– Senedd Cymru am 6:01 pm ar 1 Mai 2019.
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Bethan Sayed i siarad am y pwnc a ddewisodd. Bethan.
Fel gweriniaethwr, rwyf fi, Bethan Sayed, yn tyngu llw o deyrngarwch yn ddifrifol, yn ddiffuant ac yn ddidwyll i bobl Cymru o hyn tan ddiwedd fy nhymor yn y swydd, fy mod yn addo cyflawni dyletswyddau fy swydd yn ffyddlon er mwyn diogelu ac amddiffyn lles, buddiannau gorau a hawliau pobl Cymru.
Fel gweriniaethwr, yr wyf fi, Bethan Sayed, yn datgan yn ddiffuant ac yn ddidwyll, yn cadarnhau ac yn tyngu fy nheyrngarwch i bobl Cymru o'r cyfnod hwn tan ddiwedd fy nhymor yn y swydd, fy mod yn addo cyflawni dyletswyddau fy swydd yn ffyddlon i ddiogelu ac amddiffyn lles, buddiannau a hawliau pobl Cymru.
Dyma'r tro cyntaf yn y lle hwn i mi gael cyfle i fynegi'r hyn sydd ar fy meddwl ac sydd yn fy nghalon yn wir lw o deyrngarwch. Pan fyddwn yn tyngu llw i rywbeth, mae'n hollbwysig ein bod yn credu y llw hwnnw. Mae hyn yn wir yn unrhyw ran o fywyd—mae'n wir mewn llys, mae'n wir mewn sgwrs. Dyma sydd wrth wraidd ymddiried mewn rhywbeth. Mae'n hanfodol i'r modd yr ydym yn cynrychioli'r pobl—ein bod yn credu yn yr hyn yr ydym yn ei ddweud a'n bod ni fel cynrychiolwyr yn anrhydeddu ein credoau. Ond yng Nghymru, pan fyddwn yn tyngu llw fel cynrychiolwyr yma, mae llawer ohonom yn tyngu llw i sefydliad nad ydym yn credu ynddo, nid o ddewis na malais nac ymgais i gamarwain, ond am fod yn rhaid i ni er mwyn cymryd ein seddi yma. Mewn ffordd, rydym yn cael ein bygwth i dyngu rhywbeth nad ydym yn credu ynddo. Mae hyn yn system gwbl annerbyniol.
Nawr, mae rhai pobl wedi dweud—rhai pobl sydd ddim yma yn y Senedd rhagor—na ddylai hyn fod yn flaenoriaeth. Maen nhw wedi gofyn pam ar y ddaear fy mod i'n codi rhywbeth fel hyn sydd mor ymddangosiadol ddibwys. Ond dwi'n anghytuno'n llwyr gyda nhw. Mae hwn yn fater pwysig iawn. Pan fyddwn yn tyngu llw, mae fersiwn o dyngu llw ym mhob diwylliant, ac mae bron pob gwlad yn y byd yn mynnu bod aelodau cyrff yn tyngu llw neu gytuno i gynnal rhai gwerthoedd, gweithredoedd ac egwyddorion mewn bywyd cyhoeddus. Yn y Cynulliad, mae gofyn inni gadw at egwyddorion Nolan o fywyd cyhoeddus, ac mae moesoldeb a rheolau'n bwysig, fel ym mhob corff seneddol arall bron ledled y byd. Mae'r rheolau a'r prosesau hyn yma oherwydd bod disgwyliadau a galw o du'r cyhoedd sy'n dweud eu bod yn bwysig, ond mae'n ymddangos nad oes yna le i rai Aelodau, yn eu gweithred gyntaf yn yr ystafell yma, i dyngu i rywbeth y maent yn credu ynddo.
Dyma'r hyn y mae pobl yn tyngu ar hyn o bryd, 'Yr wyf fi—enw'r Aelod Cynulliad penodol—yn tyngu y byddaf yn ffyddlon ac yn wir deyrngar i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, ei hetifeddion a'i helynwyr, yn unol â'r gyfraith. Cynorthwyed Duw fi.' Wel, dwi ddim yn credu yn y gosodiad yma. Dwi'n weriniaethwr a dwi'n falch iawn o hynny. Rwy'n deall nad yw pawb yn weriniaethwyr ac felly mae rhwydd hynt iddyn nhw anghytuno. Dwi'n parchu hynny. Dyna yw gwir natur democratiaeth. Ond dylai'r parch hwnnw fynd y ddwy ffordd. Rwy'n parchu Aelodau sydd am dyngu llw o deyrngarwch i'r Frenhines, er nad wyf i'n llwyr yn deall pam nac yn cytuno â'u hawydd i wneud hynny. Ond nid yw fy nymuniad i a nifer eraill i beidio â gwneud hynny yn cael ei barchu. Nid yw'n cael ei barchu chwaith yn yr Alban, Lloegr, na gwledydd eraill lle mae'r Frenhines yn ben ar y wladwriaeth, fel Awstralia a Chanada.
Yr hyn sy'n od am y llw uchod yw bod trefniant ar gael i gymryd llw gwahanol ar sail cred grefyddol rhywun, ond nid am dyngu llw neu beidio i'r frenhiniaeth. Mae fy nghred i yn ei gwneud yn amhosib i mi wir dyngu teyrngarwch i'r Frenhines neu i'w hetifeddion am nad ydw i yn y bôn yn cytuno gyda'r sefydliad y mae'n ei gynrychioli. Dyw e ddim yn cyd-fynd â fy nghredoau na'r fath o Gymru rwyf am weld i'r dyfodol, ac, eto, os wyf am eistedd yn y sedd benodol yma, mae'n rhaid i mi ei wneud e. Dyw'r peth ddim yn gwneud synnwyr i fi.
Ond mae opsiynau i'r rheini ohonom a ddylai allu tyngu llw gwahanol yn seiliedig ar ein cydwybod, ond byddai'n galw am newid Deddf Llywodraeth Cymru yn San Steffan. Er nad wyf yn rhagweld y bydd hyn yn digwydd yfory, os na fyddwn yn trafod rhai materion, yna yn sicr ni fyddant byth yn newid. Mae'n codi proffil y mater hwn ac yn rhoi cychwyn ar ddadl fywiog. Mae eisoes wedi ysgogi meddyliau a theimladau dros yr wythnos hon yn unig.
Ar draws y byd, ceir amrywiaeth o opsiynau ar gyfer llw gwahanol—llw i'r bobl neu'r wlad y mae deiliaid swyddi'n eu cynrychioli. Yn yr Unol Daleithiau, ceir gofyniad i gynnal, diogelu ac amddiffyn y cyfansoddiad—hen ddogfen a luniwyd er hynny i lywio'r wlad honno ac sy'n arddel ei hegwyddorion llywodraethu sylfaenol. Yn yr Almaen, mae iaith deiliaid swyddi fel y Canghellor a Gweinidogion eraill yn cynnwys tyngu llw i ystyried a diogelu lles dinasyddion. Yn Ffrainc, mae'n ofynnol amddiffyn y weriniaeth a'r gwerthoedd y cafodd ei sefydlu arnynt.
Yng Ngogledd Iwerddon, nid oes gofyniad i dyngu llw o gwbl oherwydd y sensitifrwydd ynghylch gwneud hynny—mae pawb ohonom yn derbyn hynny—ond hefyd am fod cydnabyddiaeth, a hynny'n bennaf oherwydd gelyniaeth hanesyddol, i gredoau'r gweriniaethwyr. Byddai'n amhosibl gorfodi teyrngarwch i'r frenhines yng Ngogledd Iwerddon heb wadu cynrychiolaeth i gyfran helaeth o'r bobl yno. Mae hyn hefyd yn seiliedig ar yr egwyddor fod llawer o bobl yng Ngogledd Iwerddon nad ydynt yn dymuno tyngu llw i rywbeth y maent yn anghytuno'n sylfaenol ag ef. Ond yma nid oes y fath gydnabyddiaeth o safbwyntiau ehangach. Yma, mae gennym fygythiad yn hongian uwch ein pennau, 'Plygwch lin, tyngwch lw, neu collwch eich sedd.' Mae'n codi cwestiwn ynglŷn â pha mor ddemocrataidd yw ein system mewn gwirionedd. Byddai rhai'n dweud na allwn fod yn ddemocratiaeth fel rhan o system freniniaethol, ond dadl ar gyfer diwrnod arall yw honno.
Gadewch inni fod yn glir ynglyn â hyn, mae fy ngorfodi i ac eraill i dyngu llw o deyrngarwch i sefydliad nad ydym yn credu ynddo er mwyn cymryd ein seddau, yma ac yn San Steffan, yn dangos bod sefydliad y Deyrnas Unedig yn rhoi ymlyniad at draddodiad hynafol ac anachronistaidd o flaen normau democrataidd. Nid yw'n iawn fod gennym system yn San Steffan, a ddilynir yma, sy'n gwahardd gweriniaethwyr sy'n cynrychioli cannoedd ar filoedd o bobl yng Ngogledd Iwerddon rhag cymryd eu seddau fel enghraifft o osod traddodiad uwchlaw disgwyliadau democrataidd arferol.
Felly, pam y dylem fod yn fodlon â'r system? Oherwydd mai dyma'r ffordd y mae bob amser wedi'i wneud? Wel, rwy'n gwrthod hyn. Nid yw un o'r rhesymau a glywais o'n proses bresennol o dyngu llw ac addo teyrngarwch yn cydnabod normau democrataidd fel y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn eu deall chwaith. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol a seneddau eraill y DU yn arfer grym ar ran y sawl sydd ar yr orsedd ac yn ôl eu disgresiwn, oherwydd bod y sawl sydd ar yr orsedd yn dewis peidio ag arfer eu pwerau uchelfreiniol. Mae llawer ohono'n seiliedig ar gymysgedd o weithdrefnau a chyfreithiau hirsefydlog sy'n ymestyn yn ôl dros ganrifoedd. Ceir cyfreithiau a chynseiliau o hyd sy'n dylanwadu ar Lywodraethau etholedig a'u perthynas â'r frenhiniaeth ac sy'n ymestyn yn ôl i ryfel cartref Lloegr neu i gynseiliau a phwerau a arferid ar ran y frenhiniaeth gan Robert Walpole, y Prif Weinidog cyntaf, er nad dyna oedd ei deitl ffurfiol ar y pryd.
Mae'r ymlyniad hen ffasiwn i draddodiad er ei fwyn ei hun yn dangos un o'r problemau sylfaenol a esgeuluswyd mewn perthynas â'r frenhiniaeth—y pŵer a'r parch gormodol a roddir i sefydliad heb gyfreithlondeb etholedig. Buaswn yn fodlon betio nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod yn iawn faint o bŵer sydd gan y frenhiniaeth yn ddamcaniaethol ond ei bod yn dewis peidio â'i ddefnyddio. Mae'n un o'r rhesymau pam y mae gennym ein llw presennol: ymostyngiad cyfeiliornus i setliad gwleidyddol y mae'n hen bryd ei adolygu mewn gwlad fodern, mewn Cymru fodern.
Felly, sut fath o lw gwahanol? Wel, rwyf wedi gofyn am syniadau ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon ac roedd y mwyafrif helaeth yn adeiladol, a chefais fy synnu gan nifer y bobl sydd wedi cysylltu â mi i gynnig eu hawgrymiadau a'u syniadau. Un thema gyffredin a redai drwy'r awgrymiadau oedd ymrwymiad i bobl Cymru wrth gwrs, ond hefyd ymrwymiad i wella bywydau'r bobl, i sicrhau eu lles, i weithredu er eu budd gorau, fel y'n hetholwyd i'w wneud, i ystyried penderfyniadau a gweithredu mewn ffordd sy'n cynnal gwerthoedd y sefydliad hwn, i dryloywder a gonestrwydd, ac i ddiogelu diwylliant ac iaith Cymru—llu o syniadau'n seiliedig ar yr egwyddor y dylai grym ddeillio o'r bobl a'n rhoddodd yma, nid i frenhines sy'n gweld yn dda i ddatganoli i ni ei phŵer dwyfol a etifeddwyd.
Felly, beth am y llw a awgrymais ar y cychwyn? Ceir cymaint o ffurfiau eraill posibl arno ac yn y pen draw, yr hyn y mae gennyf fi ddiddordeb ynddo yw bod yr opsiwn yn bodoli. Nid wyf yn poeni gormod nac yn bod yn rhagnodol ynghylch y geiriad ei hun. Yr hyn rwy'n poeni yn ei gylch yw'r pwynt sylfaenol hwn o egwyddor, ynglŷn â rhoi pobl Cymru wrth wraidd popeth a wnawn fel ACau, o'r funud y byddwn yn tyngu'r llw ymlaen. Mae'n ddatganiad clir o fwriad. Roedd yn wych—. Rwy'n clywed cryn dipyn o sylwadau gan rai ar eu heistedd, ond ni ofynnwyd imi am funud, felly, gyda phob dyledus barch, rhowch gyfle i mi wneud fy araith.
Roedd yn wych gweld y diddordeb yn y ddadl hon, sy'n profi, yn wahanol i awgrymiadau rhai pobl nad oedd hwn yn fater roedd gan unrhyw un ddiddordeb ynddo, ei fod, mewn gwirionedd, yn rhywbeth roedd llawer iawn o bobl yn teimlo'n angerddol yn ei gylch. Mae perthynas pobl Cymru â'r frenhiniaeth yn newid, a chredaf fod hynny'n dod yn gliriach yn awr. Rhaid inni adeiladu cefnogaeth ar gyfer dadl ar ein gwerthoedd yma yng Nghymru a ph'un a ydym yn credu bod y frenhiniaeth yn cyd-fynd â'r gwerthoedd penodol hynny ai peidio. Dechrau yn unig yw hyn. Fel y gwelsom gyda'r ymateb i ailenwi pont Hafren, nid yw pobl yn barod i dderbyn rhywbeth yn syml oherwydd bod hyrwyddiad brenhinol ynghlwm wrtho. Mae'r llanw ar droi.
Yn ein Llywodraeth ac yn ein cyrff cynrychioliadol, nid wyf yn credu y dylem dderbyn pethau fel y maent yn ddigwestiwn, oherwydd ni fydd dim yn newid yn ein bywydau o fod felly. Mae hwn yn faes y dylid ei ddiwygio. Dyma'r peth iawn i'w wneud. Mae'n beth cymharol hawdd i'w wneud. Nid wyf yn gofyn am gael gwared ar y llw presennol i'r Frenhines. Byddai rhai am weld hynny, ond nid wyf yn dweud hynny. Os oes gennym opsiwn i beidio â gwneud llw crefyddol, sydd hefyd yn deg, dylem hefyd gael y dewis i beidio â thyngu llw i deulu brenhinol, system nad yw rhai ohonom yn credu ynddi o gwbl. Gadewch i ni barhau â'r ddadl hon. Gadewch inni wneud hynny mewn ffordd deg ac agored, a gadewch inni barchu barn ein gilydd pan ddown at y ddadl hon, oherwydd mae pob un ohonom yn wahanol ac mae gennym hawl i'n barn, a dylem oll gael ein parchu am y safbwyntiau hynny hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Llywydd i ymateb ar ran Comisiwn y Cynulliad—Elin Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i Bethan Sayed am gyflwyno pwnc newydd a phwnc diddorol i'w drafod yma'r prynhawn yma. Dwi'n ymateb ar ran Comisiwn y Cynulliad, a dwi'n ddiolchgar am y cyfle i amlinellu'r sefyllfa gyfredol o ran cyfrifoldebau a chymhwysedd ynghlwm â llw Aelodau Cynulliad. Mi fydd y Llywodraeth hefyd yn ymateb am eu rôl a'u safbwynt nhw yn hyn o beth.
Ar hyn o bryd, yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006, mae rheidrwydd ar bob Aelod Cynulliad i dyngu llw neu ddatganiad cyffelyb o fewn deufis o gael eu hethol. Mae geiriad y llw presennol, fel yr adroddwyd gan Bethan Sayed, yn cael ei amlinellu yn adran 2 o Ddeddf Llwon Addewidiol 1868. Mae gan y Cynulliad y grym i newid rhai adrannau o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ond nid y ddarpariaeth sy'n amlinellu'r gofynion i dyngu llw. Byddai modd datganoli'r grym i newid yr adran berthnasol, fodd bynnag, byddai angen Mesur San Steffan i gyflawni hyn.
Ffordd amgen, ac o bosib symlach, i drosglwyddo'r cyfrifoldeb fyddai gwneud yr hyn a elwir yn Orchymyn adran 109. Gellid defnyddio hyn i newid Deddf Llywodraeth Cymru er mwyn rhoi'r cymhwysedd deddfwriaethol i'r Cynulliad newid y llw. Byddai Gorchymyn adran 109 yn cael ei osod yn San Steffan gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol a gerbron y Cynulliad yma gan Lywodraeth Cymru. Byddai angen cydsyniad dau Dŷ Senedd y Deyrnas Gyfunol yn ogystal â'r Cynulliad yma. Mae Rheol Sefydlog 25.26 yn caniatáu i unrhyw Aelod Cynulliad osod cynnig i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Gorchymyn arfaethedig dan adran 109. Dan Reol Sefydlog 25.25, hefyd, gall unrhyw bwyllgor gynnig Gorchymyn adran 109.
Serch hyn, mae'r canllaw datganoli—y devolution guidance note—a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Prydain am ddeddfwriaeth San Steffan sy'n effeithio ar Gymru yn glir ar un mater, sef bod y canllaw yn dweud bod Llywodraeth Prydain yn disgwyl i drafodaethau fynd rhagddynt rhwng y ddwy Lywodraeth, am fod angen i'r Gorchymyn 109 ddod gerbron San Steffan a'r Cynulliad gan y ddwy Lywodraeth. Mewn sefyllfa pe bai mwyafrif yn cefnogi trosglwyddo'r pŵer perthnasol o San Steffan i Gymru, byddai angen Bil, wrth gwrs, yn y Cynulliad yma i weithredu'r pŵer hwn.
Wrth gwrs, dim ond yr ystyriaethau proses yr wyf i wedi eu nodi hyd yn hyn. I weithredu unrhyw newid yn y llw, byddai angen sicrhau'r ewyllys gwleidyddol a mwyafrif drwy bleidlais i wneud hynny—yn San Steffan ac yn y Senedd yma.
Mae'n glir bod testun y ddadl yma wedi ennyn cryn ddiddordeb ac wedi cychwyn ar drafodaeth. Mae'n fy atgoffa i o'r tro hynny ym 1997, fel maer Aberystwyth, y newidiais i'r llwnc destun o lwnc destun i'r Frenhines i lwnc destun i bobl Aberystwyth. Ond doedd dim angen deddf gwlad na newid cyfansoddiadol arnaf i bryd hynny—dim ond dyfal barhad a bach o berswâd.
Fy nghyngor i, felly, i unrhyw Aelod sy'n dymuno gweithredu newid o'r fath yma, neu unrhyw newid ar unrhyw fater, yw mynd ati i gynnal trafodaeth gadarnhaol ymysg Aelodau yn y lle yma, ymysg pobl Cymru ac ar draws y pleidiau, wrth gwrs, ac i ennill cefnogaeth mwyafrif. Mae popeth yn bosib, ond dim ond drwy ennill cefnogaeth.
Diolch. A gaf fi alw ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn awr i ymateb ar ran y Llywodraeth? Jane Hutt.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Bethan Sayed am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw. Mae tyngu llw fel Aelod Cynulliad yn un o'r adegau pwysicaf yn ein gyrfaoedd gwleidyddol. Gallwn gofio'r amseroedd. Rwy'n credu bod naw ohonom wedi bod trwy hyn mewn gwirionedd; tri—pedwar, pump—yn y Siambr heddiw. Pedwar ohonom sydd wedi bod yn—na, pump—. Beth bynnag, rydym ni yma am ei fod yn golygu llawer i ni ac i barchu'r ffaith eich bod chi wedi cyflwyno hyn. Yn ddiddorol, rydych yn ei gyflwyno ar adeg pan fyddwn, yr wythnos nesaf, yn dathlu, nodi, 20 mlynedd o ddatganoli.
Ond mae'n gyfnod pwysig, o ran tyngu llw. Mae'n nodi'r newid o fod yn wleidydd i fod yn Aelod o'r Cynulliad, neu barhau ar ôl, neu olynu eraill, a hefyd parhau fel Aelod Cynulliad, yn gwasanaethu ein hetholaethau a phobl Cymru, yma yn y Senedd ac adref. Felly, rydych wedi codi nifer o bethau diddorol a phwysig, Bethan, yn y ddadl fer hon am y llw.
Nid mater i Lywodraeth Cymru yw ymateb i'r modd y mae Aelodau'n tyngu'r llw, a ffurf y geiriau y maent yn eu defnyddio, ond roeddwn yn falch fod y Llywydd wedi ymateb i'r ddadl fer hefyd heno, gan nodi'r sefyllfa bresennol o ran y materion gweithdrefnol a chyfreithiol sy'n codi o bwnc y ddadl hon. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.