Rhaglenni Sgrinio ar gyfer Canser

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 1 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:20, 1 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn. Mae sgrinio'r boblogaeth yn flaenoriaeth iechyd y cyhoedd. Gwyddom fod rhaglenni sgrinio ar gyfer canser yn achub bywydau. Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n gyfrifol am ddarparu'r rhaglenni sgrinio ar gyfer canser yng Nghymru ac maent yn goruchwylio gwelliannau sylweddol gyda'r bwriad o gynyddu'r nifer sy'n manteisio arnynt, ac atal mwy o ganserau wrth gwrs.