– Senedd Cymru am 4:52 pm ar 30 Ebrill 2019.
Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig am y rhaglen ddileu TB buchol, a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Pan lansiais y rhaglen newydd i ddileu TB 18 mis yn ôl, fe wnes i ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r datblygiadau pan fyddai cyfres ddata gyflawn 2018 o ystadegau TB ar gael. Yn 2018, cafwyd 746 achos newydd o TB yng Nghymru, sef gostyngiad o 5 y cant o'i gymharu â 2017. Fodd bynnag, lladdwyd 11,233 o wartheg o ganlyniad i TB, sy'n gynnydd o 12 y cant o gymharu â ffigurau 2017. Mae'r cynnydd hwn yn bennaf o ganlyniad i sensitifrwydd cynyddol profion a chael gwared ar adweithyddion mwy amhendant.
Rydym ni'n disgwyl i'r buddsoddiad hwn o ran cael gwared yn gynharach ar wartheg sydd wedi'u heintio greu buddion yn y tymor canolig, wrth i ni achub y blaen ar y clefyd. Bu i'n rhaglen newydd ranbartholi Cymru o ran TB, gan newid yn sylfaenol y ffordd y mae'r Llywodraeth a'r diwydiant yn ystyried ac yn mynd i'r afael â'r clefyd. Mae rhanbartholi wedi creu ardaloedd achosion TB isel, canolig ac uchel, lle gellid gweithredu ffyrdd gwahanol o ddileu'r clefyd, yn seiliedig ar y gwahanol risgiau ym mhob ardal. Ein nod yw diogelu'r ardal TB isel rhag haint a lleihau'r clefyd yn yr ardaloedd TB canolig ac uchel.
Rwy'n falch o ddweud ein bod yn parhau i ddiogelu'r ardal TB isel yn y gogledd-orllewin, lle rydym ni'n gweld nifer gymharol fach o achosion newydd o TB. Mae cyflwyno profion ar ôl symud yn rhan o'r dull newydd yn helpu i ddiogelu'r ardal. Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy o waith. Cafwyd 34 achos newydd o TB yn yr ardal TB isel yn 2018, sy'n fwy na'r 28 achos newydd o TB yn 2017. Rwy'n galw ar ffermwyr yn yr ardal TB isel i wneud popeth posib i gadw TB buchol allan.
Mae'n siomedig nad yw rhai pobl yn yr ardaloedd TB isel yn dilyn y gofynion i gynnal profion ar ôl symud gwartheg. Mae'r risg leiafrifol hon yn amharu ar bethau i bawb ac mae'n rhaid iddyn nhw dderbyn eu cyfrifoldebau o ran diogelu eu buchesi a'r ardal ehangach. Rydym ni'n gwybod o ddata ynglŷn â symud a phrofion pa anifeiliaid sydd angen eu profi ac erbyn pryd, ac rydym ni'n tynhau ein protocolau gorfodi er mwyn gweithredu pan fo angen.
Yn 2018-19, gan ystyried derbynebau achub, mae Llywodraeth Cymru wedi talu dros £14 miliwn mewn iawndal TB i ffermwyr. Nid yw hyn yn gynaliadwy i'r pwrs cyhoeddus, ac yn ogystal â cholli cyllid yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit, mae'n pwysleisio'r angen am gyfundrefn iawndal deg ar gyfer y ffermwr a'r trethdalwr. Rwyf o'r farn felly ei bod hi'n amser priodol adolygu'r trefniadau presennol. Bydd unrhyw drefn newydd yn cymell arferion ffermio da ac yn atal arferion gwael.
Ar nodyn mwy cadarnhaol, mae rhai enghreifftiau gwych yn bod o weithio ar y cyd, a bydd y model hwn yn ein galluogi ni i lwyddo. Rydym ni wedi ymgysylltu â grŵp o ffermwyr a milfeddygon ar Benrhyn Gŵyr, sy'n bwriadu cyflwyno brechu moch daear law yn llaw â mesurau rheoli gwartheg er mwyn dileu TB o'r ardal.
Rydym ni'n gweithio ar y cyd yn yr ardaloedd TB canolig yn y gogledd mewn ymateb i sefyllfa lle mae'r clefyd yn datblygu. Mae cyfundrefn brofi gryfach ar gyfer buchesi cyffiniol bellach ar waith yma, ac er mwyn cefnogi buchesi sy'n rhydd o TB, mae ymweliadau 'cadw TB allan' gan filfeddygon ar gael drwy'r rhaglen Cymorth TB er mwyn cadw'r clefyd draw. Rwy'n annog yr holl ffermwyr yn yr ardal hon i fanteisio ar ymweliad am ddim gan eu milfeddyg eu hunain i drafod yr hyn y gallan nhw ei wneud i ddiogelu eu buches rhag TB.
Mae'n werth nodi y priodolir un o bob tri achos o TB sydd wedi ei gadarnhau mewn ardaloedd TB uchel ac wyth o bob 10 yn yr ardal TB isel yn bennaf i symudiadau gwartheg. Mae'r ystadegau hyn yn siarad drostyn nhw eu hunain: gellir atal rhai achosion o TB os yw ffermwyr yn prynu eu stoc yn fwy gofalus. Gan ystyried yn ofalus hanes profion TB gwartheg y mae'n ystyried eu prynu, gall ffermwr leihau'r perygl o ddod â'r clefyd i'w fuches.
Rydym ni'n parhau i gryfhau ein dull o ddileu TB, gan anelu at gydbwyso mesurau rheoli â chynaliadwyedd busnesau fferm—er enghraifft, ehangu ein hystod o brofion TB sydd ar gael, gan weithio gyda milfeddygon i wella'r ddiagnosteg TB sydd ar gael i ni.
Un o ymrwymiadau allweddol y rhaglen newydd oedd cyflwyno dull ffurfiol o fynd i'r afael ag achosion parhaus o TB mewn buchesi. Mae cynlluniau gweithredu pwrpasol, sy'n cynnwys mesurau llymach i ddileu'r clefyd, yn cael eu rhoi ar waith mewn buchesi sydd wedi bod o dan gyfyngiadau TB am 18 mis neu fwy. Erbyn diwedd mis Rhagfyr, roedd 59 o gynlluniau gweithredu wedi'u rhoi ar waith mewn achosion cyson o TB, ac roedd cyfyngiadau wedi'u dileu ar 21 o fuchesi oedd â chynllun gweithredu.
Agwedd arall ar broses y cynllun gweithredu yw profi a chael gwared ar foch daear sy'n cael profion cadarnhaol. Mae hyn yn digwydd mewn buchesi dethol pan fo tystiolaeth yn awgrymu bod moch daear yn cyfrannu at barhad y clefyd. Mae adroddiad ar waith maes y llynedd yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd a bydd ar gael yn fuan. Mae'r gwaith paratoadol ar drydedd flwyddyn y gweithrediadau yn mynd rhagddo'n dda. Mae deall y sefyllfa o ran TB mewn bywyd gwyllt yn bwysig, ac fe hoffwn i atgoffa pawb i roi gwybod am foch daear a ganfuwyd yn farw er mwyn cyfrannu at arolwg Cymru gyfan o foch daear a ganfuwyd yn farw.
Rwyf wedi gweld y dinistr y gall achos o TB ei greu i deulu a busnes ffermio. Gall lladd gwartheg â TB arnyn nhw ar y fferm, er nad oes modd osgoi hynny weithiau, fod yn arbennig o ofidus i'w weld. Rwyf wedi gwrando ar bryderon y mae'r diwydiant wedi eu crybwyll am y mater hwn, ac mae swyddogion wrthi'n ystyried sut y gallwn ni leihau'r achosion pan fo angen saethu gwartheg sydd â TB arnyn nhw ar y fferm. Os oes ffyrdd y gallwn ni wneud y sefyllfa hon yn haws i'r rhai hynny yr effeithir arnyn nhw, rwy'n awyddus i'w harchwilio. Byddaf yn rhoi diweddariad arall ar y datblygiadau yn ystod y misoedd nesaf.
Yn rhan o'n strategaeth tymor hir, rydym ni'n cefnogi creu'r ganolfan ragoriaeth ar gyfer TB buchol yn Aberystwyth, dan arweiniad yr Athro mawr ei barch Glyn Hewinson. Mae cysylltiadau agos rhwng y ganolfan a'n rhaglen yn cael eu datblygu.
Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn gyfnod o newid blaengar ar gyfer y rhaglen dileu TB, a bydd defnyddio a dysgu o dechnoleg newydd yn bwysig wrth fwrw ymlaen. Fodd bynnag, ni allaf orbwysleisio gwerth cydweithredu wrth ddileu TB, ac mae gan bob un ohonom ni ran yn hyn. Drwy weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth, gydag un pwrpas, fe wnawn ni roi terfyn ar y clefyd hwn. Diolch.
Gweinidog, diolch ichi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae un sicrwydd mewn bywyd yn y lle hwn ers i mi ymuno yn 2007: y bydd amryw o ddatganiadau TB wrth i ni fwrw ymlaen drwy'r tymor cyfan. Yn wir, y Llywydd a arweiniodd y gwaith hwn am bedair blynedd pan oedd hi'n Ysgrifennydd y Cabinet yn y trydydd Cynulliad, rwy'n credu. Nid wyf yn gwneud y sylwadau hynny yn ysgafn, oherwydd mae hwn yn gyflwr trychinebus yn y diwydiant da byw ac i'r economi wledig hefyd. Mae'n ffactor economaidd mawr yn y diwydiant da byw, fel y nodwyd gennych chi yn eich datganiad y prynhawn yma, ond caiff effaith emosiynol a seicolegol enfawr ar deuluoedd ffermio ac, yn wir, ar y sector da byw y mae'r clefyd ofnadwy hwn yn effeithio arnynt.
Un peth, yn anffodus, sydd wedi codi, dro ar ôl tro yn ystod y 12 mlynedd y bûm i yn Aelod Cynulliad, yw nad yw'n ymddangos ein bod wedi gallu mynd i'r afael â hyn. Mae'r niferoedd rydych chi'n adrodd amdanynt heddiw yn dangos cynnydd o 12 y cant yn nifer y gwartheg sy'n cael eu lladd, yn anffodus, oherwydd TB buchol. Cynnydd o 12 y cant—mae hynny'n nifer sylweddol yn sicr ar ôl sawl cynnig i geisio rheoli'r cyflwr ofnadwy hwn. Rwy'n credu bod hynny'n adlewyrchiad gwell nag efallai nifer y daliadau a nodwyd gennych chi, yr oeddech chi'n ymddangos i gael rhywfaint o gysur ohonyn nhw—bod llai o ddaliadau yn cofnodi TB buchol—ond y gwir amdani yw bod y diwydiant da byw yn crebachu a llai o dda byw yn cael eu cadw. Mae'r data crai yn dangos bod nifer gynyddol o wartheg yn cael eu heffeithio arnyn nhw yn gyffredinol ac mae hynny'n dangos yn glir nad yw'r polisi, yn anffodus, yn gweithio yma yng Nghymru.
Mae angen mynd i'r afael â hyn o ddau gyfeiriad, fel yr ydych chi wedi clywed o'r meinciau hyn dro ar ôl tro, i sicrhau bod gennym ni gronfa bywyd gwyllt iach ac, yn wir, diwydiant da byw fferm iach. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi nodi faint o foch daear sydd wedi'u dileu, ar ôl profi eu bod wedi eu heintio â TB, gan eich bod wedi cyfeirio at hynny yn eich datganiad—. Felly, rydym ni'n gwybod beth yw niferoedd y gwartheg, a allwch chi ddweud wrthym ni faint o foch daear, ar ôl canfod eu bod wedi'u heintio, a gafwyd wared arnyn nhw yn ystod y 12 mis diwethaf, y cyfnod adrodd yr ydych chi wedi'i roi i ni?
Hefyd, mewn llawer o'r datganiadau a ddaeth gerbron y Cyfarfod Llawn, ymddengys ein bod yn dychwelyd at yr agwedd iawndal sydd yn amlwg angen sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr ond hefyd iawndal teg i gynhyrchwyr da byw, sydd yn aml iawn yn gallu gweld oes gyfan, os nad sawl cenhedlaeth, yn cael eu hamddifadu o'r fferm honno oherwydd achos o TB buchol. Byddwn yn falch o ddeall beth yw eich barn chi ar yr agwedd arbennig hon ar eich datganiad. Aeth y Gweinidog cyllid, pan mai hi oedd y Gweinidog, ati i geisio cyflwyno cynigion i newid y cynigion iawndal a chafwyd newidiadau cymedrol bryd hynny. Ceisiodd y Prif Weinidog blaenorol, pan oedd yntau yn Weinidog yr Amgylchedd, gyflwyno uchafswm ar daliadau, rhyw 10 neu, rwy'n credu, 12 mlynedd yn ôl. Fy niweddar gyd-Aelod, y mae colled fawr ar ei ôl, Brynle Williams oedd y llefarydd amaethyddol ar y pryd ac rwy'n credu mai ei bleidlais ef a roddodd terfyn ar hynny. Felly, mae'n ofid gen i eich bod yn ceisio cysylltu hyn â Brexit. Rydym ni'n mynd yn ôl dros 10, 12, 15 mlynedd ac mae amrywiol Weinidogion wedi—[Torri ar draws.] Clywaf gan rywun ar ei eistedd na wnaeth y Gweinidog ddweud hynny. Mae'r datganiad yn dweud hynny, oherwydd colli cyllid Ewropeaidd oherwydd Brexit—mae'n dweud hynny mewn gwirionedd, ydy. Rwyf yn gresynu at geisio cysylltu hyn â'r ddadl Brexit. Cafwyd ymosodiadau olynol ar y model iawndal gan sawl Gweinidog dros gyfnod hwy. Os ydych chi'n bwriadu cyflwyno ymgynghoriad, a wnewch chi ddweud wrthym ni beth fydd diben yr ymgynghoriad hwnnw, pryd y bydd yn dod a beth ydych chi'n bwriadu ei gynnwys yn yr ymgynghoriad hwnnw?
Hefyd, byddwn yn ddiolchgar cael deall pa fesurau y byddech chi'n eu hystyried bod angen i'r diwydiant amaethyddol eu gweithredu yn ychwanegol at yr hyn sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd. Dof i—a dweud y gwir, dylwn i fod wedi datgan hyn ar ddechrau'r trafodion, Llywydd, os caniatewch imi: rwy'n datgan buddiant, fel cynhyrchydd da byw sydd â gwartheg ar ei fferm. Pa fesurau sydd gennych chi mewn golwg yn ychwanegol at y mesurau bioddiogelwch sydd ar waith ar hyn o bryd—oherwydd fel diwydiant, mae profion cyn symud ac ar ôl symud wedi cael eu cyflwyno, mae profion blynyddol wedi cael eu cyflwyno, lle mae llawer o bobl a allai fod wedi bod mewn plwyfi pedair blynedd bellach mewn profion blynyddol? Ac eto, mae'r diwydiant amaethyddol wedi derbyn y mesurau hyn ond serch hynny nid ydynt yn gweld dull mwy cyfannol o ymdrin â'r bywyd gwyllt sydd wedi ei heintio ac sy'n rhan o'r mater sy'n rhan o'r broblem heintio sy'n effeithio ar y sector da byw. Felly, a wnewch chi ein goleuo ni ynghylch y pwyntiau yr wyf wedi'u cyflwyno ichi, Gweinidog? Rwyf i, ynghyd â'r rhan fwyaf o Aelodau, os nad pob aelod, yn dymuno gweld cynnydd yn y maes hwn, ond oni fyddwn ni'n gwneud cynnydd ym mhob maes, yna byddwn ni, mewn gwirionedd, yn siarad am hyn mewn 12 mlynedd ac ni fyddwn ni yn y sefyllfa honno o fod o fewn trwch blewyn o gyflawni uchelgais y Gweinidog ei hun o weld y clefyd dychrynllyd hwn yn cael ei ddileu yn y sector da byw.
Diolch, Andrew R.T. Davies, am y gyfres o gwestiynau. Nodais yn fy natganiad, er y bu gostyngiad o 5 y cant yn y 12 mis yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw yn y datganiad hwn o ran achosion mewn buchesi, y bu cynnydd yn nifer y gwartheg, a dywedais pam yr oedd hynny, yn sgil y sensitifrwydd uwch, a hefyd, rwy'n credu, gwella'r profion. Ond nid wyf yn bychanu'r effaith emosiynol neu seicolegol y mae hyn yn ei chael ar deuluoedd a busnesau ffermio, ac rwy'n derbyn hynny'n llwyr. A dim ond, o ran eich cwestiwn ynghylch iawndal—wrth gwrs, mae 10 y cant o'r cyllid ar gyfer y rhaglen dileu TB yn dod o Ewrop, ac wn i ddim a fydd y cyllid hwnnw ar gael. Felly, yn sicr doeddwn i ddim yn ei gysylltu yn y ffordd yr wyf i'n credu eich bod chi'n ei awgrymu. Fodd bynnag, mae'n un o ffeithiau bywyd. Mae ein cyllidebau i gyd wedi lleihau, ac rwy'n cael tua 10 y cant o'm—wel, rwy'n dweud y rhaglen dileu TB, mewn gwirionedd, mae ar gyfer pob clefyd. Felly, er enghraifft, pe byddem ni'n cael achosion o glwy Affricanaidd y moch, fel y gwelwyd yn Ewrop eleni—bydd y gwledydd hynny wedi cael yr arian ar gyfer y clefydau hynny o'r un gronfa. Felly, mae'n rhaid i mi edrych ar sut rwy'n mynd i ariannu hynny. Gofynnwyd cwestiynau imi, gan Llyr Huws Gruffydd rwy'n credu, yn y pwyllgor ynghylch lle byddwn ni'n dod o hyd i'r arian hwnnw. Wel, byddai'n rhaid imi ddod o hyd i'r arian hwnnw o'm cyllideb. Felly, dydw i ddim yn gwneud cyswllt uniongyrchol, dim ond datgan ffeithiau wyf i bod angen i ni edrych ar y ffordd mae iawndal yn cael ei ariannu.
Fe wnaethoch chi ofyn i mi a fyddwn i'n cynnal ymgynghori. Yr hyn yr wyf wedi'i wneud—felly, gan fynd yn ôl at y datganiad hwn heddiw, daw hyn yn sgil y rhaglen newydd i ddileu TB a lansiais yn ôl ym mis Hydref 2017 pan ymrwymais i adrodd yn flynyddol a chredwyd mai'r ffordd fwyaf priodol o wneud hynny oedd adrodd ar flwyddyn galendr o ystadegau. Felly, yr hyn yr wyf i'n adrodd arno heddiw yw o Ionawr i Ragfyr 2018. Felly, yr hyn yr wyf wedi'i ddweud wrth swyddogion yw y byddwn yn hoffi adolygu'r agwedd iawndal ar hyn. Rwy'n credu bod rhannau eraill o'r rhaglen y mae angen inni eu gwylio'n ofalus iawn. Yn sicr, mae'n cael ei fonitro'n ofalus iawn, ac mae hyblygrwydd yn y rhaglen yr wyf wedi bod yn falch iawn o'i weld. Felly, er enghraifft—ac, unwaith eto, cyfeiriais ato yn fy natganiad—er ein bod ni wedi gweld cynnydd sydyn yn y clefyd yn yr ardal ganolradd, rydym ni wedi gallu bod yn hyblyg ynghylch sut yr ydym ni'n edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn yr ardal honno, gan gyflwyno mesurau ychwanegol.
Fe wnaethoch chi ofyn i mi beth arall mae arnom ni eisiau i ffermwyr ei wneud. Mae bioddiogelwch yn amlwg yn bwysig iawn, ac rwy'n gwybod eich bod yn rhannu'r farn honno'n llwyr, a'r ffaith ein bod wedi cael achosion o TB yn digwydd ac y gallwn ni briodoli hynny'n glir, er enghraifft, i ble mae ffermwyr wedi prynu gwartheg—rwyf wedi bod yn ystyried a oes angen inni gyflwyno system brynu wybodus orfodol, er enghraifft. Fe welais i yn Seland Newydd bod ganddyn nhw hynny yn y fan honno ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n ei ystyried. Mae'n well gen i wneud hynny ar sail wirfoddol. Felly, fe wnaethom ni ariannu marchnadoedd da byw er mwyn gallu adfer yr wybodaeth honno, ond nid wyf i wedi gweld y wybodaeth gynyddol y byddwn i wedi dymuno'i gweld. Felly, rwy'n ystyried a oes angen inni gyflwyno cynllun gorfodol. Felly, rwy'n credu bod yna gyfres o bethau y gallwn ni eu gwneud, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth ac rwyf eisiau parhau i wneud hynny.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, er fy mod i, unwaith eto, yn meddwl bod ymdeimlad o fod wedi profi hyn i gyd o'r blaen, mewn gwirionedd. Rydym ni wedi cael datganiadau tebyg yn rheolaidd dros y blynyddoedd ac, yn anffodus, gyda'r un duedd o ran llwyddo i reoli'r clefyd hwn. Mae'n teimlo ychydig bach fel petaech chi'n priodoli rhai o fethiannau'r Llywodraeth i ffermwyr hefyd, oherwydd rydych chi'n dweud y dylai ffermwyr brynu stoc yn fwy gofalus—wel, onid ydych chi'n credu eu bod yn ddigon cyfrifol yn hynny o beth? Rydych chi'n dweud eich bod yn galw ar ffermydd mewn ardaloedd TB isel i wneud popeth a allant i gadw TB buchol allan. Siawns nad ydych chi'n awgrymu nad ydyn nhw eisoes yn gwneud cymaint ag y gallan nhw, oherwydd dydw i ddim yn gwybod am unrhyw ffermwr sy'n dymuno canfod ei hun yn y sefyllfa hon, ac, mewn gwirionedd, os ydych chi'n disgwyl i ffermwyr wneud popeth o fewn eu gallu, yna rwy'n credu nad yw hi ond yn deg bod ffermwyr yn disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i fynd i'r afael â'r clefyd erchyll hwn, ac mae hynny, wrth gwrs, yn golygu defnyddio pob arf sydd ar gael i chi. Ers cyflwyno'r cynlluniau gweithredu unigol—neu'r cynlluniau gweithredu pwrpasol—rydym ni wedi gweld, rwy'n credu, trwyddedau yn cael eu cyflwyno ar dair fferm yn unig ledled Cymru gyfan a chael gwared ar ddim ond pum mochyn daear. Nawr, mae hynny mewn cyferbyniad, wrth gwrs, â dros 11,000 o wartheg sydd wedi cael eu lladd. Rydym ni eisoes wedi cael ein hatgoffa bod hynny'n gynnydd o 12 y cant yn nifer y gwartheg sy'n cael eu lladd. Mewn rhai rhanbarthau unigol, mae'n uwch fyth, mewn gwirionedd, ac mae hynny, rwy'n credu, yn dweud llawer wrthym ni am yr hyn y mae angen inni ei wybod ynglŷn â pha mor llwyddiannus yw strategaeth y Llywodraeth hyd yma.
I'r gwrthwyneb, rydym ni wedi gweld yn Lloegr ac mewn mannau eraill ddulliau gwahanol yn arwain at wahanol effeithiau ar y sefyllfa o ran TB yn y fan honno. Roedd crynodeb DEFRA ym mis Rhagfyr yn cadarnhau eu bod wedi haneru nifer yr achosion newydd yn Lloegr. Felly, mae gennyf ddiddordeb, mewn gwirionedd, a'm cwestiwn cyntaf fyddai: i ba raddau ydych chi'n dysgu'r gwersi sy'n cael eu dysgu mewn mannau eraill? A ydych chi'n dysgu o'r gwersi hynny, nid yn unig o Loegr ond o Weriniaeth Iwerddon a mannau eraill hefyd, a sut mae eu profiadau nhw'n effeithio neu'n dylanwadu ar eich ffordd chi o fynd ati yma yng Nghymru? Oherwydd mae cynnydd o 12 y cant, wrth gwrs, yn nifer y gwartheg sy'n cael eu difa yn annerbyniol ac ni all hynny olygu busnes fel arfer, ac mae gen i ofn bod ymdeimlad o fusnes fel arfer i'r datganiad yr ydych chi wedi'i gyhoeddi heddiw.
Rydych chi'n dweud bod adroddiad ar waith maes y llynedd yn cael ei gwblhau'n derfynol yn eich datganiad ac y bydd ar gael yn fuan. Nid wyf eisiau eich beirniadu am gyflwyno'r datganiad hwn, ond byddai wedi bod yn fwy defnyddiol, rwy'n credu, inni fod wedi cael yr wybodaeth honno yn rhan o'r datganiad hwn er mwyn inni allu cwestiynu'r data hwnnw gyda chi yma yn y Siambr. Wn i ddim a wnewch chi gyflwyno datganiad llafar arall yn hytrach na datganiad ysgrifenedig oherwydd rwy'n siŵr y byddai gennym ni i gyd ddiddordeb gweld y dystiolaeth ddiweddaraf yn hynny o beth.
Rydych chi'n dweud yn y datganiad ei bod hi'n bryd adolygu'r drefn iawndal bresennol, ac mae'n wir bod £14 miliwn yn llawer o arian i'w dalu mewn iawndal, ond, wrth gwrs, mae 11,000 o wartheg yn llawer o wartheg a laddwyd, ac mae'n golled fawr i'r diwydiant ffermio. Felly, pan rydych chi'n disgrifio'r sefyllfa bresennol fel un anghynaladwy, byddai'n ddiddorol clywed gennych chi beth yn union ydych chi'n ei olygu wrth hynny, oherwydd a ydych chi'n dweud y dylid gostwng lefelau iawndal? Oherwydd mae'n swnio braidd fel hynny, i'm clustiau i, a byddwn i'n gwerthfawrogi cael eglurhad. Ac, wrth gwrs, y ffordd orau o leihau taliadau iawndal yw mynd i'r afael â'r clefyd a lleihau nifer y gwartheg sy'n cael eu difa. Nid oes llawer o amser wedi mynd heibio, wrth gwrs, ers i'r drefn iawndal gael ei hadolygu a'i newid, a bellach mae'n ymddangos eich bod eisiau ei newid eto. Byddai'n fuddiol hefyd clywed ychydig am y broses yr ydych chi'n bwriadu ymgymryd â hi yn rhan o hynny: pa fath o amserlenni ydym ni'n eu hystyried, ac a fydd yna grŵp cyfeirio, gweithgor, neu sut ydych chi'n mynd i ymdrin â'r darn hwnnw o waith?
Rwy'n credu eich bod yn berffaith gywir i gyfeirio at Brexit a'r goblygiadau fydd ganddo oherwydd bydd yna oblygiadau—y rhai ariannol y cyfeiriwch chi yn benodol atyn nhw, wrth gwrs, oherwydd rydym ni'n gwybod bod cyllid yr UE wedi cyfrannu at ymdrechion y Llywodraeth o ran mynd i'r afael â'r clefyd hwn, ond rwyf hefyd yn pryderu'n arbennig am yr effaith ar y gweithlu milfeddygol a'r milfeddygon sydd ar gael, oherwydd rydym ni'n gwybod bod tua 44 y cant o'r holl filfeddygon newydd yng Nghymru yn y degawd hyd at 2017 wedi dod o dramor, ac os collwn ni'r bobl hynny, yna, yn amlwg, rydym ni'n mynd i fod yn fwy agored fyth nid yn unig i TB ond mathau eraill o glefydau hefyd.
Yn olaf, Gweinidog, ynglŷn â brechiadau: yn amlwg, rydych chi'n benderfynol o ddefnyddio'r dull hwnnw, ac mae'n debyg bod gan frechu ran yn hyn. Nid yw ond yn atal, wrth gwrs, nid yw'n gwella TB buchol, felly nid yw'n ateb ynddo'i hun, ond gall gyfrannu at strategaeth ehangach. Ond rydym ni'n gwybod, i'n niwed ein hunain, bod problemau yn ymwneud â chyflenwi, felly onid ydych chi'n cydnabod y bydd unrhyw strategaeth frechu wastad yn agored i unrhyw amharu ar y cyflenwad ac nad yw hynny bob amser yn sail ddibynadwy iawn ar gyfer datblygu eich strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â TB buchol?
Diolch, Llyr, am y cwestiynau hynny. Addewais y byddwn yn rhoi datganiad yn dilyn cyflwyno'r rhaglen ar ei newydd wedd o fewn yr amserlen hon, felly mae'r rheswm dros y datganiad hwnnw heddiw yn ganlyniad i'r addewid hwnnw. Ond nid wyf i'n anghytuno â chi, y byddai wedi bod yn ddefnyddiol cael yr adroddiad gwaith maes hwnnw, ac yn sicr, pan gaf yr adroddiad, byddwn yn hapus iawn i sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael i'r cyhoedd; a hynny drwy gyfrwng datganiad llafar neu ddatganiad ysgrifenedig a fydd yn amlwg yn ddibynnol ar amserlenni.
Mae'n bwysig iawn edrych ar ddulliau gweithredu gwahanol. Yn wir, mae'r prif swyddog milfeddygol, ar ôl y datganiad hwn heddiw, yn mynd i Ddulyn i siarad â chydweithwyr yno ac, yn amlwg, rwy'n ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd yn Lloegr, sef yr adolygiad o'r strategaeth TB buchol. Ac, os edrychwch chi ar lawer o'r gwaith sydd yn yr adolygiad hwnnw, fe welwch chi ein bod ni wedi'i ymgorffori yn ein rhaglen ni i ddileu TB, felly roeddwn yn falch iawn o weld bod agweddau allweddol ar ein rhaglen eisoes yn cael sylw yma a'u crybwyll yn yr adroddiad. Deallaf fod DEFRA yn ymateb i'r adroddiad hwnnw yn yr hydref, ac yn sicr bydd o ddiddordeb mawr i mi i weld yr hyn a ddywedant.
O ran iawndal, rydych chi'n gywir, fe wnaethom ni ostwng yr iawndal pan lansiwyd y rhaglen ddileu gennym ni. Yr ateb a roddais i Andrew R.T. Davies—roeddwn yn ceisio egluro nad oeddwn yn gwneud cysylltiad llwyr â Brexit, ond, rydych chi'n gywir, rydym ni'n mynd i golli tua 10 y cant o'n cyllid, o bosib, er y dywedwyd wrthym ni, wrth gwrs, na fyddem ni'n colli ceiniog pe baem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Cefais y sgwrs honno ddoe gyda'm cymheiriaid yn y DU pan wnaethom ni gyfarfod yn rhan o'n cyfarfodydd pedairochrog; fe wnaethom ni gyfarfod yma yng Nghaerdydd ddoe. Felly, mae ynglŷn ag edrych i'r dyfodol i weld a fydd yn rhaid imi ddod o hyd i'r arian hwnnw o'm cyllideb fy hun neu a fyddwn ni, fel yr addawyd, yn cael pob ceiniog ac wedyn ni fydd y broblem honno yn bodoli.
Bu imi leihau'r uchafswm, efallai y cofiwch chi, i £5,000 pan wnaethom ni adnewyddu'r rhaglen dileu TB ac roeddem ni'n gwybod na fyddai'r newid yn effeithio ar fwyafrif y ffermwyr, yn ôl pob tebyg, ac mae'n rhaid imi ddweud nawr fy mod i'n deall ei fod wedi arbed tua £49,500 inni yn sgil gostwng y terfyn hwnnw. Felly, nid yw'n swm enfawr, ond, unwaith eto, rwy'n credu ei fod yn ymwneud â hybu arferion da a pheidio â gwobrwyo arferion gwael hefyd.
Fe ofynnoch chi am filfeddygon ac rydych chi yn llygad eich lle. Os edrychwch chi ar rai'r Llywodraeth yn yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, rwy'n credu fod 100 y cant o'n milfeddygon yn wladolion yr UE, felly mae'n destun pryder mawr ac yn rhywbeth yr wyf i wedi rhoi sylw iddo ar bob cyfle a gefais, gyda Michael Gove. Ac, yn amlwg, maen nhw'n rhannu ein pryderon, gan eu bod yn yr un sefyllfa yn union a ni—efallai nid 100 y cant, ond yn sicr mae'r rhan fwyaf o'u milfeddygon yn wladolion yr UE.
O ran brechu, byddwch yn ymwybodol o'r rhaglen bum mlynedd a fu gennym ni ac y cyflawnwyd pedair blynedd ohoni, ond yna cawsom—mae'n amlwg nad oedd y cyflenwad byd-eang o'r brechlyn ar gael. Mae bellach ar gael eto ac rydym ni'n gobeithio gwneud hynny. Yn wir, mae ffenest wedi agor lle gall pobl wneud cais amdano, i wneud hynny'n breifat. Rwy'n credu bod y ffenest yn cau heddiw, ond yn sicr rydym ni wedi cael y cynnig hwnnw, ac eto, byddwch wedi fy nghlywed yn sôn yn fy natganiad y buom ni'n gweithio gyda grŵp ym Mhenrhyn Gŵyr sydd—maen nhw'n ei wneud yn annibynnol, ond rydym ni yn eu cefnogi nhw hefyd.
Rwy'n cydnabod bwriadau gorau'r Gweinidog, ei meddwl agored a'i pharodrwydd i ystyried gwneud pethau sy'n wleidyddol anodd iddi yn ei phlaid a'i pharodrwydd cyffredinol i ymgysylltu â ffermwyr a'r gymuned ffermio yn gyffredinol ar y mater eithriadol o anodd hwn. Ond, er gwaethaf hynny i gyd a 18 mis ar ôl cyflwyno'r rhaglen ddileu ar ei newydd wedd, mae'n amlwg nad yw'r Llywodraeth, yn ddiamwys, yn ennill y rhyfel yn erbyn TB. Ac rwy'n cytuno â Llyr Gruffydd, o ran yr hyn a ddywedodd yn gynharach, fod y Gweinidog, yn y datganiad, yn ymddangos fel pe bai'n beio ffermwyr ar goedd i raddau, pan, mewn gwirionedd, Llywodraeth Cymru sydd â'r ateb i'r broblem hon yn y pen draw, gan mai polisi'r Llywodraeth sy'n mynd i alluogi gweithredu mesurau sy'n cynnig gobaith o wir lwyddiant. Ac nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â'r ffigurau nad ydym ni mewn gwirionedd yn gwneud unrhyw gynnydd sylweddol o gwbl. Mae'r Gweinidog yn priodoli'r cynnydd o 12 y cant mewn achosion o ladd gwartheg i sensitifrwydd cynyddol o ran profi a gwylio ar gyfer TB, ond dywedodd y Gweinidog yn ei datganiad:
Rydym ni'n disgwyl i'r buddsoddiad hwn o ran cael gwared yn gynharach ar wartheg sydd wedi'u heintio greu buddion yn y tymor canolig.
Wel, fel rwyf wedi dweud sawl gwaith, does dim amser gan ffermwyr mewn gwirionedd; mae TB yn effeithio'n ddirfawr ar yr economi wledig ac yn dinistrio bywoliaeth y rhai sy'n cadw gwartheg, a llawer ohonyn nhw'n ffermydd teuluol. Rwy'n cydnabod ei bod hi yn llawn werthfawrogi'r effaith seicolegol ddofn yn ogystal â'r effaith economaidd y gall buches heintiedig ei achosi.
Yn 2017, roedd hi'n ymddangos bod y Llywodraeth yn gweithredu'n briodol ac roeddwn yn cymeradwyo ar y pryd, ac wedi gwneud ers hynny, ei pharodrwydd i frwydro yn erbyn y clefyd ymhlith bywyd gwyllt drwy ddal â chewyll, profi a difa moch daear heintiedig heb greulondeb. Ond, fel y nododd Llyr Gruffydd eto, mae'r ffigurau hyn yn gwbl druenus. Nid yw'r tair trwydded ar dair fferm yng Nghymru gyfan hyd yn oed y smotyn lleiaf. I roi hyn yn ei gyd-destun, caiff buwch ei lladd yng Nghymru o ganlyniad i TB bob 46 munud, tra bydd mochyn daear yn cael ei ddifa bob 3.6 mis. Felly, os yw hyn yn arwydd o flaenoriaethau'r Llywodraeth, yna maen nhw'n seiliedig ar gamddealltwriaeth llwyr, yn fy marn i. Mae NFU Cymru wedi dweud bod hyd at un o bob pum mochyn daear yng Nghymru wedi'i heintio â TB, felly mae'n rhaid inni, os ydym ni i fynd i'r afael â'r broblem hon, wneud rhywbeth ynghylch yr haint mewn bywyd gwyllt.
Nawr, dywedodd y Gweinidog yn ei datganiad ei bod yn gweithio gyda ffermwyr a rhanddeiliaid a milfeddygon ym Mhenrhyn Gŵyr i gael brechlyn ar gyfer moch daear. Sut bydd llwyddiant yn y maes hwn yn cael ei fesur? Mae rhaglenni dileu blaenorol wedi profi nad yw'r hyn a elwir yn ddull gwyddonol wedi llwyddo i gyflawni dim ond methiant. I'r gwrthwyneb, er bod milfeddygon yn ymlid moch daear ar draws Penrhyn Gŵyr gyda'u brechiadau, yn Lloegr, cafwyd cryn lwyddiant drwy bolisi cwbl wahanol. Yn sgil difa moch daear mewn ardaloedd risg uchel yn Lloegr cafwyd y canlyniadau canlynol: ym mis Rhagfyr 2018, datgelodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ostyngiad yn y clefyd mewn gwartheg yn ystod y cyfnod difa pedair blynedd, gyda nifer yr achosion o TB buchol a oedd wedi'u cadarnhau tua 50 y cant yn llai. Yn ardal Caerloyw, mae'r gyfradd o achosion wedi gostwng o 25 y cant i 12 y cant yn y 12 mis yn dilyn y bedwaredd flwyddyn o ddifa moch daear. Yng Ngwlad yr Haf, mae achosion newydd mewn buchesi wedi gostwng o 10.4 y cant i 5.6 y cant. Mae hynny'n welliant gwirioneddol.
Nawr, rwyf yn sylweddoli bod hyn yn fater anodd ac emosiynol, ond o gofio'r hyn a ddywedodd Simon Thomas lawer gwaith, pan oedd yn llefarydd Plaid Cymru ar amaeth, mae'r dewis yn un syml, un ai rydych chi'n difa moch daear neu'n difa gwartheg, ac, o'r ddau, rwy'n gwybod pa un sydd orau a'r mwyaf effeithiol yn y tymor hwy. Yr hyn sydd ei angen yw mynd ati o sawl cyfeiriad, ac rwy'n derbyn fod llawer o'r hyn a ddywed y Gweinidog yn synnwyr cyffredin o ran bioddiogelwch a'r rheolaethau ar symudiadau gwartheg, cynlluniau gweithredu unigol ar gyfer ffermydd, yn enwedig mewn ardaloedd o risg uchel, a gwybodaeth hawdd ei gael i ffermwyr ynghylch sut i atal TB rhag cael ei drosglwyddo. Ond mae mynd i'r afael â'r broblem o TB yn lledaenu ymhlith bywyd gwyllt drwy ddifa yn ôl y drefn yn Lloegr yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnyn nhw waethaf yng Nghymru yn ymddangos i mi yn ffordd gwbl anhepgorol o symud ymlaen os yw hi eisiau i'r polisi lwyddo a dyna, fel rwy'n gwybod, yw ei nod.
Diolch, Neil Hamilton, am y sylwadau a'r cwestiynau hynny. Ni welaf fod gostyngiad o 5 y cant yn nifer yr achosion newydd yn fethiant; rwyf yn gweld hynny'n llwyddiant. Cytunaf yn llwyr am nifer y gwartheg sydd wedi'u lladd. Rhoddais y rhesymau pam fy mod i'n credu mai dyna'r achos, ond rwyf, wrth gwrs, eisiau gweld gostyngiad yn hynny, ac rwyf wedi sôn am hyblygrwydd y rhaglen hon ac, ymhen 12 mis arall, pan fyddwn yn edrych arno, gobeithiaf weld llwyddiant yn y maes hwnnw hefyd, yn sicr.
Mae Neil Hamilton yn siarad am y cynlluniau gweithredu pwrpasol, ac rydym ni wedi cael 59 o gynlluniau gweithredu hyd yn hyn. Yn amlwg, mae'r cyfnod 18 mis yr ydym ni'n ei ystyried lle cafwyd yr achosion hirdymor hyn, sef pan rydym ni ymweld â ffermydd a llunio'r cynlluniau gweithredu pwrpasol—soniais fod 21 bellach yn glir o TB. Fe sonioch chi am y ffaith mai tair trwydded yn unig sydd yna. Wel, mae hynny oherwydd amrywiaeth o resymau, lle mae'r milfeddygon wedi penderfynu nad oes unrhyw ymyriad gan fywyd gwyllt, neu efallai bod y ffermwr wedi penderfynu nad yw'n dymuno i'r agwedd honno gael ei hystyried. Felly, nid wyf yn credu y gallwch chi feirniadu mai dim ond tair trwydded oedd yna. Mae'r cynlluniau gweithredu pwrpasol hyn yn edrych ar amrywiaeth o bethau, gan gynnwys bioddiogelwch. Rwy'n credu bod yn rhaid ystyried y gwaith o ymyrryd â moch daear yn rhan gymharol fach, ond, wrth gwrs, yn elfen gymhleth o raglen fwy o lawer. Nid oes unrhyw gynllun gweithredu wedi dynodi buches lle mai moch daear yw'r unig reswm dros y clefyd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nodi hynny, ac yn gyson rwyf wedi gwrthod difa moch daear yn y modd y gwneir hynny yn Lloegr. Nid yw'r wyddoniaeth yr wyf i wedi'i gweld, y trafodaethau yr wyf i wedi'u cael â fy swyddogion, â'r prif swyddog milfeddygol, wedi fy narbwyllo y byddai hynny'n briodol i Gymru.
Buom ni'n siarad o'r blaen am y cynnydd sydyn dros dro yn yr ardal ganolradd, ac roedd Andrew R.T. Davies yn gofyn beth arall y gallai ffermwyr ei wneud, a soniais am yr ymweliadau 'cadw TB allan' gyda milfeddygon, a dim ond dau ymweliad y gofynwyd amdanynt yn yr ardal honno. Felly, mae hynny efallai'n rhywbeth y gall ffermwyr gysylltu ag APHA yn ei gylch yn fwy. Ond yn sicr, nid wyf yn beio ffermwyr; rwyf i wedi dweud o'r dechrau fy mod i'n dymuno cydweithio, ac rwy'n credu mai gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth yw'r ffordd ymlaen os ydym ni eisiau dileu'r clefyd hwn.
Diolch am eich datganiad heddiw. Nid wyf yn mynd i ailadrodd popeth, ond rwy'n amlwg yn mynd i ddweud, unwaith eto, na allaf gefnogi—ac rwy'n falch nad ydych chi yn cefnogi—trefn gynhwysfawr o ddifa moch daear. Os edrychwn ni ar gost hynny, mae'r holl wyddoniaeth yn ei gwneud hi'n berffaith glir, oni bai eich bod yn difa'r boblogaeth moch daear yn sylweddol, neu bron â bod yn llwyr, nad yw hynny'n mynd i gael yr effaith y mae pawb yn credu y bydd yn ei gael. Mae hynny eisoes yn digwydd mewn rhai mannau o Loegr, lle mae moch daear ar fin diflannu. Ac yn fy marn i, nid wyf i erioed wedi gweld dim byd tebyg i hyn. Rydym ni'n difa rhywogaeth sy'n cael ei gwarchod, ac mae angen inni fod yn glir ynglŷn â hynny. Mae wedi costio £50 miliwn i'r trethdalwr yn barod, ac nid wyf i erioed wedi clywed neb yn sôn am y gost benodol honno. Felly, rwy'n falch, Gweinidog, eich bod yn edrych ar yr holl agweddau gwahanol, ac rydych chi wedi nodi cysylltiad â symudiadau gwartheg mewn rhai achosion. Roeddwn yn mynd i ofyn, ond mae'n ymddangos eich bod eisoes wedi ateb y cwestiwn yn barod, a oes rhaid inni orfodi hynny, a oes rhaid iddo fod yn orfodol. Does bosib fod pobl yn symud gwartheg heb fynd drwy broses sy'n ei gwneud—. Does dim ffermwr eisiau TB—rwy'n cydnabod hynny—ac rwy'n credu bod unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i helpu'r ffermwyr hynny i beidio â chael yr haint yn beth cadarnhaol, ac efallai bod hyn yn rhywbeth y mae angen inni ei wneud.
Rwy'n credu fy mod i hefyd wedi gofyn y cwestiwn hwn o'r blaen, ac rwy'n mynd i'w ofyn eto. A yw hi'n wir bod rhai ffermydd bron wedi bod mewn sefyllfa o gael eu heintio gan TB? A ddylem ni ystyried y posibilrwydd gwirioneddol mai felly y bydd hi bob amser a pham mai dyna yw'r achos? A oes ffactorau fel y ffaith bod y tir wedi'i heintio mor ddrwg gan TB, efallai gan y slyri sydd ar y ffermydd hynny? Ac a ddylem ni ystyried—ac rwy'n credu ei bod hi'n hen bryd ein bod ni, mewn rhai achosion—yn dod i'r casgliad terfynol, bod cadw gwartheg, yn achos rhai ffermydd, yn gwahodd y gwartheg hynny i gael TB oherwydd bod y tir wedi'i heintio mor ddrwg? Nawr, efallai mai dyna'r achos—a gallaf glywed rhywfaint o ochneidio sydyn—fod hyn yn gasgliad anodd i rai, ond gallai fod yn gasgliad angenrheidiol, a'r cyfan yr ydym ni'n mynd i'w wneud ar y ffermydd hynny yw achosi trallod i'r ffermwr yn y pen draw, i'r anifeiliaid, ac, wrth gwrs, cost i'r pwrs cyhoeddus. Felly, rwy'n credu bod gwir angen inni ystyried hynny hefyd.
Rwy'n cydnabod bod trallod a bod torcalon yn rhan o hyn, ac rwy'n falch iawn o glywed bod gennym ni ganolfan ragoriaeth TB buchol yr ydym ni bellach yn gweithio gyda hi. Roedd cynhadledd hefyd yn Derby yr wythnos diwethaf, ym Mhrifysgol Derby, a hon oedd y gynhadledd genedlaethol gyntaf erioed ar frechu moch daear. Roedd tua 80 o grwpiau a sefydliadau sydd eisoes yn brechu moch daear neu'n dymuno dechrau rhaglenni brechu yn bresennol. Felly, unwaith eto, hoffwn wybod a fydd eich adran yn adolygu casgliadau'r gynhadledd honno ac yn gweld a allwn ni ddysgu oddi wrthi a helpu i leihau'r clefyd hwn.
Diolch, Joyce Watson, am eich cwestiynau. Gan droi at y sylw olaf yna—ac, yn sicr, mae swyddogion yn monitro'r gwahanol raglenni a systemau a ddefnyddir o ran ceisio dileu TB buchol yn gyson—soniais o'r blaen fod y prif swyddog milfeddygol yn mynd i Ddulyn heddiw, i—. Anghofiaf pa brifysgol ydyw. Bydd yr Athro Hewinson, y soniais amdano, sy'n gweithio yn ein canolfan ragoriaeth, yno gyda hi hefyd, oherwydd mae pobl yn dymuno dysgu ganddo. Mae e'n fyd enwog, ac, i mi, mae e'n ffynhonnell wych o gyngor pan fyddaf angen hynny. Felly, rwy'n credu bod a wnelo hyn â dysgu gan wledydd eraill, ond hefyd mae'n dda gweld bod pobl yn gwahodd ein harbenigwyr ni hefyd er mwyn dysgu ganddyn nhw.
Mae'r cwestiwn yr ydych chi'n ei holi—sy'n un anodd—ynghylch ffermydd penodol, wedi ei ofyn i mi sawl gwaith gan ffermwyr unigol. Ond, yn sicr, unwaith eto, nid yw swyddogion wedi rhoi'r cyngor hwnnw imi. Ond gallwch weld yn glir lle mae gennym ni'r achosion hirdymor hyn, a dyna oedd un o'r rhesymau pam roeddwn i mor awyddus—. Mae'n bosib y byddwch chi'n cofio o'r adeg y gwnes i ddatganiad am y rhaglen wedi'i hadnewyddu fod rhai o'r achosion hyn wedi bodoli ers blynyddoedd a blynyddoedd a blynyddoedd. Ac fel y dywedwch chi, mae'n llawn trallod, trafferth a thorcalon. Felly, er nad wyf i wedi cael cyngor ynglŷn â hynny, mae ffermwyr unigol wedi codi'r cwestiwn hwnnw â mi, ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth a fydd yn cael ei drafod yn y dyfodol.
O ran prynu ar sail gwybodaeth, soniais mewn ateb cynharach ei fod yn rhywbeth yr ydym ni yn ystyried ei wneud yn orfodol. Roeddwn i eisiau ei wneud yn wirfoddol, yn sicr, a gwnes yr arian hwnnw ar gael i farchnadoedd da byw. Credaf fod angen i ffermwyr fod yn fwy cyfrifol o ran prynu, ond mae angen yr wybodaeth honno arnyn nhw, a dyna pam fy mod i eisiau gweithio gyda marchnadoedd da byw, rhoi arian iddyn nhw, er mwyn iddyn nhw allu uwchraddio eu cyfleusterau i'w galluogi i fod yn arddangos mewn modd amlwg unrhyw wybodaeth TB am y gwartheg sy'n cael eu gwerthu. Ond, yn anffodus, yn sicr wrth imi ystyried yr hyn sydd wedi bod yn digwydd dros y flwyddyn diwethaf, mae'n ymddangos mai ychydig iawn o wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno gan werthwyr i alluogi ffermwyr i wneud y penderfyniadau hynny.
Felly, yn sicr, rwy'n gwybod fod DEFRA hefyd yn ystyried y posibilrwydd o system brynu ar sail gwybodaeth orfodol, felly rydym ni'n cydweithio â nhw. Mae'n gymhleth iawn. Byddai angen, wrth gwrs, ymgynghori. Byddai angen newid y ddeddfwriaeth. Nid yw'n rhywbeth y gallwch chi ei wneud yn gyflym iawn. Mae profion cyn ac ar ôl symud yn lleihau, ond, wrth gwrs, nid yw'n cael gwared ar y perygl, oherwydd mae'n amlwg y gall gwartheg gael eu heintio ar ôl cael prawf neu oherwydd y gallan nhw fod yng nghyfnod cynharach yr haint a'i fod yn rhy gynnar i'w ganfod. Felly, credaf fod hyn yn rhywbeth y mae angen imi ei ystyried, oherwydd mae'n gwbl hanfodol fod ffermwyr yn cael yr wybodaeth honno fel y gallan nhw ystyried o le i brynu eu gwartheg.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.