2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 1 Mai 2019.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglenni sgrinio ar gyfer canser yng Nghymru? OAQ53783
Diolch am eich cwestiwn. Mae sgrinio'r boblogaeth yn flaenoriaeth iechyd y cyhoedd. Gwyddom fod rhaglenni sgrinio ar gyfer canser yn achub bywydau. Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n gyfrifol am ddarparu'r rhaglenni sgrinio ar gyfer canser yng Nghymru ac maent yn goruchwylio gwelliannau sylweddol gyda'r bwriad o gynyddu'r nifer sy'n manteisio arnynt, ac atal mwy o ganserau wrth gwrs.
Diolch, Weinidog. Yn gynharach eleni, daeth staff fy swyddfa a minnau yn hyrwyddwyr sgrinio ar gyfer canser ar ôl cwblhau sesiwn hyfforddi o dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rwyf hefyd yn falch o fod yn hyrwyddwr canser y coluddyn cyntaf y Cynulliad, ac rwy'n falch iawn fod wyth o fy nghyd-Aelodau wedi cytuno i wneud hynny wedyn. Yn anffodus, gan Gasnewydd y mae un o'r cyfraddau isaf yng Nghymru o ran y nifer sy'n cael eu sgrinio ar gyfer canser. Yn genedlaethol ledled Cymru, 55 y cant yn unig a fanteisiodd ar ddarpariaeth sgrinio'r coluddyn y llynedd. Mae'n hanfodol ein bod yn cynyddu nifer y bobl sy'n manteisio ar y rhaglenni sgrinio rhad ac am ddim hyn a allai achub bywydau.
Mae'r prawf imiwnocemegol ysgarthol newydd ar gyfer sgrinio'r coluddyn, sy'n symlach ac yn fwy sensitif, wedi bod ar gael yng Nghymru ers mis Ionawr. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi cyhoeddusrwydd i'r prawf newydd hwn ac i annog y rheini sy'n gymwys i gymryd rhan ym mhob rhaglen sgrinio?
Diolch am eich cwestiwn. Rydych yn gywir i ddweud ein bod wedi dechrau cyflwyno'r prawf newydd, sy'n fwy sensitif, ac yn bwysicach, yn haws i'w gynnal ers mis Ionawr eleni. Bydd yn cael ei weithredu'n llawn ledled Cymru erbyn mis Mehefin eleni. A dweud y gwir, pan fydd pobl yn derbyn eu gwahoddiad i wneud y prawf, mae hynny'n rhan o'r cysylltiad uniongyrchol â phobl, ac mae hefyd yn rhan o'n neges ehangach ynghylch y ffaith bod sgrinio yn achub bywydau. Mae'n bwysig ei gyflwyno mewn ffordd lle nad ydym yn creu mwy o alw nag y gall ein system ymdopi ag ef. Dyna pam ein bod wedi dewis dull graddol, a chael mwy o sensitifrwydd yn y prawf er mwyn sicrhau bod gennym y nifer gywir o bobl i ddarparu triniaeth wedi hynny. Felly, ar bob cam, byddwn yn parhau i adolygu'r ffigurau ar y nifer sy'n manteisio ar y profion ac effaith hynny ar y gwasanaeth. Gallwch ddisgwyl clywed yr anogaeth honno yn rheolaidd, neges syml gan y Llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddefnyddio'r prawf, i fanteisio arno, gan y bydd cymryd rhan yn y broses sgrinio honno yn achub bywydau.
Weinidog, mae'n amlwg bod sgrinio ar gyfer canser y coluddyn yn faes pwysig. Mae'r prawf imiwnocemegol ysgarthol yn seiliedig ar sensitifrwydd, ac mewn gwirionedd, bydd lefel y sensitifrwydd yn hanfodol yn hynny o beth, ond hefyd yr oedran, o bosibl, oherwydd ar hyn o bryd, 60 yw'r oedran hwnnw ond gallai ostwng i 50, ond ceir profion ceg y groth hefyd. Felly, ceir amrywiaeth o brofion sy'n lleihau o ran y nifer sy'n eu cael, yn y bôn. Pa drafodaethau rydych yn eu cael gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau ein bod yn hyrwyddo'r profion hyn, fel bod mwy o bobl yn eu cael, oherwydd, fel y dywedwch, rydych yn eu cael yn gynnar a gallwn atal pobl rhag cael canser gan y gallwn weld pethau'n gynharach neu gallwn eu trin yn gynharach, sy'n golygu diagnosis cynharach a chanlyniadau gwell?
Rydych yn iawn, ac wrth gwrs, mae'n achos pryder fod dirywiad araf wedi bod, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU, o ran nifer y bobl sy'n manteisio ar y profion ceg y groth a gynigir. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol ag edrych i weld a fydd newid yn y prawf, ac mae rhywfaint o ymchwil yn mynd rhagddo ar hunan-sgrinio. Bydd cynllun peilot yn dechrau ym mis Medi eleni yn Llundain, felly bydd diddordeb gennyf yn y canlyniadau, a fydd yn cael eu rhannu ledled y DU. Ond mae a wnelo hyn ag atgyfnerthu'r neges a deall pa grwpiau penodol y mae angen inni eu targedu, gan mai menywod iau yw'r lleiaf tebygol o fanteisio ar y profion sydd ar gael. Felly, fe fyddwch wedi gweld yr ymgyrch #loveyourcervix a gychwynnwyd gennym ym mis Mawrth. Roeddem am weld rhywbeth a oedd yn fwy cadarnhaol am y corff, fel na fyddai pobl yn teimlo embaras ynglŷn â mynychu, ac adnabod yr un neges, unwaith eto, gyda sgrinio'r coluddyn. Mae'r profion wedi'u cynllunio i helpu i achub bywydau ac mae peidio â chymryd y prawf yn golygu bod risg anhysbys i'r unigolyn dan sylw ac yn fwy cyffredinol. Felly, rwy'n fwy na pharod i ailadrodd y neges fy mod am i bawb sy'n cael cynnig prawf sgrinio yng Nghymru fanteisio ar y cyfle i wneud hynny er eu mwyn hwy a'u teuluoedd.