Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 1 Mai 2019.
Rwy'n ymwybodol o gynigion ysgol Notais yn sir Pen-y-bont ar Ogwr. Mae trefnu'r diwrnod ysgol, yn wir, yr wythnos ysgol, yn fater i benaethiaid unigol a'u cyrff llywodraethu. Ond dylid gwneud unrhyw newidiadau i drefn y diwrnod ysgol drwy ymgynghori'n llawn â rhieni, ac yn amlwg, dylid ystyried anghenion iechyd a lles plant wrth wneud y newidiadau hynny.