Rhaglenni Sgrinio ar gyfer Canser

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 1 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:22, 1 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae'n amlwg bod sgrinio ar gyfer canser y coluddyn yn faes pwysig. Mae'r prawf imiwnocemegol ysgarthol yn seiliedig ar sensitifrwydd, ac mewn gwirionedd, bydd lefel y sensitifrwydd yn hanfodol yn hynny o beth, ond hefyd yr oedran, o bosibl, oherwydd ar hyn o bryd, 60 yw'r oedran hwnnw ond gallai ostwng i 50, ond ceir profion ceg y groth hefyd. Felly, ceir amrywiaeth o brofion sy'n lleihau o ran y nifer sy'n eu cael, yn y bôn. Pa drafodaethau rydych yn eu cael gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau ein bod yn hyrwyddo'r profion hyn, fel bod mwy o bobl yn eu cael, oherwydd, fel y dywedwch, rydych yn eu cael yn gynnar a gallwn atal pobl rhag cael canser gan y gallwn weld pethau'n gynharach neu gallwn eu trin yn gynharach, sy'n golygu diagnosis cynharach a chanlyniadau gwell?