Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 30 Ebrill 2019.
Yn gyffredinol, yng Nghymru rydym wedi canfod bod ein byrddau iechyd wedi cydymffurfio â Birthrate Plus. Yr her ynglŷn â gweithlu'r dyfodol sydd wedi dod i'r amlwg yw'r angen i wneud rhywbeth i sicrhau ein bod ni'n recriwtio ac yn hyfforddi digon o fydwragedd i'r dyfodol. Rhan o'r siom a gefais i yw bod y bwrdd iechyd wedi datgan yn gymharol hwyr nad oedd yn cydymffurfio â Birthrate Plus. Wrth gwrs, daeth hynny i'r amlwg eto yn yr adroddiad oherwydd profiad y staff yn gweithio heb ddigon o weithwyr, ac roedd y cleifion a'r teuluoedd eu hunain yn cydnabod hynny.
Felly, mae gwaith i'w wneud ar unwaith sy'n ymwneud â recriwtio ond, yn ogystal â hynny, â'r ffordd y mae'r byrddau iechyd yn gweithio gyda'i gilydd, nid yn unig yng Nghwm Taf Morgannwg ond o'u cwmpas nhw, er mwyn ceisio sicrhau bod digon o staff yn yr unedau wrth inni geisio recriwtio a hyfforddi ar gyfer y dyfodol. Ond rwyf eisoes wedi cydnabod yr angen i hyfforddi mwy o fydwragedd ar gyfer y dyfodol. Ddwy flynedd yn ôl, penderfynais gynyddu nifer y lleoliadau i hyfforddi bydwragedd 43 y cant. Felly, rydym yn cymryd camau i sicrhau ein bod yn hyfforddi llawer iawn mwy o fydwragedd i'r dyfodol.
Ar y pwynt ynglŷn â meddygon, nid y niferoedd sy'n ganolog mewn gwirionedd—yr ymarfer a'r ymddygiad sy'n ganolog. Mae'r adroddiad yn nodi'n gwbl glir fod nifer digonol o feddygon yn y rhan hon o'r gwasanaeth—yr her yw'r ffordd y maen nhw wedi bod yn ymddwyn, ac mae hynny, mewn gwirionedd, mewn llawer ffordd yn fwy anodd i ymdrin ag ef. Os oes gennych y nifer cywir o staff yn ymddwyn yn y ffordd anghywir, yna mae hynny o hyd yn heriol, ac mae'r adroddiad hwn yn nodi bod hynny'n rhan o'r hyn a ddigwyddodd.
O ran eich pwynt ynglŷn ag ymddygiad ein staff, mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei ddisgwyl ohonynt ac nid ydym yn dymuno gweld staff o fewn y gwasanaeth iechyd yn ymddwyn yn ansensitif, yn amhroffesiynol ac yn dangos diffyg urddas tuag at y bobl sy'n aml yn fregus iawn pan fyddan nhw'n rhyngweithio â'r gwasanaeth iechyd mewn unrhyw ffordd. Ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys pobl sydd ar fin rhoi genedigaeth neu bobl sy'n gwybod y gallai eu canlyniadau fod yn wael yn sgil eu beichiogrwydd. Roedd hynny'n rhan o'r hyn a oedd yn arbennig o anodd i mi ei ddarllen yn yr adroddiad. Cymerodd sawl diwrnod imi ddarllen yr adroddiad gan fod hynny'n wirioneddol boenus i mi.
O ran eich pwynt arall am yr adroddiad mewnol a gomisiynwyd gan y bwrdd iechyd, a ddarparwyd ym mis Medi 2018, mae'n amlwg nad yw'n dderbyniol na chafodd sylw priodol ei roi i'r adroddiad hwnnw drwy fecanwaith adrodd y bwrdd, ac na chafodd ei roi i bwyllgor ansawdd a diogelwch y bwrdd ac na chafodd ei roi i'r bwrdd, ac na chymerwyd camau bryd hynny. Mae cadeirydd y bwrdd iechyd a'r prif weithredwr ill dau wedi cydnabod, wrth gyhoeddi'r adroddiad hwn heddiw, fod y bwrdd iechyd wedi cyfeiliorni'n llwyr yn hynny o beth.
Mae'n bwysig cydnabod yr hyn a wnaeth y bwrdd iechyd yn anghywir er mwyn gwneud cynnydd yn y dyfodol. Mae yna gwestiwn i'r bwrdd y mae'r cadeirydd yn ymdrin ag ef, gydag adolygiad dan arweiniad aelod annibynnol o'r bwrdd, i ddeall yr hyn a ddigwyddodd ar y pryd, pam na ddaeth gerbron y bwrdd, a'r hyn a all fod yn wers wrth edrych yn ôl ond hefyd yr hyn y mae'n ei olygu wrth fynd ymlaen. Ceir cwestiynau ehangach yn y fan honno ynglŷn ag arweinyddiaeth a llywodraethu, nid yn unig i gael sylw yn yr un enghraifft unigol honno—dyna pam y bydd y gwaith y mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn ei wneud yn bwysig, a chefnogaeth ehangach yr hyn y bydd David Jenkins yn ei wneud hefyd.
Mae'n amlwg fod methiannau wedi bod yn y system o fewn y bwrdd iechyd—mae hynny wedi cael ei gydnabod nid yn unig yn yr adroddiad ond yn y sesiynau briffio a'r datganiadau sydd wedi bod eisoes heddiw. Ond mater syml o ddidol nifer o bobl mewn rhes i gael eu diarddel o'r sefydliad yw'r ateb.
Fel y clywsoch chi'r Prif Weinidog yn ei nodi, mae'r adroddiad yn nodi heriau a methiannau mewn nifer o wahanol feysydd o fewn y gwasanaeth, o'r cyswllt uniongyrchol ag unigolion hyd at bobl a oedd â chyfrifoldeb dros arwain a rheoli, hyd at gyfeiriad clinigol y gwasanaeth, yr holl ffordd drwodd i'r cyngor, yr wybodaeth a'r her a ddarparwyd gan aelodau annibynnol ar lefel weithredol a lefel y bwrdd. Dyna pam yr wyf i'n credu ei bod yn hynod bwysig bod goruchwyliaeth annibynnol ar y gwaith sydd ei angen i weithredu argymhellion yr adolygiad hwn, ac y daw'r annibyniaeth honno nid yn unig o ystyried y 43 digwyddiad difrifol wrth edrych yn ôl i 2010, ond y bydd hynny wedyn yn rhoi sail dystiolaeth briodol ar gyfer atebolrwydd a sut y byddwn yn symud ymlaen.
Mae rhywbeth anodd iawn yma, oherwydd mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod diwylliant o gosbi o fewn y gweithle, lle'r oedd pobl yn ofnus ac yn bryderus am godi pryderon. Mae hynny'n gwbl amhriodol ac nid yw'n dderbyniol. Er mwyn cyrraedd y pwynt lle mae pobl yn fwy hyderus o ran pryd y gallen nhw ac y dylen nhw godi pryderon, mae gwir angen inni fod yn agored ynghylch pobl yn cydnabod nawr beth aeth o'i le, yn hytrach na phobl yn ceisio anwybyddu hynny gan eu bod yn pryderu am eu swyddi. Yn wir, os na chawn y diwylliant mwy agored hwnnw, rydym yn fwy tebygol o beryglu'r ansawdd a'r diogelwch y mae gan bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny yr hawl i'w disgwyl. Felly, mae'n ofynnol cael newid sylfaenol yn y diwylliant, a dyna pam mae'r annibyniaeth honno o ran datblygu'r argymhellion hynny mor bwysig. Ond fe fyddaf i, wrth gwrs, yn adrodd yn ôl i'r Aelodau pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael am y gwaith hwnnw a'r ymarfer sicrwydd uniongyrchol yr wyf wedi gofyn amdano.