Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 1 Mai 2019.
Mae'r Aelod yn llygad ei lle—rydym wedi cadarnhau y byddwn yn parhau i ddarparu cymorth ffioedd dysgu i fyfyrwyr o'r UE sy'n dechrau eu hastudiaethau ym mlwyddyn academaidd 2019-20. Hoffwn yn fawr egluro'r sefyllfa ar gyfer 2020-21, ond ni allaf gadarnhau hynny hyd nes y bydd gennym safbwynt clir gan Lywodraeth y DU o ran darparu benthyciadau.