Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 1 Mai 2019.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl bobl ifanc yn derbyn addysg rhywioldeb a pherthnasoedd o ansawdd uchel. Ym mis Mai 2018, cyhoeddais fy mwriad i ailenwi'r maes astudio hwn ac rwyf wedi cynnig y bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn statudol i bob dysgwr yn y cwricwlwm newydd.