5. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Rhaglen Ddileu TB Buchol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 30 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:55, 30 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n siomedig nad yw rhai pobl yn yr ardaloedd TB isel yn dilyn y gofynion i gynnal profion ar ôl symud gwartheg. Mae'r risg leiafrifol hon yn amharu ar bethau i bawb ac mae'n rhaid iddyn nhw dderbyn eu cyfrifoldebau o ran diogelu eu buchesi a'r ardal ehangach. Rydym ni'n gwybod o ddata ynglŷn â symud a phrofion pa anifeiliaid sydd angen eu profi ac erbyn pryd, ac rydym ni'n tynhau ein protocolau gorfodi er mwyn gweithredu pan fo angen.

Yn 2018-19, gan ystyried derbynebau achub, mae Llywodraeth Cymru wedi talu dros £14 miliwn mewn iawndal TB i ffermwyr. Nid yw hyn yn gynaliadwy i'r pwrs cyhoeddus, ac yn ogystal â cholli cyllid yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit, mae'n pwysleisio'r angen am gyfundrefn iawndal deg ar gyfer y ffermwr a'r trethdalwr. Rwyf o'r farn felly ei bod hi'n amser priodol adolygu'r trefniadau presennol. Bydd unrhyw drefn newydd yn cymell arferion ffermio da ac yn atal arferion gwael.

Ar nodyn mwy cadarnhaol, mae rhai enghreifftiau gwych yn bod o weithio ar y cyd, a bydd y model hwn yn ein galluogi ni i lwyddo. Rydym ni wedi ymgysylltu â grŵp o ffermwyr a milfeddygon ar Benrhyn Gŵyr, sy'n bwriadu cyflwyno brechu moch daear law yn llaw â mesurau rheoli gwartheg er mwyn dileu TB o'r ardal.

Rydym ni'n gweithio ar y cyd yn yr ardaloedd TB canolig yn y gogledd mewn ymateb i sefyllfa lle mae'r clefyd yn datblygu. Mae cyfundrefn brofi gryfach ar gyfer buchesi cyffiniol bellach ar waith yma, ac er mwyn cefnogi buchesi sy'n rhydd o TB, mae ymweliadau 'cadw TB allan' gan filfeddygon ar gael drwy'r rhaglen Cymorth TB er mwyn cadw'r clefyd draw. Rwy'n annog yr holl ffermwyr yn yr ardal hon i fanteisio ar ymweliad am ddim gan eu milfeddyg eu hunain i drafod yr hyn y gallan nhw ei wneud i ddiogelu eu buches rhag TB.

Mae'n werth nodi y priodolir un o bob tri achos o TB sydd wedi ei gadarnhau mewn ardaloedd TB uchel ac wyth o bob 10 yn yr ardal TB isel yn bennaf i symudiadau gwartheg. Mae'r ystadegau hyn yn siarad drostyn nhw eu hunain: gellir atal rhai achosion o TB os yw ffermwyr yn prynu eu stoc yn fwy gofalus. Gan ystyried yn ofalus hanes profion TB gwartheg y mae'n ystyried eu prynu, gall ffermwr leihau'r perygl o ddod â'r clefyd i'w fuches.

Rydym ni'n parhau i gryfhau ein dull o ddileu TB, gan anelu at gydbwyso mesurau rheoli â chynaliadwyedd busnesau fferm—er enghraifft, ehangu ein hystod o brofion TB sydd ar gael, gan weithio gyda milfeddygon i wella'r ddiagnosteg TB sydd ar gael i ni.

Un o ymrwymiadau allweddol y rhaglen newydd oedd cyflwyno dull ffurfiol o fynd i'r afael ag achosion parhaus o TB mewn buchesi. Mae cynlluniau gweithredu pwrpasol, sy'n cynnwys mesurau llymach i ddileu'r clefyd, yn cael eu rhoi ar waith mewn buchesi sydd wedi bod o dan gyfyngiadau TB am 18 mis neu fwy. Erbyn diwedd mis Rhagfyr, roedd 59 o gynlluniau gweithredu wedi'u rhoi ar waith mewn achosion cyson o TB, ac roedd cyfyngiadau wedi'u dileu ar 21 o fuchesi oedd â chynllun gweithredu.

Agwedd arall ar broses y cynllun gweithredu yw profi a chael gwared ar foch daear sy'n cael profion cadarnhaol. Mae hyn yn digwydd mewn buchesi dethol pan fo tystiolaeth yn awgrymu bod moch daear yn cyfrannu at barhad y clefyd. Mae adroddiad ar waith maes y llynedd yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd a bydd ar gael yn fuan. Mae'r gwaith paratoadol ar drydedd flwyddyn y gweithrediadau yn mynd rhagddo'n dda. Mae deall y sefyllfa o ran TB mewn bywyd gwyllt yn bwysig, ac fe hoffwn i atgoffa pawb i roi gwybod am foch daear a ganfuwyd yn farw er mwyn cyfrannu at arolwg Cymru gyfan o foch daear a ganfuwyd yn farw.

Rwyf wedi gweld y dinistr y gall achos o TB ei greu i deulu a busnes ffermio. Gall lladd gwartheg â TB arnyn nhw ar y fferm, er nad oes modd osgoi hynny weithiau, fod yn arbennig o ofidus i'w weld. Rwyf wedi gwrando ar bryderon y mae'r diwydiant wedi eu crybwyll am y mater hwn, ac mae swyddogion wrthi'n ystyried sut y gallwn ni leihau'r achosion pan fo angen saethu gwartheg sydd â TB arnyn nhw ar y fferm. Os oes ffyrdd y gallwn ni wneud y sefyllfa hon yn haws i'r rhai hynny yr effeithir arnyn nhw, rwy'n awyddus i'w harchwilio. Byddaf yn rhoi diweddariad arall ar y datblygiadau yn ystod y misoedd nesaf.

Yn rhan o'n strategaeth tymor hir, rydym ni'n cefnogi creu'r ganolfan ragoriaeth ar gyfer TB buchol yn Aberystwyth, dan arweiniad yr Athro mawr ei barch Glyn Hewinson. Mae cysylltiadau agos rhwng y ganolfan a'n rhaglen yn cael eu datblygu.

Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn gyfnod o newid blaengar ar gyfer y rhaglen dileu TB, a bydd defnyddio a dysgu o dechnoleg newydd yn bwysig wrth fwrw ymlaen. Fodd bynnag, ni allaf orbwysleisio gwerth cydweithredu wrth ddileu TB, ac mae gan bob un ohonom ni ran yn hyn. Drwy weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth, gydag un pwrpas, fe wnawn ni roi terfyn ar y clefyd hwn. Diolch.