4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Mamolaeth Cwm Taf

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 30 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:25, 30 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn i dynnu sylw at y ffaith bod llawer iawn o ofal da, wrth gwrs, yn digwydd bob dydd ym mhob cymuned ledled ein gwasanaeth iechyd gwladol, ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at amrywiaeth o staff a roddodd ofal da, yn enwedig yn y gwasanaeth bydwreigiaeth gymunedol. Ond mae'n gwbl briodol ac yn gymwys ein bod ni'n canolbwyntio ar y diffygion a nodwyd yn yr adroddiad heddiw. Ac mae hynny'n mynd yn ôl at eich pwynt chi ynglŷn â rheolaeth a diwylliant o fewn gwahanol rannau o'r gwasanaeth, nid yn unig ar y lefel uchaf, gan adrodd i'r tîm gweithredol a'r bwrdd, ond ar lawr y gwaith yr holl ffordd drwodd i'r arweinwyr a'r rheolwyr mewn gwahanol rannau o'r gwasanaeth. Mae'r adroddiad yn sôn am ddiwylliant o gosbi; byddwn i'n disgwyl i'r undebwyr llafur siarad am ddiwylliant bwlio, a diwylliant o ofn o fewn y sefydliad, ac rwy'n cydnabod hynny wrth ddarllen yr adroddiad. Felly, nid un rhan yn unig o'r diwylliant yn y gwasanaeth mamolaeth yn y bwrdd y mae angen mynd i'r afael ag ef. Ac mae hynny'n mynd yn ôl at y pwynt a wnaethoch chi am roi ffug sicrwydd, gan fod yr adroddiad yn nodi'n gwbl glir fod amryw o bryderon wedi cael eu gorchuddio ac nad ymdriniwyd â nhw, ac wedyn ni chafodd adroddiadau eu cwblhau'n briodol. Felly, mewn gwirionedd, roedd pobl yn cael sicrwydd am bethau nad oeddent yn iawn, ac rwy'n credu bod aelodau annibynnol wedi cael sicrwydd lle na ddylai fod wedi ei roi iddyn nhw. Mae hwnnw'n fater nid yn unig a nodir yn yr adroddiad ac yr ymdrinnir ag ef yn yr adolygiad annibynnol o'r hyn a aeth o'i le, ond mae hwn yn rhan o'r hyn y mae angen i'r bwrdd fynd i'r afael ag ef ar hyn o bryd, yn ogystal â gwneud argymhellion i'r dyfodol. Rwyf wedi siarad sawl gwaith â chadeirydd y bwrdd iechyd ac mae ef yn deall yn iawn ei fod yn fater i'r bwrdd roi sylw iddo'n ddigonol ac yn briodol o ran yr wybodaeth a oedd ganddyn nhw, yr hyn nad oedd ganddyn nhw, a'r hyn fydd ei angen arnyn nhw yn y dyfodol a lefel yr her y mae'n rhaid iddyn nhw ei hateb. Mae hynny'n rhan o'r gwaith y bydd David Jenkins yn ei wneud wrth gynorthwyo'r bwrdd i wneud hynny.

O ran eich pwynt am y symudiad, mae'r symudiad i ganolbwyntio gofal dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn ysbyty Tywysog Siarl—rydych chi'n llygad eich lle—wedi cymryd amser maith i ddigwydd, mwy nag y dylai, a bod yn onest. A rhan o hynny yw oherwydd nad oedd y bwrdd iechyd, na'r ddwy uned dan sylw ychwaith, yn eiddgar i wneud i'r symudiad ddigwydd mewn modd cydweithredol. Pan gynhaliwyd yr adroddiad, roedden nhw'n parhau i ganfod diwylliant rhwng y ddau safle nad oedd yn gallu derbyn y symudiad a oedd ar fin digwydd. A honno yw'r broblem wirioneddol sydd gan y timau arwain ymhlith y meddygon ar y ddau safle hyn. Ac nid yw hynny'n dderbyniol.

Felly, y symudiad, a chyn y symudiad, cynhaliwyd cyfarfod amlddisgyblaethol, ac roedd dau swyddog o Lywodraeth Cymru yn y cyfarfod hwnnw. Cafwyd cadarnhad eu bod mewn sefyllfa i fynd ymlaen ac, mewn gwirionedd, roedd llai o berygl i'r staff a'r gwasanaeth wrth fynd ymlaen â'r symudiad ym mis Mawrth yn hytrach na gohirio a cheisio cynnal gwasanaethau ymgynghorydd ar y ddau safle, yn rhannol oherwydd natur fregus staff bydwreigiaeth, ond hefyd nifer y staff locwm o fewn y graddau meddygol. Felly, oedd, roedd diofalwch, ond mae mwy o waith i'w wneud eto i sicrhau bod y gwasanaeth hwnnw yn fath o wasanaeth y byddech chi neu y byddwn i'n ei ddymuno i ni ein hunain ac yn amlwg i'ch ŵyr cyntaf.

O ran cefnogaeth i fenywod a'u teuluoedd, fe ddylen nhw gysylltu â'u bydwraig a chysylltu â'u byrddau iechyd i drafod y pryderon a'r ofnau sydd ganddyn nhw, er mwyn deall y dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw. Dylent wneud yn siŵr eu bod yn gwneud hynny cyn gynted â'u bod nhw'n gofidio neu'n pryderu, oherwydd mae hynny'n rhan o'r gwaith sydd gan fydwraig, sef cefnogi menywod i wneud eu dewisiadau nhw. Efallai y bydd rhai menywod yn dewis rhoi genedigaeth mewn gwahanol leoliadau, boed hynny gartref, boed yn enedigaethau dŵr, neu'n ofal dan arweiniad ymgynghorydd neu mewn gofal dan arweiniad bydwraig, ac efallai y bydd rhai pobl yn ailfeddwl am leoliad yr enedigaeth. Nawr, byddwn yn annog pobl i ddechrau trafod yr holl bryderon hynny, yn y lle cyntaf, gyda'u bydwraig gymunedol, ac, yn achos y bwrdd iechyd, mae'n ddisgwyliad clir iawn eu bod nhw'n cefnogi menywod i wneud y dewisiadau hynny ynglŷn â'r lle maen nhw'n fwyaf cartrefol, y lle maen nhw'n teimlo eu bod yn cael y gefnogaeth orau.

Ac, o ran yr amserlen ar gyfer gwelliannau, wel, mae'n rhaid i'r gwelliant ddigwydd ar unwaith. Mae angen y gwelliannau ar unwaith, ond ni ddylwn honni i chi nac i neb arall y caiff hyn ei ddatrys yn gyflym, oherwydd bydd y newid diwylliannol y tynnais eich sylw ato fwy nag unwaith yn cymryd misoedd lawer i fod yn weithredol a'i gynnal wedi hynny.