Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 30 Ebrill 2019.
Diolch i chi, Gweinidog, am y datganiad. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod i wedi fy siomi a'm tristáu gan yr hyn a welais yn yr adroddiad hwn a'r darganfyddiadau, ac, fel eraill, mae fy meddyliau i, yn gyntaf oll, gyda'r teuluoedd, y mae llawer ohonyn nhw'n etholwyr i mi, wrth gwrs, sydd wedi cael eu heffeithio gan y diffygion yng ngwasanaethau mamolaeth Cwm Taf.
Er fy mod yn gwybod bod llawer o fenywod wedi cael profiadau da a gofal da yng Nghwm Taf, mae gormod ohonyn nhw heb gael hynny, ac ar hyn o bryd mae'n rhaid iddyn nhw fod yn ganolbwynt i'n pryderon. Ceir sawl agwedd ar yr adroddiad yr hoffwn eu trafod gyda chi, sy'n cynnwys cywirdeb data, urddas cleifion, cymorth annigonol i staff, diffyg hyfforddiant datblygiad proffesiynol, adolygiadau o ddigwyddiadau difrifol, arfer clinigol gwael, rheolaeth staff amhriodol, amharodrwydd staff i arfer eu dyletswydd o fod yn ddidwyll ac, wrth gwrs, pwy yn union sydd â'r cyfrifoldeb terfynol yn y bwrdd iechyd. Ond, oherwydd prinder amser heddiw, fe wnaf i hynny gyda chi y tu allan i'r sesiwn hon a chynnal trafodaethau uniongyrchol gyda'r bwrdd iechyd. Heddiw, hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar dri maes penodol a cheisio peidio ag ailadrodd yr hyn y mae eraill wedi ei ddweud.
Yn gyntaf, mae llywodraethu gwael yng ngwasanaethau mamolaeth Cwm Taf yn amlwg yn destun pryder mawr ac, er bod lefelau staffio yn rhywbeth y mae'n rhaid rhoi sylw iddo, mae'n rhaid imi ddweud, hyd yn oed pe byddai gennym ni'r staffio gorau posib ond na fyddai'r gwasanaethau hynny'n cael eu rheoli'n briodol, yna fe fyddai'r un problemau gennym ni o hyd. Felly, rwy'n arbennig o ofidus am y datganiad yn yr adroddiad sy'n ymwneud â'r ffug sicrwydd a roddwyd i'r bwrdd gan yr uwch dîm gweithredol ynglŷn â'r gwasanaeth, ac fe hoffwn i wybod beth mae hynny'n ei olygu a beth gaiff ei wneud ynglŷn â hynny.
Yn ail, o ran y penderfyniad yn 2014 i symud y gwasanaethau dan arweiniad meddygon ymgynghorol i un safle, a ydych chi'n gwybod pa asesiad risg a gynhaliwyd ynghylch effaith staffio ar y penderfyniad hwnnw, o gofio y byddai'r rhan fwyaf o fydwragedd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn naturiol yn edrych tuag at Gaerdydd neu Ben-y-bont ar Ogwr ac nid Merthyr wrth ystyried newidiadau cyflogaeth? A pham, fel y mae'n ymddangos, y gadawyd pethau i'r funud olaf cyn rhoi sylw i'r materion staffio o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw tra bod y bwrdd wedi cael pum mlynedd i gynllunio ar gyfer hynny?
Yn olaf, bydd yn hanfodol sicrhau nad yw'r gwasanaeth yn cael ei ansefydlogi yn ystod y cyfnod hwn o ymyrraeth. Felly pa sicrwydd y byddwch chi a'r bwrdd iechyd yn ei roi i ddarpar famau ynghylch diogelwch gwasanaethau mamolaeth Chwm Taf ar hyn o bryd, a sut y bydd hynny'n cael ei gyfleu.
Gweinidog, yn ardal Cwm Taf, bydd gan lawer ohonom ddiddordeb gwleidyddol a phersonol i sicrhau y bydd y gwasanaethau mamolaeth yn addas at y diben, ac, yn wir, bydd fy ŵyr cyntaf yn cael ei eni yn ysbyty'r Tywysog Siarl ym mis Awst. Felly, er fy mod yn croesawu'r camau arfaethedig a nodir yn eich datganiad, beth yw'r amserlenni yr ydych yn disgwyl i'r bwrdd iechyd eu cyrraedd er mwyn cyflawni'r newidiadau sy'n angenrheidiol?