Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 1 Mai 2019.
Diolch, Darren. Dengys adroddiad blynyddol Estyn ar gyfer 2017-18 fod safonau yn 'dda' neu'n 'well' mewn ychydig dros wyth o bob 10 ysgol gynradd, ac yn parhau i fod yn 'dda' neu'n 'well' yn hanner yr ysgolion uwchradd. Rwyf wedi ymrwymo i'r diwygiadau fel y'u hamlinellir yn 'Cenhadaeth ein Cenedl', a fydd yn rhoi cyfle cyfartal i'n holl blant gyflawni eu llawn botensial a gweld rhagoriaeth ym mhob un o'n hysgolion.