Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 1 Mai 2019.
Diolch, Caroline. Mae 'Cenhadaeth ein Cenedl' yn sicrhau bod lles yn ganolog i'n cwricwlwm newydd, gan sicrhau ei fod yn treiddio trwy gydol y diwrnod ysgol. Bydd datblygu ymagwedd ysgol gyfan at les emosiynol a meddyliol hefyd yn helpu i hybu diwylliant lle mae holl staff yr ysgol yn gyfrifol am gefnogi eu dysgwyr.