiadau sy'n anodd tu hwnt. Rwy'n credu y dylem ni gydnabod a mynegi ein diolch i'r staff hynny sydd wedi bod yn llewod yn cael eu harwain gan asynnod—byddwn i'n awgrymu bod hwn yn ymadrodd a orddefnyddir ond rwy'n credu ei fod yn briodol yn yr achos hwn. Mae methiannau systematig wedi pylu eu hymdrechion nhw ac nid yw hynny'n ddigon da. Methiannau systematig ofnadwy—ac fe soniodd y Gweinidog am y materion diwylliannol dwfn lle'r oedd pobl yn cael eu trin yn amharchus, y staff eu hunain yn cael eu trin yn amharchus ac roedden nhw'n amharchus gydag eraill.
Mae'n iawn, wrth gwrs, Dirprwy Lywydd, fod y Gweinidog wedi ymddiheuro, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn falch ei fod wedi cyfarfod â rhai o'r teuluoedd ac y bydd yn parhau i gyfarfod â nhw ac ystyried eu barn a'u pryderon. Mae'n iawn hefyd, wrth gwrs, ei fod ef yn derbyn yr argymhellion. Er hynny, nid wyf wedi f'argyhoeddi y gall fod yn hyderus wrth gyflawni'r argymhellion hynny. Ni all gyflwyno'r syniad i'r Siambr hon heddiw nac i'r teuluoedd hynny fod yr argyfwng hwn yn syndod i Lywodraeth Cymru. Mae Darren Millar yn gywir i dynnu sylw at dudalen 7 yr adroddiad, sy'n nodi naw adroddiad ar wahân sy'n tynnu sylw at agweddau arbennig ar y mater hwn rhwng 2012 a 2018, a hynny ar ben y rhybuddion a godwyd yn y Siambr hon i'r Gweinidog gan, ymysg eraill, fy nghyd-Aelod Leanne Wood, wrth siarad ar ran ei hetholwyr hi a'r profiadau y maen nhw wedi eu dioddef.
Nawr, mae'r Gweinidog yn dweud wrthym ni ei fod ef am roi rhan o'r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig. Wel, mae'r rhai ohonom ni sy'n cynrychioli rhan o ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn gwybod, bedair blynedd wedi i'r mesurau arbennig iawn hynny gael eu cyflwyno, nad yw'r problemau wedi eu datrys. Mae'r materion sy'n dod trwy'r post yn fy etholaeth i a rhai eraill,—fy nghyd-Aelodau Llŷr Gruffydd a Siân Gwenllian, er enghraifft —. Pedair blynedd o fesurau arbennig ac ni chafodd y problemau eu datrys. Felly, rwyf am ofyn i'r Gweinidog heddiw, Dirprwy Lywydd, a yw ef yn derbyn y ceir rhai problemau systematig gyda rheolaeth yn y GIG. Mae'n rhaid i staff proffesiynol—meddygon, nyrsys, bydwragedd—fod â chyfres benodol o gymwyseddau, mae'n rhaid iddyn nhw gael eu cofrestru, mae'n rhaid inni wybod eu bod nhw'n gymwys yn broffesiynol. Onid yw hi'n bryd cael y set graidd honno o gymwyseddau ar gyfer pobl sy'n rheoli yn ein GIG a system o gofrestru'r staff hynny, ac yn arbennig system o gofrestru'r staff uwch hynny fel na allan nhw fod yn fethiant mewn unrhyw fwrdd iechyd lleol ac yna ymddangos yn sydyn mewn bwrdd iechyd arall? Mae patrwm penodol o bethau felly'n digwydd dros y ffin. Nid wyf yn awgrymu bod hynny'n berthnasol yn benodol yma, ond o ran y methiannau systematig a welsom, lle mae pobl sydd wedi gwneud cawlach o bethau wrth reoli iechyd yn Lloegr yn gwneud cawlach o bethau yn ein gwlad ni. Siawns nad oes angen y cymwyseddau craidd hynny arnom ni. Mae angen rheolwyr ac arweinwyr arnom y gellir dibynnu arnyn nhw. Mae angen inni wybod beth a ddisgwylir ganddyn nhw. Nawr, o ran atebolrwydd, rwyf wedi clywed, wrth gwrs, yr hyn y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud wrth Darren Millar, ond mae'r Gweinidog ei hun wedi sôn am yr angen i newid y diwylliant. Wel, sut allwch chi newid y diwylliant os mai'r un unigolion a greodd y diwylliant hwnnw sy'n dal i fod â gofal amdano? Nawr, rwy'n derbyn yn llwyr, Dirprwy Lywydd, yr hyn a ddywed y Gweinidog am beidio â dymuno creu amgylchedd o gosbi mwy llym, ond, os nad yw pobl yn cael eu dal i gyfrif, sut y gall y staff rheng flaen hynny, sut y gall y menywod hynny a'u teuluoedd, fod yn hyderus y bydd eu pryderon yn cael y sylw mwy sensitif os mai'r un rhai fydd yn mynd i'r afael â nhw ac sydd wedi caniatáu i'r sefyllfa hon godi yn y lle cyntaf? Nid wyf i'n galw am ddiswyddo cyffredinol o reidrwydd, ond sut y gall pobl fod yn hyderus y bydd pethau'n newid os na chaiff unigolion eu dal i gyfrif? Mewn unrhyw broffesiwn arall—mewn gwaith cymdeithasol, ym myd addysg—byddai methiannau systematig enfawr fel hynny yn arwain at bobl yn cael eu diswyddo ac nid wyf i'n deall pam nad yw'r Gweinidog yn teimlo bod hynny'n angenrheidiol yma.
Nawr, ac rwy'n dweud hyn gan resynu, Dirprwy Lywydd, ond mae'n rhaid imi ofyn i'r Gweinidog a yw ef yn derbyn yn ein system iechyd ni—ac mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn ei gefnogi ac mae hi'n wahanol i'r sefyllfa yn Lloegr—fod yr atebolrwydd am redeg y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru yn aros gyda Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog. Mae'r ddeddfwriaeth yn glir ynglŷn â hynny. Y Gweinidog sy'n penodi'r byrddau iechyd, ef sy'n gosod eu cyllidebau, ef sy'n pennu eu polisïau, ac felly y dylai hi fod yn fy marn i. Felly, yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid imi ddweud, yn wyneb y methiant diweddaraf, mwyaf difrifol hwn, a yw'r Gweinidog yn credu ei bod yn bryd iddo ef ystyried ei sefyllfa a gweithredu yn atebol am yr hyn sydd wedi mynd o'i le ac ymddiswyddo?
Cafodd maint y pryderon, fel y nodir yn yr adroddiad ac yn y llinell amser, ei wneud yn gwbl hysbys pan wnaeth pennaeth gwasanaeth bydwreigiaeth newydd adolygu'r data o fewn y gwasanaeth. Arweiniodd y pryderon hynny at gysylltiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru â'r sefydliad ac, yn y pen draw, gan nad oeddwn i'n fodlon ag ymateb y bwrdd iechyd, fe benderfynais i gomisiynu'r adolygiad annibynnol hwn a adroddwyd heddiw. Felly, o ystyried maint y pryder sydd wedi cael ei amlygu'n briodol, gan rywun sy'n gwneud ei waith fel y dylai, gan ddwysáu'r pryderon hynny, rydym nawr yn cyrraedd pwynt pan fydd Gweinidog yn gwneud penderfyniad—yr adroddiad hwn sydd gennym heddiw. A heb hwnnw, ni ellir gwadu'r ffaith na fyddai gennym y gwrthrychedd sydd gennym yn yr adroddiad hwn heddiw, ac mae'n ddigon posib y byddai'r pryderon hyn sy'n bodoli yn y gwasanaeth hwn o dan orchudd o hyd. [Torri ar draws.] O ran deall yr ystod o wahanol adroddiadau, ceir adroddiadau ar draws ystod o wasanaethau amrywiol ac yna fe gymerir camau fel arfer i ddatrys y rhain. Mewn gwirionedd, fe ddaethom ni i wybod am faint y pryder hwn—ac, fel y dywedais, rwyf wedi nodi ar eich cyfer chi sut a phryd y gweithredais i er mwyn sicrhau bod adolygiad y Coleg Brenhinol yn cael ei gynnal.
Nawr, o ran mesurau arbennig o fewn y maes gwasanaeth, mae gennym gyfres glir o argymhellion i weithio tuag atynt er mwyn i'r gwasanaeth wella yn unol â nhw. Mae gennym oruchwyliaeth annibynnol i weld a fydd yr argymhellion hynny'n cael eu cyflawni mewn gwirionedd. Ac rydym yn y sefyllfa ffodus lle mae nifer o deuluoedd sydd wedi cyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru heddiw ac wedi derbyn ymddiheuriad personol gan Gadeirydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i fod yn fodlon cymryd rhan yn y gwaith hwnnw i wella gwasanaethau. Mae hynny'n eithriadol o bwysig er mwyn inni allu dysgu'r gwersi'n iawn a sicrhau na chaiff lleisiau menywod a'u teuluoedd eu hanghofio yn hyn o beth, oherwydd, mewn gwirionedd, yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw gwneud eu llais nhw yn fwy hyglyw yn nyfodol y gwasanaeth. Felly, rwyf i o'r farn y dylid bod yn fwy cadarnhaol ynghylch am ba hyd y bydd y maes gwasanaeth yn parhau i fod mewn mesurau arbennig. Ond fe fyddwn i'n dweud y bydd y maes gwasanaeth yn parhau i fod mewn mesurau arbennig cyn belled â'i bod yn briodol iddi fod felly. Nid wyf am osod unrhyw fath o derfyn amser artiffisial i'r mesurau arbennig orffen yn y maes hwn o wasanaeth. Mae'n rhaid sicrhau gwelliant priodol a pharhaus sy'n cael ei amlygu'n wrthrychol a'i gymeradwyo. Ac mae'n werth nodi, yn Betsi Cadwaladr, mai'r gwasanaethau mamolaeth oedd un o'r prif bryderon a arweiniodd at fesurau arbennig ar gyfer y sefydliad cyfan, ac mae'r gwasanaeth wedi cyflawni gwelliant parhaus mewn gwasanaethau mamolaeth a dyna pam maen nhw wedi dod allan o fesurau arbennig dros flwyddyn yn ôl.
Nawr, o ran eich pwynt ynglŷn â rheoli, rwy'n sylweddoli nad oedd a wnelo rhywfaint o'r hyn a oedd gennych chi i'w ddweud ddim o gwbl â'r system yng Nghymru, ac roedd mewn gwirionedd yn sylwebaeth ar y system yn Lloegr. Ond, wrth gwrs, mae llawer o reolwyr yn glinigwyr eu hunain. Os edrychwch ar y rhan fwyaf o'r tîm gweithredol o amgylch byrddau iechyd yn y wlad, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig ydyn nhw sy'n parhau i gynnal eu cofrestriad proffesiynol, ond mae'r gwaith y maen nhw'n ymgymryd ag ef fel arweinwyr a rheolwyr yn gofyn am wahanol fath o brofiad i fod yn glinigwr. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n edrych ar y cymwysterau a'r profiad perthnasol wrth benodi, ac mae'r byrddau iechyd sy'n eu penodi nhw'n gwneud hynny hefyd. Dyma'r pwynt ynghylch bod gan ein system ni y byrddau i ymgymryd yn briodol â'r llywodraethu, y cymorth a'r her sydd eu hangen i sicrhau bod y bobl iawn yn cael eu penodi a'u bod yn eu lle. Rhan o'r hyn sy'n anodd am y gwasanaeth arbennig hwn yw bod Cwm Taf, hyd yn hyn, wedi bod yn fwrdd iechyd sy'n perfformio'n dda, yn byw o fewn ei gyllidebau ac yn gwneud yn dda o ran mesurau perfformiad. Ond mae ansawdd a diogelwch yn rhan ddiysgog o'r system gofal iechyd yma yng Nghymru, ac felly mae'r atebolrwydd y mae'r Aelodau yn galw amdano yn ddealladwy—bydd tystiolaeth i ategu unrhyw fath o atebolrwydd ac nid prosesau annibynnol a roddais i ar waith wedi cael eu cynllunio i roi sicrwydd i'r cyhoedd yn unig, ond fe'u cynlluniwyd hefyd i sicrhau ein bod yn deall ymhle y dylai atebolrwydd orwedd. Oherwydd ein hamcan ni yw newid a gwella'r gwasanaeth, a rhaid i hynny olygu newid diwylliannol sylweddol er mwyn cyflawni hynny.
Felly, nid wyf am bennu dyddiad cau artiffisial ar gyfer ymadawiad unrhyw un o'i waith; byddai'n dda gennyf weld pobl yn y gwasanaeth iechyd sy'n gallu gwneud eu gwaith yn iawn a gwneud eu gwaith gyda'r cyhoedd y maen nhw'n ei wasanaethu. Ond rydym wedi gweld newid yn barod—bu newid sylweddol yn nifer yr aelodau annibynnol o'i gymharu â'r bwrdd iechyd yn 2010. Mae dau feddyg a oedd yn y gwasanaeth ar adeg ysgrifennu'r adroddiad wedi gadael y bwrdd iechyd erbyn hyn. Gyda llaw, mae gennym gyfarwyddwr nyrsio newydd erbyn hyn ar lefel weithredol o fewn y bwrdd iechyd, a fydd wrth y gwaith o fewn y mis hwn. Maen nhw allan yn recriwtio Cyfarwyddwr Meddygol newydd—unwaith eto, mater o gyd-ddigwyddiad yw hynny; roedd hwnnw'n ymddeoliad a gynlluniwyd beth bynnag. A hefyd, yn y pythefnos diwethaf, mae bydwraig ymgynghorol o fewn y gwasanaeth hefyd, ac felly mae yna newid, a newid sylweddol, o fewn haenau arweinyddiaeth y sefydliad.
Yr her nawr yw i bobl wneud y gwaith y maen nhw'n cael eu talu amdano, y gwaith yr aethant i mewn i'r gwasanaeth iechyd i'w wneud, er mwyn rhoi'r hyder a'r ansawdd y mae gan bob teulu'r hawl i'w disgwyl. Ac, wrth gwrs, ni fyddaf yn ymddiswyddo; byddaf yn parhau â'm cyfrifoldebau fel Gweinidog dros y gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru ac yn gwireddu'r gwelliannau sy'n ofynnol yr wyf yn cydnabod bod yn rhaid iddynt ddigwydd.
Diolch i chi, Gweinidog, am y datganiad. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod i wedi fy siomi a'm tristáu gan yr hyn a welais yn yr adroddiad hwn a'r darganfyddiadau, ac, fel eraill, mae fy meddyliau i, yn gyntaf oll, gyda'r teuluoedd, y mae llawer ohonyn nhw'n etholwyr i mi, wrth gwrs, sydd wedi cael eu heffeithio gan y diffygion yng ngwasanaethau mamolaeth Cwm Taf.
Er fy mod yn gwybod bod llawer o fenywod wedi cael profiadau da a gofal da yng Nghwm Taf, mae gormod ohonyn nhw heb gael hynny, ac ar hyn o bryd mae'n rhaid iddyn nhw fod yn ganolbwynt i'n pryderon. Ceir sawl agwedd ar yr adroddiad yr hoffwn eu trafod gyda chi, sy'n cynnwys cywirdeb data, urddas cleifion, cymorth annigonol i staff, diffyg hyfforddiant datblygiad proffesiynol, adolygiadau o ddigwyddiadau difrifol, arfer clinigol gwael, rheolaeth staff amhriodol, amharodrwydd staff i arfer eu dyletswydd o fod yn ddidwyll ac, wrth gwrs, pwy yn union sydd â'r cyfrifoldeb terfynol yn y bwrdd iechyd. Ond, oherwydd prinder amser heddiw, fe wnaf i hynny gyda chi y tu allan i'r sesiwn hon a chynnal trafodaethau uniongyrchol gyda'r bwrdd iechyd. Heddiw, hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar dri maes penodol a cheisio peidio ag ailadrodd yr hyn y mae eraill wedi ei ddweud.
Yn gyntaf, mae llywodraethu gwael yng ngwasanaethau mamolaeth Cwm Taf yn amlwg yn destun pryder mawr ac, er bod lefelau staffio yn rhywbeth y mae'n rhaid rhoi sylw iddo, mae'n rhaid imi ddweud, hyd yn oed pe byddai gennym ni'r staffio gorau posib ond na fyddai'r gwasanaethau hynny'n cael eu rheoli'n briodol, yna fe fyddai'r un problemau gennym ni o hyd. Felly, rwy'n arbennig o ofidus am y datganiad yn yr adroddiad sy'n ymwneud â'r ffug sicrwydd a roddwyd i'r bwrdd gan yr uwch dîm gweithredol ynglŷn â'r gwasanaeth, ac fe hoffwn i wybod beth mae hynny'n ei olygu a beth gaiff ei wneud ynglŷn â hynny.
Yn ail, o ran y penderfyniad yn 2014 i symud y gwasanaethau dan arweiniad meddygon ymgynghorol i un safle, a ydych chi'n gwybod pa asesiad risg a gynhaliwyd ynghylch effaith staffio ar y penderfyniad hwnnw, o gofio y byddai'r rhan fwyaf o fydwragedd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn naturiol yn edrych tuag at Gaerdydd neu Ben-y-bont ar Ogwr ac nid Merthyr wrth ystyried newidiadau cyflogaeth? A pham, fel y mae'n ymddangos, y gadawyd pethau i'r funud olaf cyn rhoi sylw i'r materion staffio o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw tra bod y bwrdd wedi cael pum mlynedd i gynllunio ar gyfer hynny?
Yn olaf, bydd yn hanfodol sicrhau nad yw'r gwasanaeth yn cael ei ansefydlogi yn ystod y cyfnod hwn o ymyrraeth. Felly pa sicrwydd y byddwch chi a'r bwrdd iechyd yn ei roi i ddarpar famau ynghylch diogelwch gwasanaethau mamolaeth Chwm Taf ar hyn o bryd, a sut y bydd hynny'n cael ei gyfleu.
Gweinidog, yn ardal Cwm Taf, bydd gan lawer ohonom ddiddordeb gwleidyddol a phersonol i sicrhau y bydd y gwasanaethau mamolaeth yn addas at y diben, ac, yn wir, bydd fy ŵyr cyntaf yn cael ei eni yn ysbyty'r Tywysog Siarl ym mis Awst. Felly, er fy mod yn croesawu'r camau arfaethedig a nodir yn eich datganiad, beth yw'r amserlenni yr ydych yn disgwyl i'r bwrdd iechyd eu cyrraedd er mwyn cyflawni'r newidiadau sy'n angenrheidiol?
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn i dynnu sylw at y ffaith bod llawer iawn o ofal da, wrth gwrs, yn digwydd bob dydd ym mhob cymuned ledled ein gwasanaeth iechyd gwladol, ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at amrywiaeth o staff a roddodd ofal da, yn enwedig yn y gwasanaeth bydwreigiaeth gymunedol. Ond mae'n gwbl briodol ac yn gymwys ein bod ni'n canolbwyntio ar y diffygion a nodwyd yn yr adroddiad heddiw. Ac mae hynny'n mynd yn ôl at eich pwynt chi ynglŷn â rheolaeth a diwylliant o fewn gwahanol rannau o'r gwasanaeth, nid yn unig ar y lefel uchaf, gan adrodd i'r tîm gweithredol a'r bwrdd, ond ar lawr y gwaith yr holl ffordd drwodd i'r arweinwyr a'r rheolwyr mewn gwahanol rannau o'r gwasanaeth. Mae'r adroddiad yn sôn am ddiwylliant o gosbi; byddwn i'n disgwyl i'r undebwyr llafur siarad am ddiwylliant bwlio, a diwylliant o ofn o fewn y sefydliad, ac rwy'n cydnabod hynny wrth ddarllen yr adroddiad. Felly, nid un rhan yn unig o'r diwylliant yn y gwasanaeth mamolaeth yn y bwrdd y mae angen mynd i'r afael ag ef. Ac mae hynny'n mynd yn ôl at y pwynt a wnaethoch chi am roi ffug sicrwydd, gan fod yr adroddiad yn nodi'n gwbl glir fod amryw o bryderon wedi cael eu gorchuddio ac nad ymdriniwyd â nhw, ac wedyn ni chafodd adroddiadau eu cwblhau'n briodol. Felly, mewn gwirionedd, roedd pobl yn cael sicrwydd am bethau nad oeddent yn iawn, ac rwy'n credu bod aelodau annibynnol wedi cael sicrwydd lle na ddylai fod wedi ei roi iddyn nhw. Mae hwnnw'n fater nid yn unig a nodir yn yr adroddiad ac yr ymdrinnir ag ef yn yr adolygiad annibynnol o'r hyn a aeth o'i le, ond mae hwn yn rhan o'r hyn y mae angen i'r bwrdd fynd i'r afael ag ef ar hyn o bryd, yn ogystal â gwneud argymhellion i'r dyfodol. Rwyf wedi siarad sawl gwaith â chadeirydd y bwrdd iechyd ac mae ef yn deall yn iawn ei fod yn fater i'r bwrdd roi sylw iddo'n ddigonol ac yn briodol o ran yr wybodaeth a oedd ganddyn nhw, yr hyn nad oedd ganddyn nhw, a'r hyn fydd ei angen arnyn nhw yn y dyfodol a lefel yr her y mae'n rhaid iddyn nhw ei hateb. Mae hynny'n rhan o'r gwaith y bydd David Jenkins yn ei wneud wrth gynorthwyo'r bwrdd i wneud hynny.
O ran eich pwynt am y symudiad, mae'r symudiad i ganolbwyntio gofal dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn ysbyty Tywysog Siarl—rydych chi'n llygad eich lle—wedi cymryd amser maith i ddigwydd, mwy nag y dylai, a bod yn onest. A rhan o hynny yw oherwydd nad oedd y bwrdd iechyd, na'r ddwy uned dan sylw ychwaith, yn eiddgar i wneud i'r symudiad ddigwydd mewn modd cydweithredol. Pan gynhaliwyd yr adroddiad, roedden nhw'n parhau i ganfod diwylliant rhwng y ddau safle nad oedd yn gallu derbyn y symudiad a oedd ar fin digwydd. A honno yw'r broblem wirioneddol sydd gan y timau arwain ymhlith y meddygon ar y ddau safle hyn. Ac nid yw hynny'n dderbyniol.
Felly, y symudiad, a chyn y symudiad, cynhaliwyd cyfarfod amlddisgyblaethol, ac roedd dau swyddog o Lywodraeth Cymru yn y cyfarfod hwnnw. Cafwyd cadarnhad eu bod mewn sefyllfa i fynd ymlaen ac, mewn gwirionedd, roedd llai o berygl i'r staff a'r gwasanaeth wrth fynd ymlaen â'r symudiad ym mis Mawrth yn hytrach na gohirio a cheisio cynnal gwasanaethau ymgynghorydd ar y ddau safle, yn rhannol oherwydd natur fregus staff bydwreigiaeth, ond hefyd nifer y staff locwm o fewn y graddau meddygol. Felly, oedd, roedd diofalwch, ond mae mwy o waith i'w wneud eto i sicrhau bod y gwasanaeth hwnnw yn fath o wasanaeth y byddech chi neu y byddwn i'n ei ddymuno i ni ein hunain ac yn amlwg i'ch ŵyr cyntaf.
O ran cefnogaeth i fenywod a'u teuluoedd, fe ddylen nhw gysylltu â'u bydwraig a chysylltu â'u byrddau iechyd i drafod y pryderon a'r ofnau sydd ganddyn nhw, er mwyn deall y dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw. Dylent wneud yn siŵr eu bod yn gwneud hynny cyn gynted â'u bod nhw'n gofidio neu'n pryderu, oherwydd mae hynny'n rhan o'r gwaith sydd gan fydwraig, sef cefnogi menywod i wneud eu dewisiadau nhw. Efallai y bydd rhai menywod yn dewis rhoi genedigaeth mewn gwahanol leoliadau, boed hynny gartref, boed yn enedigaethau dŵr, neu'n ofal dan arweiniad ymgynghorydd neu mewn gofal dan arweiniad bydwraig, ac efallai y bydd rhai pobl yn ailfeddwl am leoliad yr enedigaeth. Nawr, byddwn yn annog pobl i ddechrau trafod yr holl bryderon hynny, yn y lle cyntaf, gyda'u bydwraig gymunedol, ac, yn achos y bwrdd iechyd, mae'n ddisgwyliad clir iawn eu bod nhw'n cefnogi menywod i wneud y dewisiadau hynny ynglŷn â'r lle maen nhw'n fwyaf cartrefol, y lle maen nhw'n teimlo eu bod yn cael y gefnogaeth orau.
Ac, o ran yr amserlen ar gyfer gwelliannau, wel, mae'n rhaid i'r gwelliant ddigwydd ar unwaith. Mae angen y gwelliannau ar unwaith, ond ni ddylwn honni i chi nac i neb arall y caiff hyn ei ddatrys yn gyflym, oherwydd bydd y newid diwylliannol y tynnais eich sylw ato fwy nag unwaith yn cymryd misoedd lawer i fod yn weithredol a'i gynnal wedi hynny.
Mae gen i nifer o siaradwyr erbyn hyn, a byddaf yn ymestyn y datganiad hwn. Fodd bynnag, mae'r prif bleidiau wedi cael eu siaradwr cyntaf, ac rwyf wedi bod yn eithaf hael o ran amseru, felly gofynnaf i'r holl siaradwyr eraill yn awr ymdrin â'r datganiad yn unig a gofyn cwestiwn byr. Fel yna, mae'n debyg y bydd cyfle i bawb heb i ni fynd gormod dros ein hamser. Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch ichi am y briff a hwyluswyd gennych y bore yma ar gyfer yr Aelodau ac, yn benodol, am yr ymddiheuriad yr ydych chi wedi'i gynnig yn eich datganiad y prynhawn yma. Credaf ei fod yn gwbl briodol, a chroesawaf y sylwadau a wnaethoch chi ynghylch pa mor anodd oedd darllen yr adroddiad. Mae'n adroddiad anodd iawn ei ddarllen, oherwydd, yn y pen draw, rydych chi'n sôn am rywbeth a ddylai fod yn achlysur llawen ac, yn anffodus, i rai teuluoedd, trodd i fod yn brofiad erchyll na ddylai neb fyth orfod ei ddioddef. Ac mae hyn yn digwydd yn ysbytai'r unfed ganrif ar hugain, yn anffodus, nid nepell o'r union sefydliad hwn.
Un peth yr hoffwn ei ofyn ichi, gan fod y rhan fwyaf o'r maes wedi cael sylw, yw mater llywodraethu a goruchwylio, oherwydd credaf fod hynny'n mynd at wraidd y mater yma. Ar frig yr argymhellion neu'r pryderon, mae'r ffaith nad oes meddyg ymgynghorol bob amser ar gael ac mae hi'n cymryd 45 munud iddyn nhw ddod i ysbyty pan fo angen. Dyna ichi'r anallu i sicrhau bod tystiolaeth ar gael nes i dîm yr ymchwiliad gyrraedd yr ysbyty ei hun, o'r bwrdd. Bu naw adroddiad gwahanol, rwy'n credu, rhwng 2012 a 2018. Yn wir, ar dudalen 11 yr adroddiad, mae awduron yr adroddiad yn sôn am eu siom:
bod y Bwrdd Iechyd wedi derbyn gwybodaeth yn amlygu meysydd o arferion anniogel ac yna wedi dewis peidio â chymryd unrhyw gamau pan gyflwynwyd y dystiolaeth hon iddynt.
Credaf mai'r hyn sy'n peri pryder difrifol yma yw: pryd y mae'r diwylliant hwn yn mynd i newid? Clywaf yr hyn yr ydych wedi ei ddweud hyd yma—mae'n cymryd amser i newid y diwylliant hwnnw—ond nid adroddiad ar ei ben ei hun yw hwn. Mae hwn yn adroddiad sy'n deillio o naw adroddiad blaenorol, a bu methiant trychinebus yn y gwasanaeth iechyd penodol hwn, yn y ddisgyblaeth benodol hon. Ac rwy'n amau a yw wedi'i chyfyngu'n benodol i'r ddisgyblaeth hon, gwasanaethau mamolaeth, neu a yw'n fater ehangach. Ni all fod yn iawn os na ellir cael newid sylfaenol yn y Bwrdd Iechyd hwn, oherwydd os na chaiff y newid hwnnw ei gyflawni ar frig y Bwrdd Iechyd, yna, mewn gwirionedd, byddwn yn ôl yma ymhen dwy, tair, pedair blynedd, i adolygu'r un adroddiad trist yr ydym yn ei ystyried y prynhawn yma.
Fel dywedaf, rwyf yn eich canmol am yr ymddiheuriad yr ydych wedi'i roi ar goedd. Dwi'n credu y bydd rhai teuluoedd yn cael cysur o hynny. Ond ni allwn ac ni ddylem ni ganiatáu i hwn fod yn adroddiad arall pryd na cheir camau gweithredu yn ei sgil ac, fel y dywedais, y byddwn yn ôl yma ymhen dwy neu dair blynedd.
Nid oes gennyf unrhyw fwriad o gwbl i ddod yn ôl yma ymhen dwy neu dair blynedd a gorfod adrodd nad oes cynnydd pellach wedi'i wneud. Dyna pam yr wyf wedi cymryd y camau yr wyf wedi eu cadarnhau heddiw ac wedi rhoi sicrwydd o annibyniaeth wrth adolygu'r cynnydd y mae'r Bwrdd Iechyd wedi ei wneud neu heb ei wneud. Oherwydd byddaf yn onest ynghylch lefel y cynnydd a wnaed neu'r diffyg cynnydd gan y Bwrdd Iechyd bob tro yr adroddaf yn ôl i'r Siambr neu i'r cyhoedd yn gyffredinol.
Unwaith eto, dychwelaf at y pwynt ynghylch ymddygiad a diwylliant, oherwydd pan soniwch am yr adroddiad yn amlygu'r ffaith nad oedd meddygon ar gael, mae hynny'n bwynt sy'n ymwneud â'r diwylliant meddygol, gan nad oedd yn ymwneud â nifer y bobl a gyflogir gan y gwasanaeth, roedd mewn gwirionedd ynglŷn â'u hymarfer gwaith. Mewn sawl ffordd, mae'n llawer anos mynd i'r afael â hynny, a dyna pam y dywedais wrth Dawn Bowden ein bod yn sôn am fisoedd lawer o waith i newid y diwylliant hyd at y pwynt lle mae'n fwy tebygol o gael ei gynnal a'i newid, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl nad oes angen newid sylweddol o fewn y sefydliad.
Nid yw'r gwaith yr wyf wedi ei amlygu wedi'i gyfyngu i wasanaethau mamolaeth yn unig. Mae arweinyddiaeth glinigol newydd o fewn y tîm meddygol yn y rhan hon o'r gwasanaeth, mae arweinydd clinigol newydd yno, ac mae hynny'n gam cadarnhaol ymlaen. Ond y gwaith y bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ei wneud yw edrych yn ehangach ar arwain a llywodraethu o fewn y sefydliad, ac rwy'n disgwyl y bydd eu hadroddiad ar gael cyn diwedd yr hydref. Rwyf wedi cael sgwrs â phrif arolygydd AGIC heddiw, a dyna'r hyn yr wyf yn ei ddisgwyl yn dilyn y sgwrs—ei bod hi'n disgwyl y bydd adroddiad ar gael yn yr hydref.
Unwaith eto, cyhoeddir adroddiadau AGIC ac nid oes cuddio rhagddynt, ac felly fe fyddwn ni'n glir ynglŷn â pha lefel o newid sydd wedi digwydd neu heb ddigwydd a pha newid pellach sydd ei angen o hyd. Byddwn i'n disgwyl y byddem ni'n dal i glywed bryd hynny pa newidiadau pellach sydd eu hangen o hyd i sicrhau bod y newid hwnnw'n un gwirioneddol ac yn cael ei gynnal. Felly, byddaf yn dychwelyd i'r Siambr hon a/neu bwyllgorau sydd eisiau neu ddim eisiau gofyn cwestiynau am hyn, ac fel y dywedais, byddaf yn onest ynghylch lle yr ydym ac ynghylch yr hyn y mae angen inni ei wneud o hyd.
Bûm yn y sesiwn briffio y bore yma ar hyn, ac nid oedd digon o amser imi ofyn cwestiynau ar ran fy etholwyr yn y Rhondda, felly rwy'n gobeithio y caf yr amser yn awr, Llywydd.
Mae'n dda cael ymddiheuriad gan y Gweinidog Iechyd, ac mae'n rhaid imi ddweud pan ddarllenais yr adroddiad hwn am y tro cyntaf, sy'n cyfeirio at ddiwylliant o bryderon pobl yn cael eu diystyru, meddyliais ar unwaith y gallai hyn fod yn wir am y Gweinidog Iechyd hefyd. Ni allaf gofio sawl gwaith yr wyf wedi codi fy mhryderon, ar lawr y Siambr hon, gyda'r Gweinidog Iechyd a'r Prif Weinidog, ynghylch prinder staff a chwynion yn fy ardal bwrdd iechyd lleol. Rhaid imi ddweud, y rhan fwyaf o'r amser, fod y pryderon hyn wedi'u diystyru, neu o leiaf nad ydynt wedi'u cymryd o ddifrif. Oes, mae'n rhaid i'r Bwrdd Iechyd wneud yn well ar ystod eang o feysydd, ond Gweinidog, rhaid i chithau hefyd.
Nid yw'n dda darllen bod 67 o farw-enedigaethau, yn mynd yn ôl i 2010, heb gael eu cofnodi'n gywir, ac mae'n warthus darllen sut na wrandawyd ar rai cleifion. Tybed faint o broblem fyddai hyn wedi bod mewn ardal fwy cefnog. Yn aml, mae'n hawdd diystyru barn pobl dlotach ar draws ystod gyfan o wasanaethau cyhoeddus. Byddaf yn clywed yn aml am bobl yn cael eu trin yn wahanol i'r ffordd y byddai'r rheini o gefndiroedd dosbarth canol wedi cael eu trin—pobl sydd efallai wedi mynd i'r brifysgol ac sy'n gwybod yn iawn sut i fynnu eu hawliau. Gelwir yr egwyddor hon yn ddeddf gofal gwrthgyfartal, ac mae wedi cael ei chydnabod a'i derbyn gan y proffesiwn meddygol. Gweinidog, a wnewch chi gytuno i edrych i weld a yw hyn wedi bod yn broblem yn yr achos hwn? Rhowch adborth i ni.
Dyma fy nghwestiynau pellach. A wnewch chi gytuno i edrych o ddifrif ar bob cwyn a phob achos difrifol nad ymdriniwyd ag ef yn foddhaol? O gofio bod yr adroddiad hwn yn sôn am ddiwylliant problemus, diwylliant cosbol o ran cwynion, rwy'n amau'n gryf—ac mae fy ffeiliau achos yn ategu hyn—fod methu ag ymdrin â chwynion yn broblem ehangach o lawer. A ydych chi'n cytuno â'r pwynt hwnnw, ac a allwch chi ddweud wrthym ni beth yn union yr ydych chi'n bwriadu ei wneud yn ei gylch? Oherwydd ni chlywais i ddim byd penodol yn eich datganiad yn mynd i'r afael â'r pwynt diwylliant hwnnw. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn mynd i ymchwilio i adrannau eraill. Pa negeseuon y gallwch chi eu rhoi i rieni pryderus, fel un o'm hetholwyr sydd ar fin cael ei phumed baban ac sydd wedi gweld y gwasanaethau'n dirywio dros flynyddoedd lawer, a sydd erbyn hyn yn poeni'n fawr am y gofal y mae'n debygol o'i gael? A all hi ddewis mynd i rywle arall, er enghraifft? A wnewch chi gytuno i fonitro'r sefyllfa yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn ofalus? Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â llawer o gyn gleifion Ysbyty Brenhinol Morgannwg nad ydynt yn hapus â'r hyn y maent wedi'i brofi yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn ystod y chwe wythnos diwethaf.
Roeddem ni ym Mhlaid Cymru yn ymgyrchu o 2013 yn erbyn symud a chanoli'r gwasanaethau mamolaeth hyn, ac rydym wedi ymgyrchu yn erbyn symud y gwasanaethau plant, sydd i fod i symud yr haf hwn. Mae meddygon wedi sôn wrthyf am eu pryderon ynglŷn â hyn i gyd hefyd, un yn dweud wrthyf am ei gred, a dyfynnaf, y bydd mamau a babanod yn marw. Mae'r adroddiad hwn yn cadarnhau bod staff yn cytuno â ni ynglŷn â chanoli, a'u bod wedi'u hatal rhag siarad. A wnewch chi wrando ar y staff sy'n dweud bod y canoli hwn yn beryglus? A wnewch chi wrando'n awr ar yr hyn y mae cleifion yn ei ddweud am hyn, ac a wnewch chi gytuno i fonitro a gweithio i adfer y gwasanaethau hynny yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg os yw'r sefyllfa'n parhau i fod yn risg a bod pobl yn parhau i roi gwybod am broblemau?
Dechreuaf drwy ailadrodd nad ydw i'n mynd i amddiffyn y diffygion a nodir yn yr adroddiad hwn. Yn sicr, nid dyna'r hyn yr wyf am ei wneud. Byddai'n gwbl amhriodol imi geisio gwneud hynny. Yr her yw sut i ymdrin â'r methiannau hynny, ac mae gennym ni nifer fawr o argymhellion ynghylch sut i wneud hynny. Fel y dywedais dro ar ôl tro, mae cael proses annibynnol briodol i wneud hynny yn wirioneddol bwysig, nid yn unig i'r Bwrdd Iechyd, ond i'r cyhoedd y mae'r bwrdd yno i'w gwasanaethu, gan na ddylid trin unrhyw deulu yn y modd hwn, beth bynnag fo'i incwm, ei statws addysgol, ble maen nhw'n byw. Ni ddylid trin unrhyw deulu yn y ffordd y mae'r adroddiad yn ei nodi.
Os ydych chi mewn gwirionedd yn edrych ar gymunedau tebyg—er enghraifft yng Nghymoedd Gwent—nid ydych yn clywed yr un stori. Nid oes yr un lefel o bryder. Os edrychwch chi, er enghraifft, yn ymarferol—ac mae'n ymwneud â diwylliant a'r hyn yr wyf wedi'u codi a'u disgrifio yn llawer o'r ymatebion i gwestiynau heddiw—mae'r cyfraddau ymyrryd yn hen Fwrdd Iechyd Cwm Taf yn sylweddol ac yn wahanol, ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at hynny. Nid yw'n cael ei egluro gan y grŵp economaidd-gymdeithasol o bobl y maen nhw'n ymdrin â nhw. Nid yw'n cael ei egluro gan gyd-forbidrwydd ym maes iechyd oherwydd, mewn gwirionedd, mae gan gymunedau tebyg gyfraddau ymyrryd gwahanol o ran ymsefydlu, toriadau Cesaraidd ac esgor â chymorth. Ac mae'n ymwneud â diwylliant o fewn yr uned a'r arferion, ac mae hynny'n rhan o'r hyn sy'n gorfod newid. Fel arall, bydd gennym fenywod yn cymryd mwy o risgiau nag y dylen nhw wrth roi genedigaeth, cymhlethdodau posibl wedyn, a bydd yn newid cymysgedd y staff a'r gwelyau y mae eu hangen arnom i wasanaethu hynny'n iawn. Felly, mewn gwirionedd, mae'n bwysig iawn gwneud newidiadau i sicrhau gwasanaeth gwell a gwasanaeth mwy diogel o fewn yr ardal a gwell defnydd o'r holl adnoddau sydd gennym. Mae'n pwysleisio eto pam mae'r adolygiad annibynnol o'r 43 o ddigwyddiadau difrifol ac ail edrych ar 2010 yn bwysig.
Ond fe hoffwn i orffen ar y pwynt a wnaethoch chi ynghylch cefnogi menywod i wneud dewisiadau. Ydw, fel y dywedais, rwy'n disgwyl iddyn nhw gael cefnogaeth wrth wneud dewisiadau. Ac mae unedau eraill dan arweiniad ymgynghorwyr nad ydyn nhw yn Ysbyty'r Tywysog Siarl lle y byddai menywod efallai eisiau rhoi genedigaeth, ond dylen nhw ddechrau, fel y dywedais mewn ymateb i Dawn Bowden, drwy drafod hynny gyda'r fydwraig gymunedol i siarad am ofnau neu bryderon sydd ganddyn nhw a'r dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw.
Dydw i ddim yn cytuno â chi mai mynd yn ôl a cheisio datod rhaglen y de yw'r peth iawn i'w wneud. Roedd y pryderon a oedd yn bodoli bryd hynny ynghylch breuder o fewn ein system wrth geisio cynnal nifer fwy o safleoedd nag oedd ein staff a'r cymysgedd o achosion yn gallu eu darparu—dydw i ddim yn credu mai dyna'r ffordd iawn ymlaen. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yw deall yr wybodaeth a roddir inni gan y staff a gan y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau, a deall yr hyn y mae angen inni ei wneud er mwyn cyflenwi'r gwasanaeth sydd gennym yn briodol o ran capasiti a niferoedd staff ac, yn hanfodol, arferion a diwylliant.
Diolch am eich datganiad heddiw, Gweinidog. Gan fy mod yn fam fy hun a roddodd enedigaeth yn ardal Cwm Taf, yn ogystal â bod yn Aelod Cynulliad dros etholaeth sydd yn dod o dan ardal Cwm Taf, gallaf ddweud yn onest mai'r adroddiad hwn yw'r peth mwyaf gofidus imi ei ddarllen ers imi gael fy ethol i'r lle hwn tair blynedd yn ôl, ac mae fy meddyliau yn sicr gyda'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt.
Hoffwn gefnogi sylwadau a fynegwyd yn flaenorol gan Aelodau Cynulliad eraill am effaith y canlyniadau trasig hyn, y naw adroddiad blaenorol a'r cyfleoedd a gollwyd i unioni pethau a'r brys i unioni pethau nawr. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r staff rheng flaen hynny, sy'n gweithio mor galed ac ymroddedig a fydd yn teimlo eu bod mewn sefyllfa fregus iawn oherwydd cyhoeddi'r adroddiad hwn heddiw—cyfarfûm â llawer ohonyn nhw pan ymwelais â'r gwasanaeth newydd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn ddiweddar. Yn ôl y mamau a roddodd dystiolaeth i'r adroddiad hwn, mae un thema yn amlwg iawn, sef y ffaith eu bod eisiau rhoi eu tystiolaeth er mwyn unioni pethau ar gyfer mamau yn y dyfodol a fydd yn mynd drwy'r gwasanaeth. Mae'r ddau faes holi yr hoffwn i ganolbwyntio arnyn nhw heddiw wedi'u cysylltu'n gryf iawn â hynny.
Yn gyntaf, i'r holl fenywod yr wyf wedi siarad â nhw yn fy etholaeth a hefyd y menywod o Gwm Cynon y mynegir eu barn yn yr adroddiad, mae un thema yn amlwg iawn, sef y mater sy'n ymwneud â nodiadau'n diflannu, neu gofnodion nad ydyn nhw'n fanwl gywir, a menywod ar esgor yn mynd drwy gyfnod anodd iawn yn cael eu holi dro ar ôl tro gan wahanol aelodau o staff i drosglwyddo gwybodaeth ar lafar yn hytrach na bod yr wybodaeth yno wrth law. Nawr, fe wyddoch ein bod ni, ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, wedi bod yn cynnal ymchwiliad i wybodeg y GIG, tybed felly, yn rhan o'r cam nesaf ar ôl yr adroddiad hwn, a fyddai'n briodol ystyried a ellid defnyddio gwybodeg yn fwy effeithiol yng ngwasanaeth mamolaeth Cwm Taf, er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar fydwragedd a meddygon wrth law er mwyn iddyn nhw wneud y penderfyniadau iawn ar yr adeg iawn ar gyfer mamau a babanod.
Yn ail—ac mae hwn yn fater yr ydych chi wedi cyfeirio ato yn eich ateb i'r Aelod Cynulliad blaenorol—gwyddom fod gan ardal Cwm Taf broblemau penodol o ran ei sefyllfa economaidd-gymdeithasol a'r problemau iechyd sy'n deillio o hynny, ond mae rhannau eraill o Gymru sydd â'r un heriau. Pa waith a ellir ei wneud i gysylltu'r ddarpariaeth gwasanaeth yng Nghwm Taf ag ardaloedd tebyg iawn eraill yng Nghymru lle mae ganddyn nhw lai o ymyriadau adeg esgor, sydd fel y gwyddom ni, yn arwain yn aml at ganlyniadau mwy diogel i famau a babanod?
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Unwaith eto, croesawaf y pwynt yr ydych yn ei wneud am staff. Bydd llawer o staff yn poeni am fynd i'r gwaith heddiw a gweddill yr wythnos. Mae pwynt ynglŷn â sut yr ydym ni'n cefnogi staff, ynglŷn â'r ffaith bod gennym ddisgwyliadau uchel o hyd o ran sut y mae staff yn ymddwyn, a sut y cânt eu cefnogi i weithio mewn amgylchedd llawer mwy agored.
Rwy'n llwyr gydnabod eich pwynt ynglŷn â theuluoedd yn dymuno gweld gwelliant. Dywedodd llawer o bobl eu bod wedi penderfynu dweud eu stori nhw am y rheswm penodol nad oedden nhw'n dymuno iddo ddigwydd i neb arall ac roedden nhw eisiau i'r gwasanaeth gael ei wella. Mae hynny'n mynd â ni'n ôl at gadw cofnodion—un o'r pryderon a gydnabuwyd gennyf ar ôl darllen yr adroddiad hefyd. Credaf fod gwell defnydd o'r hyn nad yw bellach yn dechnoleg newydd ond yn dechnoleg sydd wedi hen sefydlu mewn rhannau helaeth o'n bywydau, yn rhan o wneud hynny, i roi mwy o gadernid a sicrwydd ynghylch y broses o drosglwyddo cofnodion ac i fynd ati mewn dull mwy rhagweithiol i gasglu safbwyntiau pobl wrth iddyn nhw ddefnyddio'r gwasanaeth hefyd. Felly, rwy'n credu'n llwyr fod hyn yn rhan safonol o'r dyfodol.
Yn hollbwysig, mae'n cyffwrdd â'ch ail bwynt ynghylch cefnogaeth gan fyrddau iechyd eraill sy'n gwasanaethu cymunedau tebyg. Gan fod eisoes arferion da yn bodoli yn y system yma yng Nghymru ar garreg drws hen ardal Cwm Taf, ac mae'n bwysig i mi ein bod yn cael mynediad priodol i hynny ac y caiff ei ystyried wrth wella'r gwasanaeth yn hen ardal Cwm Taf i sicrhau nad ydym yn aros misoedd a misoedd a misoedd heb wneud dim cynnydd, ond bod y gwelliannau uniongyrchol y gellid eu gwneud, rydym yn glir ynghylch beth yw'r rheini a'r cymorth a roddir i bobl sy'n rhedeg bydwreigiaeth yn y gwasanaethau, sy'n rhedeg gwasanaethau mamolaeth mewn cymunedau tebyg iawn gyda chyfraddau ymyrraeth gwahanol a chyfraddau canlyniadau gwahanol.
Gweinidog, rwyf wedi bod rhwng dau feddwl drwy'r dydd ynghylch pa un a ddylwn i siarad y prynhawn yma, ond rwy'n teimlo y byddai'n anghywir i mi eistedd yma a minnau'n rhywun a gafodd gofal gwael iawn gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf pan gefais fy mhlentyn cyntaf, a dweud dim. Rwyf wedi ceisio anghofio'n llwyr am fy mhrofiadau yn Ysbyty'r Tywysog Siarl gyda fy maban cyntaf, ond digon yw dweud y gallaf uniaethu'n llwyr â'r storïau yr wyf wedi'u darllen yn yr adroddiadau hyn am famau'n teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu, neb yn gwrando arnyn nhw, yn cael eu dad-ddyneiddio a'u gwneud i deimlo'n ddiwerth. Wedi darllen yr adroddiadau heddiw, rwyf hefyd yn teimlo hyd yn oed yn fwy ffodus nag yr oeddwn i 16 mlynedd yn ôl imi ddod allan o'r fan honno gyda'r bachgen hoffus sydd gen i hyd heddiw.
Rwy'n cytuno â Leanne fod deddf gofal gwrthgyfartal sylweddol iawn ar waith yma, gan nad wyf yn credu na fyddai'r achosion hyn wedi dod i'r amlwg yn gynharach mewn ardal fwy cefnog, a gobeithiaf y bydd hynny'n rhywbeth y byddwch chi'n edrych arno mewn ymateb i'r hyn a ddywedodd Leanne Wood.
Roeddwn hefyd eisiau eich holi am yr achosion cyn 2010, sy'n cynnwys y cyfnod pryd yr oeddwn i yn derbyn gofal yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, ond a fydd hefyd yn cynnwys profiadau llawer o famau eraill. Os gallwn ddysgu unrhyw beth o'r adroddiad hwn, yna'r wers honno yw ei bod yn angenrheidiol ein bod ni'n clywed lleisiau'r rhai sydd wedi cael gofal gwael. Felly, hoffwn ofyn i chi, Gweinidog, a ydych chi'n ffyddiog y bydd yr amserlen yr ydych chi'n ei dilyn yn caniatáu ichi nodi'r holl achosion y mae angen i chi eu nodi, yn enwedig o gofio bod y bwrdd iechyd yn amlwg wedi ceisio cuddio rhywfaint o wybodaeth rhag Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol, os oes angen, ein bod ni yn mynd yn ôl ac yn edrych yn ôl ymhellach fyth er mwyn sicrhau bod yr holl leisiau hynny yn cael eu clywed ac y gallwn ni ddysgu gwersi'r cyfnodau hynny.
Wrth gwrs fy mod i'n cymryd o ddifrif yr hyn a ddigwyddodd a pham, ac yn darganfod beth ddigwyddodd a pham, a dyna pam yr wyf wedi nodi camau annibynnol i wneud hynny. Mae hynny'n cynnwys eich pwynt ynglŷn â'r amserlen i edrych yn ôl hefyd, oherwydd dyna'r cyfnod i edrych yn ôl arno a argymhellwyd yn yr adroddiad, ond mae'n glir iawn i mi, a bydd yn glir i'r panel annibynnol, os byddan nhw'n credu y dylid edrych yn ôl yn wahanol neu'n bellach fyth, fe fyddan nhw'n dod yn ôl ac yn dweud hynny wrthyf. Fe fyddai'n fethiant mawr ar fy rhan i pe bawn i'n penderfynu peidio â derbyn y cyngor hwnnw petai hwnnw'n cael ei gynnig, ond mae'n rhaid i hynny fod yn farn sy'n dod o'r grŵp annibynnol hwnnw. Ac rydym wedi cael argymhellion ac awgrymiadau gan y ddau goleg brenhinol ynglŷn â phobl annibynnol i ymgymryd â'r adolygiad hwnnw, am yr arbenigedd clinigol. Rwy'n gobeithio gallu cyhoeddi hynny o fewn ychydig wythnosau, ynghylch pwy fydd y bobl hynny. Ac rwy'n credu y dylai hynny hefyd helpu i roi rhywfaint o hyder i deuluoedd, oherwydd, yn ôl adborth o gyfarfod teuluoedd y bore yma gyda swyddogion, rhan o'r adborth oedd bod rhai ohonyn nhw'n pryderu y byddai'n cael ei guddio ac na fyddai'r adroddiad mor onest ag a fu wrth adlewyrchu'n gywir yr hyn a ddywedon nhw. Ac maen nhw wedi dweud eu bod yn fwy ffyddiog y bydd rhywbeth yn digwydd oherwydd bod yr adroddiad yn adlewyrchu'n gywir y pryderon sydd ganddyn nhw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod y teuluoedd hynny yn cael eu cynnwys yn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ac, yn hollbwysig, gwaith sy'n mynd rhagddo, a'r gwaith y mae'r bwrdd iechyd yn ei wneud i sicrhau ei fod yn gwrando ar brofiadau diweddar pobl o feichiogrwydd i geisio deall yr hyn sydd wedi gweithio'n dda ac, yn yr un modd, yr hyn sydd heb weithio'n dda hefyd. Ond os yw'r adolygiad annibynnol, y panel annibynnol yn awgrymu bod angen i ni edrych mewn ffordd wahanol, yna byddaf yn sicr yn adrodd yn ôl i'r Aelodau, gyda fy mhenderfyniad fy hun ynghylch hynny.
Ac yn olaf, Suzy Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, byddwch chi, wrth gwrs, yn gwybod bod Pen-y-bont ar Ogwr, Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bellach yn rhan o ardal Cwm Taf. Pan gynhaliwyd yr ymgynghoriad ynglŷn â chynnwys Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghwm Taf, rwy'n eithaf sicr nad oedd neb a ymatebodd i'r ymgynghoriad hwnnw'n ymwybodol o'r hyn a oedd yn digwydd yng Nghwm Taf o ran y gwasanaethau mamolaeth. Tybed a wnewch chi, felly, dawelu meddyliau fy etholwyr yn y de-orllewin na chaiff Ysbyty Tywysoges Cymru ei effeithio gan unrhyw beth a wneir drwy'r mesurau arbennig hyn, statws sydd wedi ei orfodi ar Fwrdd Iechyd Cwm Taf yn awr, ac os yw pobl yn mynd i gael eu symud o Ben-y-bont ar Ogwr, o ran eu harbenigedd, i rannau eraill o ardal Cwm Taf, a fydd yr arian hwnnw'n dilyn neu, yn ddelfrydol, na chaiff neb ei symud o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Ysbyty Tywysoges Cymru er mwyn datrys problemau mewn rhannau eraill o Gwm Taf.
Rwy'n falch o gadarnhau, os bydd pobl yn symud o fewn y bwrdd iechyd, yna bydd angen i'r bwrdd iechyd sicrhau ei fod yn darparu adnoddau digonol ar gyfer y gwasanaeth, os yw pobl yn symud i ymdrin â heriau mewn rhannau eraill o'r ardal. Ond mae'n gwbl bosib y bydd pobl yn symud o ardal bresennol Pen-y-bont ar Ogwr. Er enghraifft, swydd y cyfarwyddwr meddygol: mae'n bosib y gallai hwnnw fod yn rhywun o ardal Pen-y-bont ar Ogwr, gallai fod yn rhywun o hen ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf, gallai fod yn rhywun o'r tu allan i'r bwrdd iechyd presennol. Felly mae'n gwbl bosib y bydd staff yn symud ac y bydd angen llenwi eu swyddi os byddant yn gwneud hynny. Ond rwyf yn dymuno cadarnhau mewn modd syml iawn nad yw mesurau arbennig yn berthnasol i wasanaethau mamolaeth ardal Pen-y-bont ar Ogwr o Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg; nid yw'r penderfyniad yr wyf i wedi'i wneud heddiw ynglŷn â mesurau arbennig yn effeithio arnyn nhw. Ond, wrth gwrs, mae'r cwestiynau ehangach am arweinyddiaeth a llywodraethiant yn effeithio ar ardal gyfan y bwrdd iechyd, ac mae hynny'n rhan o'r newid diwylliannol sydd nid yn unig yn ymwneud â gwasanaethau mamolaeth ond hefyd â sut mae'r bwrdd iechyd cyfan yn gweithredu.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.