Part of the debate – Senedd Cymru am 6:13 pm ar 1 Mai 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i Bethan Sayed am gyflwyno pwnc newydd a phwnc diddorol i'w drafod yma'r prynhawn yma. Dwi'n ymateb ar ran Comisiwn y Cynulliad, a dwi'n ddiolchgar am y cyfle i amlinellu'r sefyllfa gyfredol o ran cyfrifoldebau a chymhwysedd ynghlwm â llw Aelodau Cynulliad. Mi fydd y Llywodraeth hefyd yn ymateb am eu rôl a'u safbwynt nhw yn hyn o beth.
Ar hyn o bryd, yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006, mae rheidrwydd ar bob Aelod Cynulliad i dyngu llw neu ddatganiad cyffelyb o fewn deufis o gael eu hethol. Mae geiriad y llw presennol, fel yr adroddwyd gan Bethan Sayed, yn cael ei amlinellu yn adran 2 o Ddeddf Llwon Addewidiol 1868. Mae gan y Cynulliad y grym i newid rhai adrannau o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ond nid y ddarpariaeth sy'n amlinellu'r gofynion i dyngu llw. Byddai modd datganoli'r grym i newid yr adran berthnasol, fodd bynnag, byddai angen Mesur San Steffan i gyflawni hyn.
Ffordd amgen, ac o bosib symlach, i drosglwyddo'r cyfrifoldeb fyddai gwneud yr hyn a elwir yn Orchymyn adran 109. Gellid defnyddio hyn i newid Deddf Llywodraeth Cymru er mwyn rhoi'r cymhwysedd deddfwriaethol i'r Cynulliad newid y llw. Byddai Gorchymyn adran 109 yn cael ei osod yn San Steffan gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol a gerbron y Cynulliad yma gan Lywodraeth Cymru. Byddai angen cydsyniad dau Dŷ Senedd y Deyrnas Gyfunol yn ogystal â'r Cynulliad yma. Mae Rheol Sefydlog 25.26 yn caniatáu i unrhyw Aelod Cynulliad osod cynnig i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Gorchymyn arfaethedig dan adran 109. Dan Reol Sefydlog 25.25, hefyd, gall unrhyw bwyllgor gynnig Gorchymyn adran 109.
Serch hyn, mae'r canllaw datganoli—y devolution guidance note—a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Prydain am ddeddfwriaeth San Steffan sy'n effeithio ar Gymru yn glir ar un mater, sef bod y canllaw yn dweud bod Llywodraeth Prydain yn disgwyl i drafodaethau fynd rhagddynt rhwng y ddwy Lywodraeth, am fod angen i'r Gorchymyn 109 ddod gerbron San Steffan a'r Cynulliad gan y ddwy Lywodraeth. Mewn sefyllfa pe bai mwyafrif yn cefnogi trosglwyddo'r pŵer perthnasol o San Steffan i Gymru, byddai angen Bil, wrth gwrs, yn y Cynulliad yma i weithredu'r pŵer hwn.
Wrth gwrs, dim ond yr ystyriaethau proses yr wyf i wedi eu nodi hyd yn hyn. I weithredu unrhyw newid yn y llw, byddai angen sicrhau'r ewyllys gwleidyddol a mwyafrif drwy bleidlais i wneud hynny—yn San Steffan ac yn y Senedd yma.
Mae'n glir bod testun y ddadl yma wedi ennyn cryn ddiddordeb ac wedi cychwyn ar drafodaeth. Mae'n fy atgoffa i o'r tro hynny ym 1997, fel maer Aberystwyth, y newidiais i'r llwnc destun o lwnc destun i'r Frenhines i lwnc destun i bobl Aberystwyth. Ond doedd dim angen deddf gwlad na newid cyfansoddiadol arnaf i bryd hynny—dim ond dyfal barhad a bach o berswâd.
Fy nghyngor i, felly, i unrhyw Aelod sy'n dymuno gweithredu newid o'r fath yma, neu unrhyw newid ar unrhyw fater, yw mynd ati i gynnal trafodaeth gadarnhaol ymysg Aelodau yn y lle yma, ymysg pobl Cymru ac ar draws y pleidiau, wrth gwrs, ac i ennill cefnogaeth mwyafrif. Mae popeth yn bosib, ond dim ond drwy ennill cefnogaeth.