1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 1 Mai 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, a gaf fi ddechrau drwy ddiolch ichi am hwyluso'r briff ar y cwricwlwm newydd ddoe, a drefnwyd gan Lynne Neagle? Credaf mai'r argraff gyffredinol rwyf wedi'i chael ar y cam hwn yw y bydd yn cymryd peth amser i ddeall y newid mawr hwn o ran athroniaeth a diwylliant a'i droi'n gynlluniau gwersi go iawn, yn enwedig gan y bydd yn rhaid i ysgolion, wrth gwrs, ddarparu dwy set o gwricwla ysgol ar yr un pryd, ar gyllidebau cyfyngedig, am beth amser. Ond nid yw'r ffaith y bydd yn anodd yn golygu na ddylem wneud hynny, ac er fy mod yn teimlo'r un peth am y fformiwla ariannu, efallai y gallwn adael hynny at ddiwrnod arall.
Rwy'n Geidwadwr un genedl, felly rwy'n credu mewn cydgynhyrchu, cymdeithas fawr a grymuso unigolion i ysgwyddo cyfrifoldebau personol yn ogystal â'r ddyletswydd i rymuso'r rhai o'u cwmpas. Ac felly, byddaf yn cefnogi nodau cwricwlwm sy'n helpu i fagu pobl ifanc gwydn sy'n ddatryswyr problemau tosturiol ac yn cydnabod yr angen i gyfrannu eu doniau i gymdeithas yn ogystal â'u trethi i'r wladwriaeth. Ond byddant hefyd angen gwybodaeth fanwl am bynciau nad yw'n seiliedig ar eu profiadau a'u dewisiadau eu hunain yn unig. Nid yw hwn yn gwricwlwm sy'n seiliedig ar gynnwys—ailadroddwyd hynny sawl gwaith ddoe—ond bydd ganddo gynnwys a fydd yn seiliedig i raddau sylweddol ar ddewis staff a disgyblion. Sut y bydd ansawdd y doreth hon o gynnwys yn cael ei reoli?
Wel, yn gyntaf, a gaf fi ddweud fy mod yn falch fod yr Aelod yn credu bod y briff ddoe yn ddefnyddiol? Ac a gaf fi hefyd rannu ei diolch i Lynne Neagle, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a helpodd i hwyluso'r briff hwnnw? Rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau o'r pwyllgor, ac yn wir, y tu hwnt i'r pwyllgor, a roddodd o'u hamser i ddod i wrando ar y cyflwyniadau ddoe mewn perthynas â'r cwricwlwm newydd.
Credaf ei bod yn bwysig iawn cydnabod nad yw'r cwricwlwm yn brin o wybodaeth. Mae'n gwricwlwm sy'n adeiladu ar wybodaeth, sgiliau a'r profiadau y credaf y bydd eu hangen ar blant a phobl ifanc yng Nghymru er mwyn sicrhau, pan fyddant yn gadael yr ysgol, y byddant yn mynd yn eu blaenau i fyw bywydau personol llwyddiannus ac y byddant yn gallu cyfrannu'n llwyddiannus at y genedl.
O ran rheoli ansawdd, yn amlwg, cyhoeddwyd trefniadau asesu hefyd ddoe, sy'n dangos lle byddem yn disgwyl i blentyn fod, yn gyffredinol, mewn perthynas â'r chwe maes dysgu a phrofiad ar wahanol gamau drwy gydol eu gyrfa addysgol. Ac wrth gwrs, byddwn yn parhau i asesu'r plant hynny drwy ein cyfundrefnau asesu ar-lein arloesol, yn ogystal ag asesu athrawon. Ac wrth gwrs, bydd polisi cyffredinol profiad y cwricwlwm wedi'i ategu gan ein cyfundrefn atebolrwydd—atebolrwydd unigol yr athrawon, rôl llywodraethwyr, rôl ein consortia rhanbarthol neu ein gwasanaeth gwella ysgolion, ac yn y pen draw, wrth gwrs, Estyn, a fydd yn ymweld ag ysgolion yn amlach o dan ein trefn newydd nag y gwnânt ar hyn o bryd, a byddant yno i sicrhau bod y cwricwlwm a gyflwynir yn un o ansawdd uchel.
Wel, diolch am eich ateb. Credaf ei fod, mewn gwirionedd, yn gwestiwn eithaf anodd ei ateb y tu allan i'r byd traddodiadol o ran monitro ac asesu fel yr esbonioch chi nawr. Yn wir, croesawaf y syniad y bydd yn gwricwlwm mwy amrywiol, ond bydd canfod sut i gadw golwg ar hynny yn eithaf anodd. A chredaf y bydd y ffordd y mae'r cysylltiadau hynny'n gweithio dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yn bwysig iawn, gan y credaf y byddai'n deg dweud y bydd pob system newydd yn mynd drwy gyfnod o ymsefydlu, hyd yn oed gyda'r newidiadau llai anodd a welsom gyda'r cymwysterau 'a wnaed yng Nghymru' yn ddiweddar wrth symud rhai plant o BTEC i TGAU, a gwn pam y gwnaethoch hynny. Rydym wedi gweld rhywfaint o ddryswch ynglŷn â sut i feincnodi safonau. Yn amlwg, Cymwysterau Cymru sydd â'r prif rôl yn hyn o beth, ond hoffwn glywed eich barn ar sut y byddwn yn osgoi amharu ar y garfan o ddysgwyr trosiannol sy'n foch cwta—os caf eu galw'n hynny—a fydd yn cael eu haddysgu gan athrawon a all fod wedi cael y DPP ond heb gael unrhyw brofiad gwirioneddol o addysgu'r cwricwlwm yn ystod y blynyddoedd cyntaf hyn. Oherwydd gwelsom rai yn dioddef pan newidiasom o'r system ramadeg i'r system gyfun yr holl flynyddoedd yn ôl, cyn i'r system newydd ymsefydlu. A hoffwn sicrhau, fel yr hoffech chithau rwy'n siŵr, nad ydych am i'r risg honno gael ei hailadrodd.
Mae'r cysylltiad rhwng y cwricwlwm newydd a sut y bydd y cymwysterau'n edrych yn dal i fod yn aneglur iawn i mi. Felly, sut y byddwch yn helpu dysgwyr a gweithwyr proffesiynol i ddiogelu safonau a chyflawniad yn y cyfnod pontio hwn fel nad ydynt o dan anfantais ym marn sefydliadau addysg bellach, addysg uwch a chyflogwyr yn y dyfodol a fydd yn dylanwadu'n enfawr ar ddewisiadau ôl-16 dysgwr?
Wel, Suzy, y cam cyntaf rydym yn ei gymryd i sicrhau nad yw cyfleoedd bywyd plant yn dioddef oedd y penderfyniad a wneuthum yn flaenorol i gyflwyno'r cwricwlwm dros nifer o flynyddoedd, yn enwedig yn y sector uwchradd. Byddai wedi bod yn amhosibl dychmygu, y tu hwnt i amgyffred yn wir, i feddwl am newid y cwricwlwm yn ystod cyfnod astudio plentyn ym mlwyddyn 10 neu 11, a all fod yn allweddol. A dyna pam y byddwch yn ymwybodol y bydd y broses o gyflwyno'r cwricwlwm yn dechrau yn ein hysgolion uwchradd ym 2022 ym mlwyddyn 7, a bydd yn dilyn y garfan honno o blant.
O ran cyfnod ymsefydlu, fe fyddwch yn ymwybodol unwaith eto fy mod wedi gwneud y penderfyniad eithaf anodd i ohirio'r broses o roi'r cwricwlwm ar waith, ar ôl gwrando ar athrawon a ddywedodd wrthyf yn glir iawn y byddai angen mwy o amser arnynt i baratoi. Felly, cyhoeddwyd y drafft ddoe. Mae hwn bellach yn gyfnod o adborth gwirioneddol fel y gall pobl ymgysylltu—nid y proffesiwn addysgu yn unig, ond hefyd y cyflogwyr, y colegau, y prifysgolion y siaradoch chi amdanynt fel y gallant hwythau roi adborth inni yn ogystal. Cyhoeddir y cwricwlwm terfynol ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf, gan roi cyfnod sylweddol o amser, unwaith eto, i ysgolion, cyn iddo ddod yn statudol a chyn y bydd yn rhaid iddynt ei gyflwyno fel y gallant ymgysylltu'n iawn ag ef.
Fe fyddwch yn gwybod, drwy gydol y broses hon, fod Cymwysterau Cymru wedi bod yn rhan greiddiol o'r broses. Maent eisoes wedi dechrau eu gwaith ar y goblygiadau ar gyfer arholiadau diwedd blwyddyn 11, o ganlyniad i'r newidiadau i'r cwricwlwm. Dywedant yn glir iawn yn eu cyngor i mi fod y brand TGAU yn frand cryf—mae rhieni, disgyblion, cyflogwyr, addysg bellach ac addysg uwch yn ei ddeall yn dda ac maent yn disgwyl i TGAU barhau, ond yn amlwg, gallai fod angen i'r cynnwys newid. A byddwn yn parhau i weithio gyda'r corff annibynnol, Cymwysterau Cymru, i sicrhau bod yr arholiadau hynny'n rhoi pasbort i fyfyrwyr a phobl ifanc Cymru i mewn i'r byd gwaith ac i fyd astudio, p'un a'u bod yn gwneud hynny yng Nghymru neu'n dewis gwneud hynny yn rhywle arall.
Diolch am yr atebion hynny. Ydw, rwyf wedi siarad â Cymwysterau Cymru fy hun am hyn ac nid wyf yn siŵr o hyd beth fydd yn cael ei arholi ymhen rhyw saith mlynedd mewn arholiad TGAU. Rwy'n sylweddoli y gallem gael rhywfaint o eglurder ar hynny yn y cyfamser, ond mae gennyf bryderon o hyd ynglŷn â'r athrawon unigol sy'n dechrau ym mlwyddyn saith, a hyd yn oed os ydynt gyda'r un plant hyd nes blwyddyn 11 neu 12, ni fyddant wedi cael unrhyw brofiad blaenorol o addysgu hyn. Dyna pam y gofynnais y cwestiwn ynglŷn ag a fydd yno ryw fath o—nid wyf am eu galw'n 'drefniadau arbennig', ond lle i anadlu i blant sy'n rhan o'r broses yn ei saith mlynedd gyntaf.
Hoffwn symud ymlaen yn awr, gan aros gyda'r cwricwlwm: yn aml, mae Llywodraeth Cymru yn ein gwahodd i edrych ar gymaryddion rhyngwladol ac rwy'n siŵr y byddwn yn cael ein gwahodd i wneud hynny eto, yn gwbl briodol, yn ystod y dadleuon ar ddileu amddiffyniad cosb resymol. Cafodd cynigion yr Athro Donaldson eu hysbrydoli gan brofiadau gwledydd eraill—fel y gwyddom, roedd llawer ohonynt yn Sgandinafia—ac rydym wedi cael cyfle i'w gweld ar waith, yn nes at adref, yn yr Alban. Nawr, nid yw profiad yr Alban wedi bod heb ei broblemau ac rydych wedi rhoi sicrwydd inni, Weinidog, ar fwy nag un achlysur eich bod wedi dysgu gwersi gan yr Alban i osgoi eu camgymeriadau hwy. Yn ddiweddar, mae'r Alban wedi dysgu o'u camgymeriadau eu hunain. Mae pob un o'u cynghorau wedi cyfarwyddo eu hysgolion i addysgu adfywio cardio-pwlmonaidd ar gwricwlwm yr ysgol uwchradd. Mae'n orfodol ar y cwricwlwm yn 20 y cant o wledydd Ewrop, gan gynnwys Norwy a Denmarc—gwledydd Sgandinafaidd—ac yn Sweden, lle nad yw ar y cwricwlwm, mae'r siawns o oroesi ataliad ar y galon y tu allan i ysbyty yn is nag yng ngweddill Sgandinafia. Mae hyd yn oed America o gwmpas eu pethau bellach, gyda'r hyfforddiant hwn yn orfodol mewn 36 talaith. Os ydych yn barod i ddysgu gwersi gan yr Alban, pam na wnewch chi ddysgu'r wers hon?
Gadewch i mi ddechrau drwy ddweud bod sgiliau achub bywyd a gweithdrefnau cymorth cyntaf brys yn amlwg yn hynod o bwysig, ac rwy'n awyddus iawn i godi ymwybyddiaeth o'r sgiliau hynny. Buaswn yn annog pawb i ddysgu cymorth cyntaf, boed yn blant ysgol, neu yn wir, wedi gadael yr ysgol. Ond mater i'r ysgolion eu hunain yw penderfynu a ddylid darparu addysg cymorth cyntaf a'r cyfleoedd hynny o fewn y cwricwlwm, a sut i wneud hynny yn y ffordd orau.
Fel y gwyddoch o'r briff ddoe, mae'r cwricwlwm yn cynnwys maes dysgu a phrofiad newydd iechyd a lles—MDPh sydd wedi'i groesawu at ei gilydd gan bawb sydd wedi rhoi adborth hyd yma a bydd digon o gyfle o fewn y MDPh hwnnw i'r pynciau hyn gael eu haddysgu mewn ysgolion.
Fel y gwelsoch dros y penwythnos o bosibl, nododd Buzzfeed fod Llywodraeth y DU yn ystyried diddymu statws ffioedd cartref ar gyfer dinasyddion yr UE sy'n astudio yn Lloegr ar ôl 2021. Deallaf fod safbwynt presennol Llywodraeth Cymru yn diogelu'r sefyllfa bresennol hyd at flwyddyn academaidd 2019-20 yma yng Nghymru, a byddem ni, fel plaid, yn cefnogi hynny. Ond er budd parhad ac eglurder, a allwch gadarnhau na fydd Llywodraeth Cymru yn diddymu statws cartref a chymorth ariannol i fyfyrwyr yr UE ar ôl 2020?
Mae'r Aelod yn llygad ei lle—rydym wedi cadarnhau y byddwn yn parhau i ddarparu cymorth ffioedd dysgu i fyfyrwyr o'r UE sy'n dechrau eu hastudiaethau ym mlwyddyn academaidd 2019-20. Hoffwn yn fawr egluro'r sefyllfa ar gyfer 2020-21, ond ni allaf gadarnhau hynny hyd nes y bydd gennym safbwynt clir gan Lywodraeth y DU o ran darparu benthyciadau.
Iawn, diolch yn fawr iawn am hynny. Ac os caf ofyn pryd, yn eich trafodaethau â Llywodraeth y DU, y credwch y bydd modd i chi gael y cadarnhad hwnnw—o ymateb blaenorol a roddwyd gennych i'r pwyllgor addysg, rwy'n credu, dywedasoch fod hyn oherwydd rheolau'r Trysorlys. Felly, deallaf nad yw hynny bellach yn gymaint o her i chi. Ac os nad yw'n gymaint o her, a allech ddweud wrthym p'un a allech barhau â'r gefnogaeth i fyfyrwyr ar ôl 2019? Oherwydd, hyd y gwelaf, mae'r arian hwnnw yn ei le ar gyfer myfyrwyr yr UE eisoes. Felly, oni allem barhau â'r setliad presennol fel y mae—hynny yw, mae hynny eisoes yn ein cyllidebau fel rhan o'r hyn a gytunwyd gennym yma yn y Cynulliad—oherwydd, wrth gwrs, mae'n bwysig iawn nad yw myfyrwyr Ewropeaidd yn dewis mynd i ran arall o'r DU? Er enghraifft, yn yr Alban, maent wedi dweud y byddant yn ei ymestyn y tu hwnt i 2021, ac felly nid ydym am fod ar ein colled pan fydd myfyrwyr yn gwneud y penderfyniadau hynny yn y flwyddyn nesaf i benderfynu peidio â mynd i Gymru o bosibl, ac i fynd i'r Alban yn lle hynny, pan fydd arnom angen y gefnogaeth ariannol gan fyfyrwyr Ewropeaidd, gan ein bod yn colli rhai o'r myfyrwyr hynny eisoes, yn anffodus, oherwydd y trafodaethau ynghylch Brexit.
Wel, yn gyntaf, gadewch i mi ddweud yn glir fy mod am i gynifer o fyfyrwyr o'r UE, yn wir, cynifer o fyfyrwyr o bob cwr o'r byd, ddod i astudio yma yn ein prifysgolion. Mae gennym gynnig addysg uwch da iawn, a fyddai o fudd mawr iddynt. Hoffwn egluro i'r Aelod nad ein cyllidebau ein hunain sy'n berthnasol i'r pwynt hwn—mae angen inni gael cadarnhad gan Lywodraeth San Steffan ynghylch darparu benthyciadau. Os na chawn hynny, byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru warantu oddeutu £45 miliwn o gymorth i fyfyrwyr yr UE i sicrhau y byddai'r arian ar gael iddynt drwy gydol eu cyfnod astudio. Rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn cytuno â mi y byddai hynny'n peri risg sylweddol i gyllideb Llywodraeth Cymru. Dyna pam fod angen inni gael eglurder gan Lywodraeth San Steffan ynghylch mynediad at fenthyciadau. Heb yr eglurder hwnnw, nid wyf yn teimlo fy mod mewn sefyllfa i wneud ein cyllidebau yn agored i'r risgiau hynny. Rwyf wedi codi'r mater hwn gyda Gweinidog addysg uwch y DU, Mr Skidmore, ym mhob cyfarfod a gefais gydag ef. Fy nealltwriaeth o'r sefyllfa ar hyn o bryd yw ein bod yn annhebygol o gael penderfyniad neu gadarnhad cyhoeddus gan Lywodraeth San Steffan yn ystod y cyfnod purdah cyn yr etholiadau Ewropeaidd.
Diolch am eich ateb, ac nid wyf yn gofyn yn elyniaethus, rwy'n gofyn er mwyn rhoi cefnogaeth, oherwydd wrth gwrs, hoffem gefnogi safiad y Llywodraeth ar hyn gan ein bod yn cydnabod pa mor bwysig fyddai'r myfyrwyr hynny o'r UE i economi Cymru, ond hefyd i wella bywydau'r myfyrwyr nid yn unig o gyfandir Ewrop, ond hefyd bywydau'r myfyrwyr sydd yma yng Nghymru. Felly, os oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r benthyciad, byddem yn gwbl gefnogol i allu gwneud hynny er mwyn dangos bod Cymru yn agored i fusnes, er gwaethaf y trafodaethau ynghylch Brexit.
O ran y trydydd cwestiwn a'r cwestiwn olaf, roeddwn am ofyn mewn perthynas â pharhau â'r thema ynghylch diwygio'r cwricwlwm, ond yn benodol mewn perthynas ag addysg bellach. Rwyf wedi clywed bod llawer—. Cafwyd croeso i'r newid yn y broses ei hun, ond clywais gan rai yn y sector eu bod yn poeni ynglŷn â'r symud i ddysgu seiliedig ar waith ac i addysg ôl-16 mewn perthynas â'r cyfnod pontio. Felly, a allwch warantu y bydd y broses hon yn digwydd mewn ffordd ddi-dor fel y gellir sicrhau, pan fydd pobl yn gadael yr ysgol gyda'r newidiadau hyn o ran cymwysterau, pan fyddant yn cael mynediad at addysg ôl-16 neu ddysgu seiliedig ar waith, y gall y sgiliau hynny fod yn addasadwy i'r amgylchedd hwnnw ac y byddwch yn ymgysylltu â'r sector addysg ôl-16 yn yr un modd i'w cynnwys mewn unrhyw drafodaethau y byddwch yn eu cael ar y newidiadau i'r cwricwlwm?
Wel, rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth yr Aelod i safiad Llywodraeth Cymru o ran yr awydd i barhau i groesawu myfyrwyr yr UE i astudio yn ein prifysgolion. Rwy'n ddiolchgar iddi am ddeall nad ydym mewn sefyllfa i wneud cyhoeddiadau pellach hyd nes y cawn eglurder gan Drysorlys San Steffan ynghylch gallu'r myfyrwyr hynny i gael mynediad at fenthyciadau.
A gaf fi sicrhau'r Aelod fod addysg bellach wedi chwarae rhan fanwl yn y broses arloesi wrth ddatblygu'r cwricwlwm hyd yn hyn? Yn amlwg, byddem am i unrhyw blentyn a ddaw o'n hysgolion wedi i'r cwricwlwm gael ei roi ar waith feddu ar set o gymwysterau, sgiliau a doniau a fydd yn eu galluogi i fynd yn eu blaenau naill ai i'r byd gwaith neu i astudio mewn addysg bellach, boed hynny drwy brentisiaethau, drwy gyrsiau Safon Uwch academaidd traddodiadol neu gyrsiau galwedigaethol, ac mae cynrychiolwyr o'r sector addysg bellach wedi bod yn rhan o'r broses hyd yn hyn. Ond a gaf fi ddefnyddio'r cyfle hwn, Lywydd, i annog pawb sydd â diddordeb mewn addysg yng Nghymru i gymryd rhan yn y cyfnod rydym ynddo ar hyn o bryd, wrth i ni brofi, mireinio a herio ein hunain gyda datblygiad ein cwricwlwm newydd—y tro cyntaf yn hanes y genedl hon y byddwn wedi dyfeisio ein cwricwlwm ein hunain ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc?