1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 1 Mai 2019.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y canllawiau a roddir i awdurdodau addysg lleol ynghylch sicrhau bod digon o amser yn y diwrnod ysgol i ddiwallu anghenion iechyd a lles disgyblion? OAQ53777
Diolch, Caroline. Mae 'Cenhadaeth ein Cenedl' yn sicrhau bod lles yn ganolog i'n cwricwlwm newydd, gan sicrhau ei fod yn treiddio trwy gydol y diwrnod ysgol. Bydd datblygu ymagwedd ysgol gyfan at les emosiynol a meddyliol hefyd yn helpu i hybu diwylliant lle mae holl staff yr ysgol yn gyfrifol am gefnogi eu dysgwyr.
Diolch, Weinidog. Nid wyf yn siŵr a ydych yn ymwybodol, ond mae Ysgol Gynradd Notais ym Mhorthcawl yn bwriadu newid eu diwrnod ysgol i gyd-fynd â'r ysgol gyfun. Er mwyn cyflawni hyn, heb gwtogi'r amser addysgu, mae'r cynigion yn galw am leihau amser chwarae 40 munud a chaniatáu un amser egwyl 10 munud yn unig. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi y bydd lleihau amser chwarae a chyfyngu ar amser i fynd i'r tŷ bach yn effeithio'n andwyol ar iechyd a lles y plant?
Rwy'n ymwybodol o gynigion ysgol Notais yn sir Pen-y-bont ar Ogwr. Mae trefnu'r diwrnod ysgol, yn wir, yr wythnos ysgol, yn fater i benaethiaid unigol a'u cyrff llywodraethu. Ond dylid gwneud unrhyw newidiadau i drefn y diwrnod ysgol drwy ymgynghori'n llawn â rhieni, ac yn amlwg, dylid ystyried anghenion iechyd a lles plant wrth wneud y newidiadau hynny.
Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod gofalwyr ifanc yn un grŵp o blant a phobl ifanc yn ein hysgolion sy'n arbennig o agored i niwed a bod angen amser a chefnogaeth ychwanegol arnynt gyda'r staff priodol i'w helpu i gyflawni'r hyn y gallant ei wneud yn academaidd, ond hefyd i gael amser i fod yn blentyn? Rhannaf rai o'r pryderon, oherwydd i ofalwyr ifanc, mae bod yn yr ysgol yn aml yn seibiant. Rydych yn mynd i'r ysgol a gallwch fod yn blentyn, gallwch chwarae. Mae gennyf rai pryderon y gallai byrhau'r diwrnod ysgol, yn enwedig i ofalwyr ifanc iawn—a gwyddom y gall plant mor ifanc â chwech fod yn ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu—gyfyngu ar allu gofalwyr ifanc i gael yr amser hwnnw i fod yn blentyn yn yr ysgol.
Mae camau y gallwch eu cymryd, efallai ar y cyd â'r Dirprwy Weinidog gwasanaethau cymdeithasol, i sicrhau, wrth i ysgolion wneud y newidiadau arfaethedig hyn, eu bod yn ystyried anghenion y grŵp hwn o blant a phobl ifanc sy'n arbennig o agored i niwed.
Diolch, Helen Mary. Rydych yn llygad eich lle i dynnu sylw'r Siambr at anghenion penodol gofalwyr yn ein system addysgol a sicrhau bod ein haddysgwyr a'n hysgolion a'n colegau yn ymwybodol o'r pethau syml iawn, weithiau, y gallant eu gwneud i sicrhau ei bod yn haws i'r bobl ifanc hynny gymryd rhan yn yr ysgol a'r coleg ac i gyflawni eu potensial llawn.
Mae mater trefnu diwrnodau ysgol yn aml yn gysylltiedig â mater yr wythnos anghymesur. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru wedi cynnal ymchwil i'r wythnos ysgol anghymesur, sy'n aml yn arwain at gwtogi, o bosibl, naill ai amser egwyl neu amser cinio. Mewn gwirionedd, yn yr achosion hynny, dywedwyd bod egwyl ginio fyrrach yn cefnogi lles plant weithiau gan fod hynny'n lleihau'r cyfleoedd i fwlio a rhai o'r problemau sy'n gysylltiedig â chyfnodau hir y tu allan heb oruchwyliaeth uniongyrchol y staff. Ond wrth gwrs, nid yw hynny o reidrwydd yn berthnasol i'r mater sy'n ymwneud â gofalwyr.
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol fy mod wedi gofyn yn arbennig i Estyn gynnal adolygiad strategol o beth arall y gallwn ei wneud yn y system addysg i sicrhau bod y grŵp hwnnw o ddysgwyr yn cyflawni eu potensial llawn, ac fel y dywedais, fod y proffesiwn yn gwybod beth yw'r ffordd orau o'u cefnogi.
Weinidog, mae iechyd a lles yn mynd y tu hwnt i'r ysgol. Mae angen i ni edrych hefyd ar golegau addysg bellach yn ogystal â cholegau ôl-16, lle nad oes amser gorfodol o reidrwydd. Ond gall cymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol a gweithgareddau corfforol anghystadleuol eraill helpu ysgolion a cholegau i sicrhau bod digon o gyfleoedd ar gael i ddysgwyr fod yn ymwybodol o'u hagendâu iechyd a lles eu hunain.
A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch colegau addysg bellach Cymru ar eu llwyddiant dros y penwythnos ym Mhencampwriaethau Chwaraeon Cenedlaethol Cymdeithas y Colegau yn Nottingham, lle buont yn cystadlu mewn dros 14 o gystadlaethau gwahanol? Ac efallai y gwnewch chi ymrwymo i helpu i sicrhau bod Chwaraeon Cymru, ar y cyd â Chwaraeon Colegau Cymru, yn parhau i gynnig ystod o weithgareddau newydd, pleserus ar gyfer darparu cyfleoedd iechyd a ffitrwydd i'r 45,000 o ddysgwyr ôl-16 sy'n astudio mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru.
Wel, diolch, David, am ein hatgoffa am yr ymdrech aruthrol honno ar ran y myfyrwyr yn ein colegau addysg bellach ledled Cymru, a'u llwyddiant wrth gynrychioli eu colegau, ac yn wir, wrth gynrychioli Cymru yn y gemau hynny. Gwn o drafodaethau gyda chydweithwyr addysg bellach eu bod wedi ymrwymo i ddarparu cwricwlwm eang a chytbwys mewn colegau addysg bellach sy'n caniatáu i fyfyrwyr ymgymryd nid yn unig â'u hastudiaethau academaidd neu alwedigaethol, ond hefyd i allu cymryd rhan mewn ystod lawn o weithgareddau allgyrsiol, gan gynnwys chwaraeon, ond hefyd drama, cerddoriaeth a gweithgareddau creadigol. Ac fel y gwyddoch, David, mae'r sector addysg bellach yn un o gryfderau'r system addysg yng Nghymru, ac mae'r llwyddiant diweddar hwn ym maes chwaraeon yn ategu'r hyn a wyddom—fod y colegau addysg bellach yng Nghymru yn perfformio'n dda iawn wir.