4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Mamolaeth Cwm Taf

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 30 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:50, 30 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer mawr o argymhellion, wedi eu grwpio ar draws 10 o brif feysydd yn y cylch gorchwyl a osodais i. Rwy'n derbyn argymhellion yr adroddiad yn llawn ac rwy'n ddiolchgar i'r adolygwyr am eu gwaith. Mae'n rhaid inni ganolbwyntio nawr ar weithredu eu hargymhellion nhw. I gyflawni'r cynnydd hwn, rwy'n cymryd camau ar draws tri phrif faes: gwasanaethau mamolaeth yn ardal Cwm Taf gynt; llywodraethu yn fwy eang yng Nghwm Taf Morgannwg; ac yn olaf, ceisio sicrwydd ynghylch y ddarpariaeth ledled Cymru.

Yn gyntaf, rwy'n bwriadu sefydlu panel annibynnol i oruchwylio mamolaeth. Cyfrifoldeb y panel hwn fydd ceisio sicrwydd pendant gan y bwrdd iechyd fod argymhellion yr adroddiad yn cael eu gweithredu yn ôl y cyfarwyddyd y cytunwyd arno. Bydd y Panel yn sefydlu adolygiad clinigol annibynnol, amlddisgyblaethol o'r 43 achos o feichiogrwydd a ystyriwyd yn yr adroddiad. Cafodd y rhain eu nodi mewn ymarfer i fwrw golwg yn ôl hyd at fis Ionawr 2016. Bydd y Panel yn sicrhau hefyd y cynhelir ymarfer i fwrw golwg yn ôl hyd at 2010, yn unol ag argymhelliad adolygiad y colegau brenhinol. Rwy'n awyddus i roi sicrwydd y bydd menywod sy'n teimlo eu bod wedi cael canlyniad andwyol yn gallu cael adolygiad o'r gofal a gawsant.

Bydd gan y panel annibynnol swyddogaeth hefyd o ran cynghori'r bwrdd iechyd ar sut i ailgysylltu â'r cyhoedd yn effeithiol wrth wella gwasanaethau mamolaeth yn ardal Cwm Taf gynt mewn ffordd sydd, yn gyffredinol, yn adfer yr ymddiriedaeth a'r hyder yn y gwasanaeth. Mae Mick Giannasi, cyn Gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, sydd hefyd yn gyn Gomisiynydd Cyngor Ynys Môn a chyn-brif gwnstabl Heddlu Gwent, wedi cytuno i gadeirio'r panel. Bydd ef yn cael ei gefnogi gan Cath Broderick, awdur yr adroddiad ar fenywod a theuluoedd, a fydd yn parhau i ymgysylltu â menywod a'u teuluoedd. A bydd uwch swyddogion bydwreigiaeth ac obstetreg sydd, wrth gwrs, yn annibynnol ar Gwm Taf yn ymuno â nhw ar y panel.

Yn ail, rwy'n rhoi trefniadau ar waith i wella effeithiolrwydd arweinyddiaeth a llywodraethu'r byrddau yn y sefydliad. Rwyf wedi gofyn i David Jenkins, cyn gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, i gefnogi cadeirydd Cwm Taf Morgannwg i roi sicrwydd ynghylch gweithrediad yr argymhellion. A bydd Mr Jenkins yn rhoi gwybod imi hefyd am unrhyw gamau pellach a allai fod yn angenrheidiol i wella trefniadau llywodraethu'r bwrdd. Bydd Uned Gyflawni GIG Cymru yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith ar gyfer adrodd, rheoli ac adolygu digwyddiadau a phryderon sy'n ymwneud â diogelwch cleifion. Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi cadarnhau ei bod yn bwriadu cynnal adolygiad o lywodraethu a fydd yn gyson ag unrhyw waith arolygu pellach y bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn ymgymryd ag ef.

Ac yn olaf, rwy'n ceisio sicrwydd ar unwaith ledled Cymru ynglŷn â'r ddarpariaeth o ofal mamolaeth. Rwyf wedi gofyn i bob bwrdd iechyd ystyried yr adroddiadau a sut y gallai'r canfyddiadau fod yn berthnasol i'w gwasanaethau nhw eu hunain. Rwy'n disgwyl i bob bwrdd iechyd roi sicrwydd imi o fewn y pythefnos nesaf. Bydd y prif swyddog nyrsio a'r prif swyddog meddygol yn gweithio gyda byrddau iechyd i sicrhau bod yr hyn a gaiff ei ddysgu yn sgil yr adroddiadau hyn yn cyfrannu at gamau gweithredu i Gymru yn y weledigaeth bum mlynedd newydd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth.

Cafwyd datblygiadau sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar draws gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru—rhai sylweddol a chadarnhaol. Er enghraifft, mae OBS Cymru yn brosiect i wella ansawdd ledled y wlad sy'n ceisio lleihau gwaedu niweidiol wedi genedigaeth, ac mae wedi ennill gwobrau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'r rhan fwyaf o fenywod yng Nghymru yn cael gwasanaethau o ansawdd uchel ac yn cael profiad cadarnhaol yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth. Er hynny, mae'n ddealladwy y bydd llawer o famau beichiog a'u teuluoedd yn cael ysgytwad ac yn bryderus yn sgil yr adroddiadau a gyhoeddir heddiw.

Fel y dywedais i, roedd yr adroddiadau yn eithriadol o anodd eu darllen, ac fe fyddan nhw felly i bob un ohonom ni sy'n rhoi o'n hamser i edrych ar yr adroddiadau. Wrth wraidd hyn mae'r mamau a'r babanod, eu profiadau nhw yn ystod beichiogrwydd, wrth roi genedigaeth, a'r lefel o ddiogelwch y mae gan bob teulu yr hawl i'w disgwyl. Mae'r camau a gyhoeddais  heddiw yn gam nesaf hanfodol i sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth effeithiol o safon uchel ar gael i bob mam a theulu yng Nghymru.

Rwy'n dymuno gweld beichiogrwydd a genedigaeth a'r gofal mamolaeth a ddarperir yn brofiad cadarnhaol y gall menywod a'u teuluoedd edrych yn ôl arno a'i drysori.