Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 1 Mai 2019.
Cefais gadarnhad gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan heddiw, mai 34 yn unig o'u 398 o feddygon teulu sydd ym Mlaenau Gwent, sef 8.5 y cant o'r cyfanswm o gymharu, efallai, â'r oddeutu 12 y cant y byddem yn ei ddisgwyl yn ôl poblogaeth. Un ffordd y maent yn ceisio mynd i'r afael â hyn yw drwy'r meddygon teulu a gyflogir yn uniongyrchol, ac roeddwn yn falch o glywed bod y mwyafrif ohonynt, mewn gwirionedd, ym Mlaenau Gwent, ond roeddwn yn llai hapus o glywed bod hynny'n golygu pedwar yn unig o'r saith meddyg cyfwerth ag amser llawn.
A yw'r Gweinidog yn credu y gellid ehangu'n sylweddol nifer y meddygon teulu a reolir, ac a gyflogir yn uniongyrchol gan y byrddau iechyd, er mwyn mynd i'r afael, yn rhannol o leiaf, â'r prinder a'r anhawster i gael mynediad at feddygon teulu ym Mlaenau Gwent?