Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 30 Ebrill 2019.
Bûm yn y sesiwn briffio y bore yma ar hyn, ac nid oedd digon o amser imi ofyn cwestiynau ar ran fy etholwyr yn y Rhondda, felly rwy'n gobeithio y caf yr amser yn awr, Llywydd.
Mae'n dda cael ymddiheuriad gan y Gweinidog Iechyd, ac mae'n rhaid imi ddweud pan ddarllenais yr adroddiad hwn am y tro cyntaf, sy'n cyfeirio at ddiwylliant o bryderon pobl yn cael eu diystyru, meddyliais ar unwaith y gallai hyn fod yn wir am y Gweinidog Iechyd hefyd. Ni allaf gofio sawl gwaith yr wyf wedi codi fy mhryderon, ar lawr y Siambr hon, gyda'r Gweinidog Iechyd a'r Prif Weinidog, ynghylch prinder staff a chwynion yn fy ardal bwrdd iechyd lleol. Rhaid imi ddweud, y rhan fwyaf o'r amser, fod y pryderon hyn wedi'u diystyru, neu o leiaf nad ydynt wedi'u cymryd o ddifrif. Oes, mae'n rhaid i'r Bwrdd Iechyd wneud yn well ar ystod eang o feysydd, ond Gweinidog, rhaid i chithau hefyd.
Nid yw'n dda darllen bod 67 o farw-enedigaethau, yn mynd yn ôl i 2010, heb gael eu cofnodi'n gywir, ac mae'n warthus darllen sut na wrandawyd ar rai cleifion. Tybed faint o broblem fyddai hyn wedi bod mewn ardal fwy cefnog. Yn aml, mae'n hawdd diystyru barn pobl dlotach ar draws ystod gyfan o wasanaethau cyhoeddus. Byddaf yn clywed yn aml am bobl yn cael eu trin yn wahanol i'r ffordd y byddai'r rheini o gefndiroedd dosbarth canol wedi cael eu trin—pobl sydd efallai wedi mynd i'r brifysgol ac sy'n gwybod yn iawn sut i fynnu eu hawliau. Gelwir yr egwyddor hon yn ddeddf gofal gwrthgyfartal, ac mae wedi cael ei chydnabod a'i derbyn gan y proffesiwn meddygol. Gweinidog, a wnewch chi gytuno i edrych i weld a yw hyn wedi bod yn broblem yn yr achos hwn? Rhowch adborth i ni.
Dyma fy nghwestiynau pellach. A wnewch chi gytuno i edrych o ddifrif ar bob cwyn a phob achos difrifol nad ymdriniwyd ag ef yn foddhaol? O gofio bod yr adroddiad hwn yn sôn am ddiwylliant problemus, diwylliant cosbol o ran cwynion, rwy'n amau'n gryf—ac mae fy ffeiliau achos yn ategu hyn—fod methu ag ymdrin â chwynion yn broblem ehangach o lawer. A ydych chi'n cytuno â'r pwynt hwnnw, ac a allwch chi ddweud wrthym ni beth yn union yr ydych chi'n bwriadu ei wneud yn ei gylch? Oherwydd ni chlywais i ddim byd penodol yn eich datganiad yn mynd i'r afael â'r pwynt diwylliant hwnnw. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn mynd i ymchwilio i adrannau eraill. Pa negeseuon y gallwch chi eu rhoi i rieni pryderus, fel un o'm hetholwyr sydd ar fin cael ei phumed baban ac sydd wedi gweld y gwasanaethau'n dirywio dros flynyddoedd lawer, a sydd erbyn hyn yn poeni'n fawr am y gofal y mae'n debygol o'i gael? A all hi ddewis mynd i rywle arall, er enghraifft? A wnewch chi gytuno i fonitro'r sefyllfa yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn ofalus? Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â llawer o gyn gleifion Ysbyty Brenhinol Morgannwg nad ydynt yn hapus â'r hyn y maent wedi'i brofi yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn ystod y chwe wythnos diwethaf.
Roeddem ni ym Mhlaid Cymru yn ymgyrchu o 2013 yn erbyn symud a chanoli'r gwasanaethau mamolaeth hyn, ac rydym wedi ymgyrchu yn erbyn symud y gwasanaethau plant, sydd i fod i symud yr haf hwn. Mae meddygon wedi sôn wrthyf am eu pryderon ynglŷn â hyn i gyd hefyd, un yn dweud wrthyf am ei gred, a dyfynnaf, y bydd mamau a babanod yn marw. Mae'r adroddiad hwn yn cadarnhau bod staff yn cytuno â ni ynglŷn â chanoli, a'u bod wedi'u hatal rhag siarad. A wnewch chi wrando ar y staff sy'n dweud bod y canoli hwn yn beryglus? A wnewch chi wrando'n awr ar yr hyn y mae cleifion yn ei ddweud am hyn, ac a wnewch chi gytuno i fonitro a gweithio i adfer y gwasanaethau hynny yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg os yw'r sefyllfa'n parhau i fod yn risg a bod pobl yn parhau i roi gwybod am broblemau?