Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 1 Mai 2019.
Gwnaf. Diolch am y cwestiwn. Rydym am weld gwasanaethau meddygon teulu cynaliadwy a hygyrch ledled Cymru, gan gynnwys, wrth gwrs, ym Mlaenau Gwent. Mae practisau meddygon teulu yn defnyddio elfennau o'r model gofal sylfaenol newydd i wella'r ffordd y maent yn darparu gwasanaethau gyda chleifion, ac ar eu cyfer.